Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AC, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r atodiad i'r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn cynnwys y dadansoddiad diweddaraf gan Brif Economegydd Llywodraeth Cymru o ganlyniadau economaidd ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, gan edrych ar ddeunydd a ryddhawyd yn ddiweddar a chanolbwyntio yn benodol ar effeithiau economaidd tymor byrrach Brexit heb gytundeb. Mae'r dadansoddiad economaidd hwn ar ffurf nodyn atodol i'r papur a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 4 Rhagfyr, a oedd yn adolygu dadansoddiad economaidd a ddarparwyd gan Lywodraeth y DU ar ganlyniadau economaidd tymor hirach ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd.

Mae'r dadansoddiad hwn yn atgyfnerthu barn glir a chyson Llywodraeth Cymru y byddai Brexit heb gytundeb yn achosi niwed difrifol i'r economi, busnesau a swyddi yng Nghymru ac, yn wir, ar draws y DU yn gyfan.