Huw Irranca-Davies, Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol
Bellach, mae blwyddyn wedi mynd heibio ers i ni gychwyn gweithrediad cynnar y Cynnig Gofal Plant. Mae'r cynnig yn darparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y Llywodraeth i rieni sy’n gweithio ar gyfer plant tair a phedair oed am 48 wythnos y flwyddyn. Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ar y cynnydd a wnaed ymhlith ein gweithredwyr cynnar, ac amlinellu rhai o'n camau nesaf wrth ddatblygu'r cynnig a'i ehangu ledled Cymru.
Mae'r cynnig wedi bod yn cael ei weithredu'n gynnar yn Ynys Môn, Gwynedd, Blaenau Gwent, Caerffili, Sir y Fflint, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe ers mis Medi 2017. Ers dechrau'r mis hwn, mae Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Wrecsam, Conwy a Thorfaen wedi ymuno â'r awdurdodau cyntaf. Rwy'n falch iawn gyda'r ffordd y mae awdurdodau lleol yn cydweithio i gyflwyno'r Cynnig Gofal Plant. Mae ffocws amlwg wedi bod ar wneud y mwyaf o weithio mewn partneriaeth rhwng awdurdodau, gydag awdurdodau gweithredu newydd yn gweithio law yn llaw â’r awdurdodau lleol cyntaf er mwyn manteisio i'r eithaf ar ddysgu a sicrhau arbedion maint.
Yn ychwanegol at roi'r cynnig ar waith, rydym hefyd yn cydweithio ag awdurdodau lleol ar raglen grant cyfalaf y Cynnig Gofal Plant, gwerth £60m, dros y tair blynedd nesaf. Bwriad y rhaglen yw ceisio sicrhau bod darpariaeth bresennol y Cyfnod Sylfaen a darpariaeth newydd y Cynnig Gofal Plant ar gael ar yr un safle, lle bynnag y bo'n bosibl. Bwriad arall yw ceisio sicrhau bod digon o ddarpariaeth yn yr ardaloedd iawn, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddatblygu darpariaeth newydd mewn ardaloedd sydd heb ddigon o wasanaethau gofal plant ar hyn o bryd, yn enwedig ardaloedd gwledig a difreintiedig. Rwy'n gobeithio cael gwneud cyhoeddiad ynghylch y cynigion llwyddiannus yn nes ymlaen eleni.
Ar ôl siarad â darparwyr ac awdurdodau lleol, rwy'n gwybod bod ein Cynnig Gofal Plant eisoes yn gwneud gwahaniaeth i rieni sy'n gweithio. Yn gyffredinol, mae'r adborth gan rieni cymwys sy'n manteisio ar y cynnig a darparwyr gofal plant, wedi bod yn gadarnhaol. Mae rhieni yn dweud ei fod eisoes yn gwneud gwahaniaeth i'w bywydau, yn lleihau'r pwysau ar yr incwm teuluol ac yn helpu i sicrhau nad yw gofal plant yn eu rhwystro rhag gweithio na chynyddu eu horiau gwaith.
Fodd bynnag, gwyddwn fod rhieni a darparwyr gofal plant o bob cwr o Gymru yn awyddus i wybod pryd fydd y cynnig yn cael ei gyflwyno mewn mannau eraill. Felly, mae'n bleser gen i gyhoeddi, yn sgil trafodaethau cadarnhaol iawn gyda'r awdurdodau lleol a’n gwaith modelu cadarn, fy mod am gyflymu'r gwaith o ehangu'r cynnig dros y misoedd nesaf ac i mewn i 2019. Mae gan bob awdurdod lleol ei broses ar gyfer rhoi gwybod i rieni, a bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan pob awdurdod yn y man. Tan hynny, rwy'n falch o gael dweud wrth yr Aelodau am y cynnydd diweddaraf a chyhoeddi’r cynlluniau i ehangu, sydd fel a ganlyn:
Mae Blaenau Gwent yn cydweithio â Thorfaen ac mae'r cynnig ar gael yn llawn ar draws y ddau awdurdod. Mae Casnewydd wedi dechrau cymryd ceisiadau gan rieni yn gynharach y mis hwn ar gyfer nifer o wardiau nodedig, rwy'n falch o gael cyhoeddi bod Casnewydd wedi cytuno i estyn y cynnig ar draws yr awdurdod cyfan o Hydref 2018 ymlaen, a bydd yn gweithredu'r Cynnig yn Sir Fynwy gyfan o fis Ionawr 2019.
