Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Kirsty Williams AS, y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 5 Chwefror cyhoeddwyd ein cynlluniau i sicrhau bod profion cyflym y gellir eu defnyddio yn y cartref ar gael i staff sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant cofrestredig, gan gynnwys lleoliadau Dechrau’n Deg, ysgolion a lleoliadau addysg bellach. Y nod yw cael gwybod yn gyflym am yr unigolion sy’n cario’r feirws heb sylweddoli, fel y gallant hunanynysu. Bydd y profion hyn yn helpu i roi darlun llawer mwy clir inni am yr hyn sy’n digwydd mewn gwirionedd yn ein hysgolion a’n lleoliadau. A bydd hynny’n ein galluogi i roi sicrwydd i’r gymuned ehangach. Rydym yn cydnabod bod profion asymptomatig yn debygol o arwain at gynnydd yn nifer yr achosion positif i ddechrau. Ond mae'r cynnydd hwnnw’n debygol o ostwng unwaith y bydd achosion positif yn hunanynysu, a’r cadwyni trosglwyddo wedi’u torri.

Nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod yr haint yn trosglwyddo’n eang yn ein hysgolion a'n colegau o hyd. Ond nid oes unrhyw ffordd o wybod am y trosglwyddiad sy’n digwydd y tu allan i amgylchedd yr ystafell ddosbarth sy’n cael ei reoleiddio. Gyda hynny mewn golwg, rydym yn ymestyn y cynnig i gyflenwi Profion Llif Unffordd rheolaidd y gellir eu defnyddio ddwywaith yr wythnos yn y cartref, er mwyn i’r cynnig gynnwys dysgwr oedran uwchradd uwch. A byddwn yn dechrau drwy gynnig profion i flynyddoedd 11 i 13 a holl ddysgwyr colegau Addysg Bellach, a dysgwyr ar raglenni Prentisiaeth a Hyfforddeiaeth seiliedig ar waith.

Ar y cyfan, mae dysgwyr o’r grŵp oedran hwnnw yn llawer llai tebygol o fynd yn sâl oherwydd COVID-19. Ond mae data ynghylch y rheini heb symptomau yn awgrymu bod y grŵp oedran hwn yn fwy tebygol o brofi'n bositif na phobl ifancach yn eu harddegau. Mae tystiolaeth i awgrymu hefyd y gall disgyblion hŷn oedran uwchradd drosglwyddo'r feirws ar yr un lefel ag oedolion. Byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y cyngor gwyddonol diweddaraf, ac felly bydd y cynnig hwn i gyflenwi profion yn cael ei adolygu'n rheolaidd i sicrhau bod y bobl iawn yn cael eu cynnwys fel rhan o’r cynnig, er mwyn inni gyflawni'r canlyniadau a fwriedir.

Rydym am sicrhau bod y profion hyn ar gael i bawb sy'n gymwys yn unol â cham nesaf dychwelyd fesul cam i ddysgu wyneb yn wyneb. Yn dibynnu ar y cyfraddau heintio, dyddiad y cam nesaf fydd o 15 Mawrth ymlaen, a byddwn yn gweithio'n ddiwyd gyda'n partneriaid a'n rhanddeiliaid i geisio sicrhau bod hynny’n digwydd.

Ni allwn bwysleisio digon na all profion ar eu pen eu hunain ddileu'r risgiau sy'n gysylltiedig â dal a throsglwyddo Covid-19. Nid yw’r profion yn berffaith, ac felly ni allwn ddibynnu ar gael canlyniad prawf negyddol yn unig fel ffordd o sicrhau nad yw'r haint yn cael ei ledaenu. Mae profion yn helpu i liniaru'r risg ond dylai unrhyw un sydd wedi'i gynnwys yn y cynnig hwn i gael profion barhau i ddilyn mesurau rheoli atal heintiau eraill sy’n fwy effeithiol, fel  cadw pellter cymdeithasol priodol a mesurau hylendid dwylo da. Rydym yn ddiolchgar i bawb yn y sector sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau bod mesurau amddiffynnol ar waith, gan gynnwys y plant a'r bobl ifanc sydd wedi addasu i'r trefniadau newydd, ac sy'n chwarae eu rhan i gadw pob un ohonom yn ddiogel.