Kirsty Williams AC, Y Gweinidog Addysg
Yn gynharach eleni, ymgynghorais ar ddau faes sylweddol mewn perthynas â’r gwaith ar ddiwygio’r cwricwlwm mewn modd gweddnewidiol sydd ar droed yng Nghymru. Ym mis Ionawr, cyhoeddais y ddogfen Cenhadaeth ein Cenedl: Cwricwlwm Gweddnewidiol i holi am farn pobl am y fframwaith deddfwriaethol arfaethedig a fyddai’n sail i drefniadau’r cwricwlwm newydd erbyn 2022. Ym mis Chwefror, cyhoeddais Ganllawiau drafft ar Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb i holi am farn pobl am y canllawiau diwygiedig ar gyfer ysgolion er mwyn rhoi cymorth mwy cynhwysfawr i athrawon.
Cyflwynwyd dros 2,000 o ymatebion ar gyfer y ddau ymgynghoriad ac mae’r adroddiadau sy’n crynhoi’r ymatebion a dderbyniwyd gennym ar gael bellach ar wefan Llywodraeth Cymru. Hoffwn ddiolch pawb a gymerodd ran yn y prosesau ymgynghori ac a roddodd adborth ar yr ymgynghoriadau hyn.
Nodir y cyhoeddwyd yr ymgynghoriad hwn cyn i'r ymatebwyr gael cyfle i weld Cwricwlwm newydd Cymru 2022. Mae’r gwaith o ddatblygu’r trefniadau ar gyfer y cwricwlwm newydd ar droed, ac ym mis Ebrill fe wnaethom gyhoeddi’r ddogfen Cwricwlwm i Gymru 2022. Yn ystod y cyfnod hwn o gyd-lunio rydym yn gwahodd adborth gan ymarferwyr ac amrywiaeth eang o randdeiliaid yn sail i’r gwaith mireinio pellach sydd i’w wneud.
Dros yr haf, byddwn yn ystyried yn ofalus oblygiadau’r cynigion a gyflwynwyd yn y ddau ymgynghoriad ar sail y dystiolaeth a gasglwyd o’r ymatebion a’r gwaith sy’n parhau gyda’n partneriaid. Bydd hyn yn hollbwysig fel sail i’r gwaith o lunio’r polisi o hyn ymlaen.