Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rydym yn nodi Wythnos y Ffoaduriaid, sy'n ŵyl flynyddol o ddigwyddiadau i ddathlu cyfraniadau gwerthfawr pobl sy'n chwilio am noddfa yn y Deyrnas Unedig (DU).  Mae'r dathliadau hyn yn dwyn ynghyd pobl o bob cefndir i ddatblygu gwell dealltwriaeth rhwng cymunedau a hybu integreiddiad.

Thema Wythnos Ffoaduriaid 2019 yw 'Ti, fi a'r rhai a ddaeth ynghynt'. Cawn ein hannog i ddod i wybod mwy am fywydau ffoaduriaid a'r bobl sydd wedi'u croesawu, gan fynd yn ôl yn ein hanes.  Mae'n thema briodol i'n cenedl gan fod Cymru wedi mwynhau hanes hir o groesawu ffoaduriaid, ac rydym yn parhau i elwa ar eu sgiliau a'u hysbryd entrepreneuraidd.

Yn ystod Wythnos y Ffoaduriaid eleni, byddwn yn cadarnhau ein huchelgais i wneud Cymru'n genedl noddfa. Ym mis Ionawr, roeddem wedi cyhoeddi 'Cenedl Noddfa – Cynllun Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches', sy'n sail inni fwrw ymlaen â chyflawni'r uchelgais i Gymru. Mewn ychydig llai na phum mis rydym eisoes wedi gweld cynnydd sylweddol mewn perthynas â chyflawni camau gweithredu'r cynllun.

Bydd Prosiect uchelgeisiol 'AilGychwyn: Integreiddio Ffoaduriaid' yn cael ei lansio'n swyddogol ar 20 Mehefin. Bydd o leiaf 520 o ffoaduriaid yn cael asesiad holistaidd o'u hanghenion, eu sgiliau a'u dymuniadau. Yn dilyn hynny, byddant yn cael cymorth pwrpasol i'w helpu i integreiddio yn y pedwar clwstwr gwasgaru ar gyfer ceiswyr lloches yng Nghymru.  Bydd y prosiect yn gwella mynediad at wersi iaith, darparu cymorth i gael swydd a mentora, sicrhau bod eu cymwysterau'n cael eu cydnabod, ac yn cynnig gwybodaeth am hawliau a materion eraill.

Rydym wedi comisiynu consortiwm sy'n cael ei arwain gan Goleg Caerdydd a'r Fro, ac sy'n cael eu cefnogi gan golegau eraill a darparwyr Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill ledled Cymru i weithio ar y cyd i gyflawni'r gwaith hwn gyda ni. Bydd y prosiect yn cael ei hyrwyddo'n eang ymhlith pobl sy'n cefnogi ffoaduriaid. Er na fydd ceiswyr lloches yn gymwys i gael cymorth cyflogadwyedd oherwydd cyfyngiadau Llywodraeth y DU ar yr hawl i weithio, byddant yn cael budd o'r Canolfannau ESOL sydd wedi’u sefydlu yn y pedair ardal wasgaru yng Nghymru.

Rydym o'r farn bod sgiliau ceiswyr lloches yn cael eu gwastraffu ar hyn o bryd ar hyd a lled y DU. Rydym wedi annog Llywodraeth y DU i leddfu cyfyngiadau sy'n ymwneud â'r gwaith, ac mae'n galonogol bod Papur Gwyn System Mewnfudo'r DU yn y Dyfodol yn cynnwys ymrwymiad i adolygu hynny. Bydd prosiect AilGychwyn hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr i chwalu'r mythau sy'n ymwneud â chyflogi ffoaduriaid, a bydd yn ceisio annog ein gwasanaethau cyflogaeth i fod yn fwy cynhwysol.

