Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru
Ar 8 Chwefror 2013, daeth Penaethiaid Gwladwriaethau a Llywodraethau’r Undeb Ewropeaidd i gytundeb ynghylch cyllideb tymor hir yr UE, neu’r Fframwaith Ariannol Amlflwydd ar gyfer 2014-2020.
Cytunodd y Cyngor Ewropeaidd na ddylai cyfanswm y taliadau yn ystod y cyfnod 2014-2020 fod yn uwch na €908 biliwn. Bydd angen cael cydsyniad Senedd Ewrop i’r cytundeb cyn iddo dod i rym.
Prif amcan Llywodraeth Cymru yn y trafodaethau ar y Fframwaith, fel yr ydym wedi’i egluro ar bob cyfle, oedd sicrhau cytundeb a fyddai’n arwain at swyddi a thwf yng Nghymru. Felly mae gennym rai pryderon ynghylch agweddau penodol o gytundeb y Cyngor Ewropeaidd.
Bydd newidiadau i’r fformiwla ar gyfer dyrannu Cronfeydd Strwythurol i ranbarthau tlotaf, neu “lai datblygedig” yr UE, fel Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, yn cael effaith anghymesur ar rai o’n cymunedau mwyaf bregus. Bydd Gorllewin Cymru a’r Cymoedd (a Chernyw) yn colli arian i ranbarthau cyfoethocach, gan gynnwys y rhai o fewn y DU. Ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, byddai’r cytundeb yn golygu gostyngiad o tua £400m ar gyfer 2014-2020 o’i gymharu â’r cyllid a gafwyd ar gyfer 2007-2013 – byddai’r ffigwr hwn wrth gwrs yn llawer uwch mewn termau real. Mae hyn yn groes i amcan yr UE, a osodwyd yn y Cytuniadau, i leihau’r gwahaniaethau incwm ar draws yr Undeb.
Yn ogystal, mae ansicrwydd o hyd ynghylch effaith cytundeb y Cyngor Ewropeaidd ar Ddwyrain Cymru, gan y bydd angen negodi dyraniad ariannol y rhanbarth hwnnw gyda Llywodraeth Prydain, ond mae gennym bryderon y bydd y rhanbarth hwn hefyd yn gweld gostyngiad sylweddol mewn cyllid.
Wrth i Aelod-wladwriaethau eraill, gan gynnwys yr Almaen, Gwlad Belg, Iwerddon, yr Eidal a Sbaen geisio, a chael, dyraniadau arbennig ychwanegol ar gyfer rhanbarthau sydd ar eu colled gan y setliad yn gyffredinol, methodd y DU â sicrhau amddiffyniad cyffelyb i Gymru.
Rhaid i ni droi at Lywodraeth y DU yn awr i ofyn am ddyraniad teg o gymorth i Gymru i wneud iawn am y gostyngiad sylweddol yn ein cyllideb Cronfeydd Strwythurol er mwyn inni allu parhau gyda’n gwaith o drawsnewid economi’n gwlad.
O ran y Polisi Amaethyddol Cyffredin, ar hyn o bryd mae’n anodd darogan dyraniadau unigol yr Aelod-wladwriaethau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr neu ar gyfer y cronfeydd datblygu gwledig - rydym yn disgwyl i’r manylion ddod i law dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Fodd bynnag, byddwn yn pwyso’n galed ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod ein dyraniadau ni yn adlewyrchu’r heriau sy’n wynebu’n cymunedau gwledig a’r diwydiant yn fwy cyffredinol.
Byddwn yn gweithio i sicrhau bod Cymru’n manteisio i’r eithaf ar y gyllideb sydd wedi’i dyrannu i wella cystadleurwydd economaidd yr UE a chreu swyddi a thwf, gan gynnwys rhaglen Horizon 2020 ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi a Chyfleuster Cysylltu Ewrop ar gyfer rhwydweithiau trafnidiaeth, ynni a band eang.
Ar hyn o bryd, mae’n anodd cyfrifo’n gywir beth fydd union faint y cymorth y bydd Cymru’n ei gael o gyllideb yr UE. Mae fy nghyd Weinidogion a’n swyddogion eisoes yn trafod gyda Llywodraeth y DU bydd rhagor o wybodaeth ynghylch y dyraniadau ar gael maes o law.
Yn gyffredinol, lle mae’r cytundeb wedi methu â rhoi digon o gymorth ar lefel yr UE i’n cymunedau bregus, byddwn yn gofyn i Lywodraeth y DU wneud iawn am y diffyg.