Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Yn dilyn y daeargrynfeydd ofnadwy diweddar ym Myanmar, mae Llywodraeth Cymru yn estyn ei chydymdeimlad dwysaf at bawb yr effeithiwyd arnynt, ac rydym heddiw yn rhoi rhodd o £100,000 i Apêl y Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC) ar gyfer dioddefwyr y Ddaeargryn ym Myanmar.
Ar 28 Mawrth am tua 1pm amser lleol, cafodd rhannau enfawr o Myanmar eu taro a’u dinistrio gan ddaeargryn pwerus maint 7.7, gydag ôl-gryniad cryf o faint 6.4 yn dilyn yn fuan. Cofnodwyd crynfeydd llai wedi hynny. Amcangyfrifir bod hyd at 10.1 miliwn o bobl o fewn dalgylch crynfeydd mawr a mawr iawn; a 7,000 o bobl yn ardal y grynfa fwyaf difrifol.
Mae arweinwyr milwrol Myanmar wedi gwneud cais, anarferol iddyn nhw, i’r byd am help dyngarol brys ac wedi datgan stâd o argyfwng mewn chwe rhanbarth. Mae'r wlad yn ceisio dygymod ag un o'r argyfyngau dyngarol mwyaf difrifol yn y byd gyda thua 19.9 miliwn o bobl angen cymorth, sef dros draean o'r boblogaeth.
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Pwyllgor Argyfyngau Brys Cymru i helpu i drefnu'r ymdrechion i godi arian yng Nghymru, ac rydym yn falch o gael cyfrannu at Apêl DEC Daeargryn Myanmar. Mae'r Pwyllgor Argyfyngau Brys yn cynrychioli mudiadau blaenllaw yn y DU i godi arian ar gyfer argyfyngau tramor a threfnu ymateb dyngarol effeithiol, gan sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y bobl sydd fwyaf ei angen yn gyflym ac yn y modd mwyaf cost-effeithiol posibl. Y blaenoriaethau yn yr achos hwn yw bwyd a dŵr glân, triniaeth feddygol a lloches. Bydd apêl DEC yn codi arian hefyd tuag at adsefydlu ac ailadeiladu yn y tymor hwy.
Rydym yn deall yr awydd yng Nghymru i wneud popeth yn ein gallu i helpu'r bobl y mae’r daeargrynfeydd wedi effeithio arnyn nhw, gan gynnwys y rhai sydd â theulu a ffrindiau ym Myanmar. Byddem yn annog unrhyw un sy'n gallu helpu i ystyried rhoi rhodd ariannol i DEC ac estyn help llaw i’r bobol yn eu cymunedau sy’n teimlo effeithiau’r ddaeargryn.
I gael rhagor o wybodaeth am yr apêl a sut i gyfrannu, dilynwch y ddolen hon (Saesneg yn Unig):
https://www.dec.org.uk/appeal/myanmar-earthquake-appeal
Mae'r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu yn cynnig cefnogaeth i ddinasyddion Prydeinig ym Myanmar a Gwlad Thai yn dilyn y daeargryn.
Gall dinasyddion Prydeinig ym Myanmar sydd angen cymorth y conswl ffonio Llysgenhadaeth Prydain yn Yangon ar +95 (01) 370 863/4/5/7. Gall dinasyddion Prydeinig sydd angen cymorth y conswl yng Ngwlad Thai ffonio Llysgenhadaeth Prydain yn Bangkok ar +66 (0) 2 305 8333.
Gall unrhyw un yn y DU sy'n pryderu am ddinesydd Prydeinig ym Myanmar neu Wlad Thai gysylltu â'r FCDO ar +44 (0)20 7008 5000.