Nid yw pawb sy'n chwilio am noddfa yn cael eu caniatáu i weithio ac mae nifer ohonynt mewn perygl o amddifadedd. Rydym wedi parhau i ystyried cyfleoedd i leihau'r perygl hwnnw ac i liniaru effaith yr amddifadedd ar bawb a ddioddefodd. Am y tro cyntaf, gall ceisiwr noddfa gael cymorth gan y Gronfa Cymorth Dewisol os yw'n dioddef amddifadedd.

Rydym yn cydnabod nad oes gan nifer o geiswyr lloches, na'r rheini y gwrthodwyd eu cais am loches, fynediad at gyngor cyfreithiol o ansawdd da. Gallai hynny tanseilio eu ceisiadau am loches a'u gorfodi i ddioddef amddifadedd. Yn ogystal, rydym wedi comisiynu gwaith ymchwil i edrych ar opsiynau i gefnogi unigolion o'r fath drwy roi cyngor cyfreithiol iddynt a thrwy broffesiynoli trefniadau 'croesawu' ar gyfer y ceiswyr hynny y gwrthodwyd eu cais am loches. Mae hwn yn faes cymhleth na allwn ei ddatrys yn gyflym, ond rydym yn gwneud cynnydd da o ran chwilio am atebion a allai bodloni gofynion unigolion mewn modd cynaliadwy. Drwy roi to uwch pennau'r unigolion hynny ar adeg dyngedfennol, mae'n rhoi cyfle iddynt ystyried eu hopsiynau, a allai arwain at wneud cais newydd am loches, neu fod yn rhan o broses Llywodraeth y DU sy'n trefnu i ffoaduriaid ddychwelyd yn wirfoddol.

Mae gwybodaeth o ansawdd da yn allweddol i sicrhau bod y bobl sy'n cyrraedd Cymru yn cael eu hintegreiddio'n llwyddiannus. Byddwn yn lansio gwefan Noddfa cyn hir, sy'n darparu gwybodaeth hanfodol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys gwybodaeth am gael gofal iechyd, addysg a chyflogaeth. Mae'r wefan yn cynnwys meddalwedd cyfieithu a thestun-i-lais sy'n cyfieithu'r wybodaeth i dros gant o ieithoedd. Mae hynny’n cynyddu'r nifer o bobl sy'n gallu deall a defnyddio'r wefan.

Mae'r angen am wybodaeth yn berthnasol o'r naill du i'r llall, ac mae angen gwybodaeth briodol hefyd ar y rheini sy'n darparu gwasanaethau i bobl sy'n chwilio am noddfa i'w helpu i integreiddio. Ym mis Ebrill, roeddem wedi cyhoeddi cyfres o ganllawiau ac adnoddau gwybodaeth ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sy'n gweithio gyda Phlant ar eu Pen eu Hunain sy’n Ceisio Lloches, gofalwyr maeth y plant hynny a'r plant eu hunain. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydgynhyrchu modiwl e-ddysgu sy'n rhoi sylw i ffoaduriaid, ceiswyr lloches a'u hiechyd. Mae'r modiwl yn rhan o hyfforddiant i staff y GIG ar gydraddoldeb a hawliau dynol, o'r enw 'Fy Nhrin yn Deg', a bellach mae'n cael ei brofi gan staff sy'n gweithio i wahanol fyrddau iechyd.

Wrth gwrs, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am nifer o'r mecanweithiau i wella canlyniadau i bobl sy'n chwilio am noddfa. Rydym wedi bod yn cydweithredu'n agos â Llywodraeth y DU a'i darparwyr gwasanaethau sydd dan gontract, yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol eraill, i oruchwylio'r cyfnod pontio i drefniadau llety newydd o fis Medi 2019 ymlaen.

Rydym yn falch bod 'Clearsprings Ready Homes' wedi cytuno i roi terfyn ar orfodi oedolion nad ydynt yn perthyn â'i gilydd i rannu ystafelloedd mewn llety lloches. Roedd hynny'n un o ofynion allweddol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r system newydd. Rydym hefyd yn falch y bydd preswylwyr yn gallu cwyno am eu llety drwy gontract Cyngor, Hysbysu am Broblemau a Chymhwystra (AIRE) gan y darparwr 'Migrant Help', yn hytrach na drwy ddarparwr y llety. Byddwn yn monitro hyn yn ofalus.

