Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Ers lansio’r Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal yng Nghymru ar 1 Gorffennaf 2022, mae diddordeb mawr wedi bod yn ei gynnydd yng Nghymru, ledled y DU ac yn fyd-eang. Mae’r cyfryngau ac asiantaethau’r llywodraeth o bob cwr o’r byd wedi cysylltu â ni ac rwy’n gwybod bod fy nghydweithwyr yn y Senedd yr un mor awyddus i ddysgu sut mae’r Cynllun yn dod yn ei flaen.
Bydd ein Cynllun yn profi rhai o fuddion honedig incwm sylfaenol, megis gwella lles, diogelwch ariannol a chyfleoedd bywyd unigolion. Mae incwm sylfaenol yn fuddsoddiad uniongyrchol mewn pobl ifanc wrth iddynt adael gofal ac yn eu dyfodol.
Mae ein partneriaid yn cynnwys timau gadael gofal awdurdodau lleol, Llamau, Barnardo’s, Pobl, Plant yng Nghymru, Voices from Care Cymru ac, yn bwysicaf oll, y rhai sy’n derbyn cymorth eu hunain.
Ddoe, cyhoeddwyd data monitro dros dro sy’n cwmpasu chwe mis cyntaf y Cynllun (Awst 2022 – Ionawr 2023). Mae’r data rheoli hwn, a gasglwyd drwy wybodaeth a roddwyd wrth gofrestru, yn rhoi cipolwg ar gyfranogiad yn y Cynllun. Fe wnaeth y rhai cyntaf sy’n gymwys i dderbyn cymorth droi’n 18 oed ym mis Gorffennaf 2022 a dechrau cael eu taliadau o 1 Awst 2022 ymlaen.
Rwy’n falch o gadarnhau bod 92% o’r bobl ifanc, a oedd yn gymwys i fanteisio ar y Cynllun yn ystod chwe mis cyntaf ei weithrediad, wedi cofrestru iddo a’u bod eisoes yn cael eu taliad misol. Mae’r ffigur hwn yn seiliedig ar yr amcangyfrif o’r garfan sy’n gymwys gan awdurdodau lleol ym mis Chwefror 2022. Gall y ffigur hwn newid yn dibynnu ar y bobl ifanc sydd wedi dod yn rhan o’r system ofal ac sydd wedi dod yn gymwys i gael taliad drwy’r Cynllun yn ystod y cyfnod cofrestru rhwng mis Gorffennaf 2022 a mis Mehefin 2023.
Yn dilyn adborth gan bobl ifanc sy’n gadael gofal ac ymarferwyr, rhoddwyd y dewis i gyfranogwyr gael eu taliad naill ai’n fisol neu ddwywaith y mis. Hyd yn hyn, mae 57% o’r rhai sy’n derbyn cymorth wedi dewis cael eu taliad yn fisol, gyda’r 43% sy’n weddill yn dewis taliadau ddwywaith y mis. Bydd y rhai sy’n derbyn cymorth hefyd yn gallu dewis i’w taliadau rhent gael eu talu’n uniongyrchol i’w landlord fel rhan o’r broses gofrestru. Hyd yn hyn, mae 33% o’r rhai sy’n derbyn cymorth wedi dewis i’r taliadau gael eu gwneud yn uniongyrchol i landlordiaid.
Er ei bod yn dal yn ddyddiau cynnar i’r Cynllun, rydym yn dechrau clywed sut mae pobl ifanc yn defnyddio eu harian, er enghraifft i dalu am wersi gyrru. Wrth i ragor o bobl ifanc gofrestru i’r Cynllun a dechrau cael eu taliad misol yn rheolaidd, gobeithiwn ddysgu rhagor am sut mae’r arian yn cael ei ddefnyddio a byddwn yn olrhain yr effaith y mae’r taliad yn ei chael drwy’r gwerthusiad manwl sydd ar waith.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cydweithio’n agos â chydweithwyr o dimau gwasanaethau cymdeithasol ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i helpu pobl ifanc i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth ynghylch a ddylid ymuno â’r Cynllun ac i helpu ymarferwyr i lywio’r broses.
Rydym yn parhau i ddysgu wrth i’r Cynllun fynd yn ei flaen ac rydym wedi cynnal cyfarfodydd un i un rheolaidd gyda thîm gadael gofal pob awdurdod lleol yng Nghymru. Rydym hefyd wedi cynnal sesiynau gwybodaeth rheolaidd ac wedi ymateb yn gyflym i faterion sy’n codi drwy ein blwch negeseuon e-bost pwrpasol. O ganlyniad i ymdrechion arbennig ein rhanddeiliaid mewn awdurdodau lleol a’n partneriaid yn Cyngor ar Bopeth wrth weithio gyda ni i oresgyn heriau, rydym wedi gallu addasu ein dulliau a helpu’r bobl ifanc yn y ffordd orau bosibl.
