Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi canolbwyntio ein holl ymdrechion ar gefnogi ein plant. Dyna pam rydym wedi sefydlu fframwaith i gefnogi ysgolion i fod yn llefydd diogel, sydd ar agor, ac sy’n sicrhau bod plant yn dal i ddysgu.

Mae ymateb y system addysg yn ystod y pandemig wedi bod yn neilltuol, a phawb wedi bod yn cydweithio tuag at yr un nod. Mewn ysgolion ledled y wlad, fe welwch ddulliau o ofalu am les ac iechyd meddwl dysgwyr sy’n cael eu gweithredu ar draws y sefydliad, dulliau arloesol o gynnal diddordeb dysgwyr, a phwyslais mwy ar ymwneud â rhieni sy’n allweddol wrth wella prosesau dysgu.

Er mwyn parhau i gefnogi ein plant a’n pobl ifanc nawr, mae’n rhaid inni barhau i gynllunio ar gyfer eu dyfodol, yn enwedig yn yr amgylchiadau anodd dros ben sy’n ein hwynebu. Mae paratoi ar gyfer diwygio’r cwricwlwm wedi rhoi Cymru mewn sefyllfa gryfach i ymateb i effeithiau’r pandemig, gan gydnabod pwysigrwydd hanfodol y pedwar diben i’r hyn sydd ei angen ar ein dysgwyr nawr yn fwy nag erioed. Rhaid inni gynnal y ffocws hwn ar adnewyddu a diwygio.

Heddiw rydym yn cyhoeddi Y Daith i Gyflwyno’r Cwricwlwm i roi cymorth clir a phenodol i ysgolion wrth roi’r cwricwlwm ar waith. Rydym wedi gweithio gydag ysgolion a phartneriaid, gan gynnwys Estyn a’r consortia rhanbarthol, i nodi disgwyliadau, blaenoriaethau a dulliau gweithredu cyffredin, clir i helpu ysgolion i baratoi ar gyfer y cyfnod cyflwyno.

Mae’r ddogfen yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yn sgil COVID-19, paratoadau ysgolion ar gyfer cyflwyno’r cwricwlwm a’u profiadau hyd yma. Mae’n cynnwys:

  • y blaenoriaethau ar gyfer cynllunio'r cwricwlwm, a hynny o ran yr ymateb i COVID-19 a pharatoi ar gyfer diwygio
  • y disgwyliadau cyffredin o ran y camau y dylai ysgolion eu cymryd i baratoi ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm, gan gynnwys pwysigrwydd cydweithio o fewn ac ar draws safleoedd
  • crynodeb o'r gofynion cyfreithiol mewn perthynas â chyflwyno'r cwricwlwm
  • crynodeb o'r cymorth ymarferol cenedlaethol y gall ysgolion ei ddisgwyl er mwyn cefnogi'r gwaith o baratoi ar gyfer y diwygio
  • sut gall darparwyr sydd â dysgwyr blwyddyn 7 gadarnhau eu bwriad i ddechrau addysgu o dan Cwricwlwm i Gymru ym mis Medi 2022, os ydynt yn teimlo’n barod i wneud hynny
  • canllawiau ar ddefnyddio cyllid a ddyrennir i ysgolion i gefnogi dysgu at ddibenion Adnewyddu a Diwygio fel ei gilydd.

I gefnogi ysgolion ymhellach, rwy’n falch o gael cyhoeddi lansiad y Rhwydwaith Cenedlaethol newydd. Bydd yn cael ei arwain gan ymarferwyr addysgu, ac yn agored i bob ysgol a lleoliad. Bydd yn dod ag athrawon o ysgolion o bob math, arbenigwyr ar y cwricwlwm ac ystod o randdeiliaid ynghyd i gydweithio er mwyn gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd i ddiwygio.

Mae gwaith gwych eisoes yn cael ei wneud mewn ysgolion ledled Cymru, wrth i ymarferwyr gydweithio i gynllunio, datblygu a threialu dulliau newydd o addysgu a dysgu, gyda chefnogaeth consortia a gwasanaethau gwella ysgolion. Bydd y Rhwydwaith Cenedlaethol yn adeiladu ar y gwaith hwn, wrth inni symud tuag at y cyfnod gweithredu a thu hwnt.

Heddiw, mae gwasanaeth Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth wedi cyhoeddi ei adroddiad interim ar yr arolwg o baratoadau ysgolion ar gyfer y cwricwlwm newydd. Mae’n dangos lefel gref o ymrwymiad i ddiwygio’r cwricwlwm ac o wybodaeth am y broses. Fodd bynnag, mae’r canlyniadau hefyd yn dweud wrthym bod yna feysydd lle mae angen mwy o gefnogaeth, cyfleoedd ac amser ar ysgolion a lleoliadau i wneud y gorau o Cwricwlwm i Gymru.

Mae hyn yn adlewyrchu fy nhrafodaethau gydag ysgolion ers dechrau ar fy swydd fel Gweinidog – mae ymarferwyr wedi’u cyffroi ynghylch potensial y cwricwlwm newydd ac wedi bod yn paratoi’n ddiwyd, ond mae angen cefnogaeth arnynt i wneud pethau’n iawn. Byddaf yn parhau i wrando a sicrhau bod y lefel iawn o gefnogaeth yn cael ei darparu.

Rwyf hefyd yn cyhoeddi diweddariad Medi 2021 ar Adnewyddu a Diwygio sy’n tynnu sylw at y cyllid ychwanegol rydym wedi’i ddyrannu ers mis Mehefin mewn ymateb i’r pandemig, a’n bwriadau ar gyfer y flwyddyn academaidd i ddod. Mae hyn yn cynnwys cefnogi system trochi dysgwyr yn y Gymraeg, cyllid ychwanegol ar gyfer lleoliadau i athrawon newydd gymhwyso, a chyllid ar gyfer adferiad y maes dysgu ac ar gyfer y system gymwysterau. Gallaf gadarnhau bod cyfanswm y dyraniad ar gyfer rhaglen Adnewyddu a Diwygio ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22 erbyn hyn yn fwy na £160 miliwn – sy’n wariant uwch fesul dysgwr nag yn unrhyw ran arall o’r DU.

Mae Y Daith i Gyflwyno’r Cwricwlwm ar gael yma. Gall ysgolion ac ymarferwyr gael gwybod mwy am y Rhwydwaith Cenedlaethol a chofrestru ar gyfer digwyddiadau yma.

Mae diweddariad Medi 2021 ar Adewyddu a Diwygio ar gael yma.

Mae adroddiad Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth ar yr arolwg o’r paratoadau ar gyfer diwygio’r cwricwlwm ar gael yma.