Mae Sir y Fflint eisoes yn cyflawni'r cynnig ar draws yr awdurdod cyfan. Ar hyn o bryd, mae'n cydweithio â Wrecsam i gyflawni'r Cynnig mewn rhai wardiau, gyda golwg ar roi'r Cynnig ar waith yn llawn erbyn mis Ionawr 2019. Mae Sir y Fflint hefyd yn cydweithio â Sir Ddinbych, ac yn ystyried cychwyn rhoi'r cynnig ar waith o fis Ionawr 2019 ymlaen
Mae Ynys Môn a Gwynedd wedi gweithredu'r Cynnig ar draws yr awdurdodau cyfan, ac maent yn cydweithio â Chonwy, sydd, ar hyn o bryd, yn cyflawni'r Cynnig mewn rhai wardiau. Rwy'n falch y bydd Conwy yn symud ymlaen i gyflawni'r Cynnig ar draws yr awdurdod cyfan o fis Ionawr 2019 ymlaen. Testun balchder, hefyd, yw y bydd holl awdurdodau Gogledd Cymru yn cyflwyno'r cynnig i rieni cymwys erbyn dechrau 2019.
Mae Rhondda Cynon Taf wedi bod yn darparu'r Cynnig ar draws yr awdurdod cyfan ers dechrau mis Medi 2018, ac mae'n cydweithio â Merthyr i gyflenwi'r cynnig ar draws yr awdurdod hwnnw o fis Ionawr 2019 ymlaen. Mae Rhondda Cynon Taf hefyd yn cydweithio â Phen-y-bont ar Ogwr a fydd yn ymuno rhyw dro yn ystod 2019.
Bydd Caerdydd yn cychwyn ar y gwaith yn yr hydref unwaith y bydd y systemau TG i wneud cais wedi cael eu profi ac yn gweithio'n iawn. Yn gyntaf bydd rhai wardiau penodol yn gymwys i gael y cynnig ac ar ôl hynny bydd y cynnig yn cael ei gyflwyno i'r ddinas gyfan. Bydd Cyngor Caerdydd hefyd yn gweithredu'r Cynnig Gofal Plant ar gyfer Bro Morgannwg, a bwriedir cychwyn arni yn gynnar yn 2019.
Mae Caerffili yn gweithredu'r cynnig ar draws yr awdurdod cyfan. Mae Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe yn gweithredu'r cynnig i nifer o wardiau, ac mae'r ddau awdurdod yn bwriadu symud ymlaen i gyflwyno i’r awdurdod cyfan o fis Ionawr 2019 ymlaen.
Mae Ceredigion yn awdurdod gweithredu newydd a bydd yn gweithredu'r cynnig ar draws yr awdurdod cyfan. Y gobaith yw y bydd Ceredigion yn gallu gweithredu ar gyfer Sir Gaerfyrddin i gyd o fis Ionawr 2019 a bydd Sir Benfro a Phowys yn ymuno o fis Ebrill 2019 ymlaen.
Mae symud at fodel gweithredu gwahanol yn ystod y cyfnod gweithredu cynnar wedi rhoi mwy o hyblygrwydd o lawer i ni o ran cyflwyno'r Cynnig Gofal Plant ledled Cymru. Mae gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, partneriaid a rhanddeiliaid hefyd yn helpu i lunio'r cynnig yn barod ar gyfer 2020. Mae'r cyhoeddiad hwn heddiw ynghylch y gwaith ehangu pellach yn dangos cynnydd a momentwm gwirioneddol o ran ein Cynnig Gofal Plant, sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau rhieni sy'n gweithio ledled Cymru.