Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 ar 21 Mawrth 2021 yng Nghymru. Heddiw, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn cyhoeddi’r canlyniadau cyntaf sydd wedi’u gosod gerbron y Senedd y bore yma (dolen allanol).
Mae’r data sy’n cael eu cyhoeddi heddiw yn dangos yr amcangyfrifwyd mai poblogaeth breswyl arferol Cymru ar 21 Mawrth 2021 oedd 3.11 miliwn, sef cynnydd o 1.4% ers Cyfrifiad 2011.
Mae’r wybodaeth hon ar gael yn ôl oedran a rhyw, ar gyfer pob un o awdurdodau lleol Cymru. Ochr yn ochr â’r wybodaeth hon cyhoeddir nifer amcangyfrifedig y cartrefi, dwysedd y boblogaeth a newidiadau mewn poblogaeth a chartrefi dros amser. Mae setiau data ystadegol sy’n sail i’r datganiad cyntaf hefyd wedi’u cyhoeddi ar wefan yr ONS, ynghyd â gwybodaeth a dadansoddiadau eraill.
Mae’r ONS yn creu casgliad o adnoddau i alluogi defnyddwyr ar bob lefel o brofiad o ran data poblogaeth i archwilio canlyniadau’r cyfrifiad. Er mwyn cynnal preifatrwydd ymatebion personol i’r cyfrifiad, mae mesurau llym i reoli datgelu ystadegol yn sicrhau na ellir adnabod unrhyw berson neu aelwyd unigol o’r wybodaeth sy’n cael ei rhyddhau.
Roedd Cyfrifiad 2021 yn llwyddiant yma yng Nghymru. Yn erbyn cefndir y pandemig coronafeirws (COVID-19), llwyddodd y cyfrifiad hwn, a gynhaliwyd drwy ddull ‘digidol yn gyntaf’ am y tro cyntaf, i sicrhau cyfradd ymateb o fwy na 96% yng Nghymru, gyda mwy na dwy ran o dair o gartrefi yn ei gwblhau ar-lein. Roedd y gyfradd ymateb hon gan gartrefi yn llawer uwch na tharged yr ONS o 94% yn genedlaethol ac roedd y cyfraddau ymateb lleol yn uwch na’r targed o 80% ym mhob ardal awdurdod lleol. Diolch i’r cyhoedd yng Nghymru am eu hymateb.
Mae’r datganiad cyntaf hwn yn nodi dechrau cyhoeddi cyfres eang o ystadegau a dadansoddiadau Cyfrifiad 2021 ar gyfer Cymru, yn ystod 2022 a 2023 a thu hwnt. Bydd data’r Cyfrifiad yn cael ei ddefnyddio i gynllunio a darparu gwasanaethau lleol yng Nghymru, yn ogystal â llywio penderfyniadau ar lefel genedlaethol a lleol i wella ein llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd.
O fis Hydref ymlaen, bydd yr ONS yn cyhoeddi data a dadansoddiadau yn ymwneud â’r ystod o bynciau a chwestiynau a oedd yn rhan o Gyfrifiad 2021, gan gynnwys y cwestiynau newydd ar gyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd a gwasanaeth blaenorol yn Lluoedd Arfog y Deyrnas Unedig. Bydd gwybodaeth am allu’r boblogaeth o ran y Gymraeg hefyd yn cael ei chyhoeddi yn ddiweddarach eleni. Mae rhagor o fanylion ar wefan yr ONS am y datganiadau a’r cyhoeddiadau arfaethedig (dolen allanol).