Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AC, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Hydref 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy wrth fy modd gyda'r data newydd a gyhoeddwyd heddiw sy'n dangos y cynnydd a wnaed gan landlordiaid cymdeithasol i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) ar gyfer eu holl stoc.  Mae'r ffigurau'n dangos bod 159,317 (72%) o aelwydydd bellach yn byw mewn cartrefi o ansawdd da, sef 9,562 yn fwy o'i gymharu â'r hyn yr oedd ar gyfer yr un adeg y llynedd, a chynnydd o 4%.  Ar ben hynny, mae'r holl landlordiaid cymdeithasol ar y trywydd iawn i gyrraedd ein nod o gyflawni'r gwaith erbyn 2020.

Mae hynny'n bosibl gan fod Llywodraeth Cymru yn parhau i roi £108m o fuddsoddiad cyfalaf bob blwyddyn, sy'n creu bron pum gwaith y swm hwnnw ar gyfer landlordiaid cymdeithasol ar hyd a lled Cymru. Mae hynny’n helpu i gefnogi'r buddsoddiad mewn tai ar gyfer rhai o'n pobl mwyaf difreintiedig.  Fel canlyniad, bellach mae gan 72% o'r stoc tai doeon cadarn, drysau a ffenestri diogel, boeleri effeithlon o ran ynni, larymau mwg, ceginau ac ystafelloedd ymolchi cyfoes, ac mae gwres canolog gan 96% ohonynt.

Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru yw iechyd, swyddi a chyrhaeddiad addysgol.  Mae'r rhaglen hon yn sail i bob un o'r blaenoriaethau hynny, ac mae'n defnyddio dull o weithredu sy'n ystyried y manteision i'r gymuned er mwyn creu swyddi a chynnig hyfforddiant a chyfleoedd cadwyni cyflenwi mewn rhai o'n cymunedau tlotaf.  Hyd yma, mae Offeryn Mesur Budd i'r Gymuned Llywodraeth Cymru wedi dod o hyd i gontractau gwerth £134 miliwn, sy'n dangos bod 85% o'r gwariant yn cael ei ailfuddsoddi yng Nghymru. Mae hynny wedi helpu mwy na 260 o bobl i gael swyddi neu hyfforddiant, ac wedi darparu'r hyn sy'n cyfateb i 9,000 wythnos o hyfforddiant.

Mae'r data a gyhoeddwyd heddiw yn newyddion da iawn i'n pobl, ein cymunedau a'n busnesau.