Fel y cofiwch efallai, rydym wedi defnyddio gwasanaethau Cyngor ar Bopeth Cymru, drwy ein contract presennol y Gronfa Cynghori Sengl, i ddarparu cyngor a chymorth ariannol ychwanegol i’r rhai sy’n derbyn cymorth drwy’r Cynllun. Erbyn diwedd mis Ionawr 2023, roedd Cyngor ar Bopeth wedi cefnogi 65% o’r bobl ifanc sy’n gymwys i dderbyn cymorth drwy’r Cynllun gydag ystod o faterion ariannol. Mae’r cymorth sy’n cael ei gynnig i bobl ifanc yn amrywio o gyfrifiadau ‘gwell eu byd’ cyn iddynt benderfynu cofrestru i’r Cynllun, cyngor ariannol tra maent yn rhan o’r Cynllun a chymorth gyda chynllunio ar gyfer yr adeg pan fyddant yn rhoi’r gorau i gael eu taliad. Mae’r cynghorwyr sy’n darparu’r gwasanaeth hwn yn cwrdd â safonau Fframwaith Ansawdd Gwybodaeth a Chyngor Llywodraeth Cymru ac yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Rydym yn ymwybodol nad yw pob awdurdod lleol yn defnyddio’r gwasanaeth hwn oherwydd eu bod yn gallu cynnig gwasanaethau cynghori cadarn eu hunain. Fodd bynnag, mae’n bwysig ein bod yn gallu cynnig gwasanaeth teg i bob unigolyn ifanc sy’n rhan o’r Cynllun, waeth ble mae’n byw.
Mae Cyngor ar Bopeth wedi dweud bod pobl ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn aml yn gofyn am gymorth gyda mwy nag un mater, ond mae’r gyfran uchaf o geisiadau am gymorth yn ymwneud â budd-daliadau a chredydau treth. Mae’r llwyth gwaith sy’n ymwneud â helpu gwahanol gleientiaid yn amrywio’n sylweddol, o un neges e-bost fer i sesiynau cynghori wyneb yn wyneb dro ar ôl tro. Mae gwaith y cynghorwyr yn seiliedig ar anghenion eu cleient. Er enghraifft, cyfeiriwyd un unigolyn ifanc drwy Wasanaethau Plant am gyfrifiad ‘gwell ei fyd’. Roedd eisoes wedi darllen am y Cynllun ac roedd ganddo rai cwestiynau cyn iddo benderfynu cofrestru ai peidio. Yn dilyn trafodaeth a sesiwn lle cynhaliwyd cyfrifiad ‘gwell ei fyd’ gyda Cyngor ar Bopeth, aeth yr unigolyn ati i gofrestru i’r Cynllun ac mae wedi bod yn cael ei daliad ers mis Hydref. Rhannodd gyda’i gynghorwr ei fod yn teimlo rhyddhad o wybod beth yn union fyddai ei sefyllfa ariannol, a bod y sgwrs wedi lleihau pwysau a deimlai yn sgil yr hyn na wyddai.
Mae barn a phrofiadau’r bobl ifanc sy’n rhan o’r Cynllun yn hanfodol er mwyn ei werthuso’n llwyddiannus. Yn hydref 2022, cyhoeddwyd bod aelodau wedi’u penodi i’r tîm gwerthuso, dan arweiniad Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant Prifysgol Caerdydd (CASCADE). Mae’r tîm ymchwil yn arbenigo mewn gadael gofal, tlodi a lles, digartrefedd, iechyd, epidemioleg, incwm sylfaenol, gwerthuso economaidd, cysylltu data, econometreg a methodolegau creadigol. Bydd y gwerthusiad yn ystyried effaith y Cynllun o ran gwella lles a phrofiadau pobl ifanc sy’n gadael gofal, yn ogystal â’r broses weithredu ac yn asesu ei werth am arian. Ers eu penodi, mae’r rhai sy’n gyfrifol am werthuso wedi dechrau paratoi protocol ymchwil yn manylu ar sut y bydd y gwerthusiad yn cael ei weithredu.
Cafodd trosolwg o’r gwerthusiad ei rannu gydag academyddion mewn cynhadledd a gynhaliwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ym mis Rhagfyr 2022. Daeth y digwyddiad ag academyddion, sydd â diddordeb mewn incwm sylfaenol ac ymyriadau ar gyfer y boblogaeth sy’n gadael gofal, ynghyd er mwyn llywio’r gwerthusiad o’r Cynllun. Ymunodd dros 60 o gynrychiolwyr o sefydliadau academaidd ar draws y DU a’r byd â’r digwyddiad rhithwir. Arweiniodd y digwyddiad at drafodaethau diddorol ac addysgiadol iawn. Mae Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi cytuno i lunio pecyn uchafbwyntiau yn crynhoi’r canlyniadau o’r digwyddiad a fydd yn helpu i lywio’r ffordd y caiff y Cynllun ei werthuso.
Mae’r rhai sy’n gyfrifol am werthuso hefyd wedi dechrau gweithio’n agos gyda Voices from Care Cymru i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn cael eu hystyried wrth ddatblygu’r rhaglen ymchwil. Bydd adborth rheolaidd gan y rhai sy’n derbyn cymorth yn sicrhau gwerthusiad dynamig sy’n nodi themâu sy’n dod i’r amlwg ynglŷn â phrofiadau’r rhai sy’n cymryd rhan ac sy’n helpu i wella’r Cynllun wrth iddo gael ei gyflwyno.
Dros y chwe mis nesaf, byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’n partneriaid i ddatblygu safon ofynnol o gymorth ar gyfer pob un sy’n ymadael â’r Cynllun. Bydd angen i’r strategaeth hon ddod o hyd i ffyrdd o reoli’r risg y bydd pobl ifanc yn cyrraedd ‘dibyn’ ar ddiwedd eu cyfnod o ddwy flynedd yn rhan o’r Cynllun, a helpu pobl ifanc i bontio i’r cam nesaf o fywyd fel oedolyn. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach ar y cynnydd a’r cynllun ar gyfer strategaeth ymadael tua diwedd eleni.