Rydym yn parhau i weithio'n galed i sicrhau newidiadau i'r system loches a fydd yn gwella llesiant ceiswyr lloches, cydlyniant cymunedol, a'n gallu fel gweinyddiaeth ddatganoledig i wneud ymyriadau polisi effeithiol i gefnogi'r aelodau hynny o'n cymuned.

Ers lansio'r cynllun, rwy wedi cysylltu â phartneriaid allweddol i godi ymwybyddiaeth o'r Cynllun ac i gasglu'r gefnogaeth sydd ei hangen arnom i wneud Cymru'n genedl noddfa wirioneddol. Rwy wedi ysgrifennu i bob Awdurdod Lleol a Bwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru. Mae’r ymatebion hyd yma wedi bod yn rhai cadarnhaol ac yn dangos eu hymrwymiad i gydweithio â ni i gyflawni'r nod a rennir. Rwy hefyd wedi cyfarfod â Chynghrair Ffoaduriaid Cymru i drafod sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i roi'r cynllun ar waith. Mewn perthynas â Gwelliant Dubs, rwy wedi cyfarfod â'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'i swyddogion i ystyried opsiynau ar gyfer sut y gallwn groesawu mwy o bobl ifanc i Gymru o Ewrop. Rwy'n gobeithio cael mwy i ddweud am hynny cyn hir.

Ym mis Ebrill, siaradais am y Cynllun yn nigwyddiad 'Noddfa yn y Senedd'. Roedd y digwyddiad yn nodi carreg filltir arwyddocaol, sef pan groesawodd Cymru dros 1,000 o ffoaduriaid o dan Raglen Adsefydlu Ffoaduriaid o Syria a Chynllun Adsefydlu Plant sy'n Agored i Newid. Carreg filltir nad oedd yn bosibl ei chyflawni heb waith caled partneriaid ar y cyd ledled Cymru.

Nid yw'r ymdrech hon ar y cyd yng Nghymru wedi'i hanwybyddu. Ym mis Mai, roedd NBC News wedi cyhoeddi erthygl dreiddgar am ein huchelgais yng Nghymru i fod yn genedl noddfa, a oedd yn rhoi sylw i fywydau a phrofiadau ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Roedd yn ystyried yr heriau sy'n cael eu hwynebu gan bobl sy'n chwilio am noddfa a hefyd eu bod yn gwerthfawrogi'r croeso y maent yn eu cael yng Nghymru. Roedd yn galondid bod yr erthygl yn cynnig agwedd gadarnhaol o'i chymharu â'r elyniaeth yr ydym wedi dod i arfer â'i gweld yn y cyfryngau.

Pan ddechreuodd Wythnos y Ffoaduriaid yn 1998, un o'i nodau allweddol oedd mynd i'r afael â'r portreadau negyddol o ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn y cyfryngau. Mae'n glir bod digwyddiadau fel Wythnos y Ffoaduriaid a Noddfa yn y Senedd hefyd yn cynnig cyfle gwerthfawr i wrthwynebu'r agweddau negyddol am ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae'n hanfodol bod pobl sy'n chwilio am noddfa'n parhau i gael y cyfle i rannu eu safbwyntiau a'u profiadau.

Er mai ychydig misoedd yn unig sydd wedi mynd heibio ers inni gyhoeddi'r Cynllun, rydym yn gwneud cynnydd da tuag at gyflawni ein nod ar gyfer Cenedl Noddfa mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol, Byrddau Iechyd Lleol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Partneriaeth Ymfudo Strategol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cynghrair Ffoaduriaid Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill, i wella bywydau pobl sy'n chwilio am noddfa yng Nghymru.