Neidio i'r prif gynnwy

Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd sydd wedi ei wneud o safbwynt dyluniad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy trwy weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid.

Yn ystod toriad yr haf, mae swyddogion a minnau wedi bod yn gweithio gyda'r Ford Gron Weinidogol, y Panel Atafaelu Carbon a thrwy'r Grŵp Swyddogion i adolygu dyluniad y Cynllun. Mae'r grwpiau wedi cwrdd 19 o weithiau hyd yma, mewn cyfnod byr. Hyd yma, mae ffocws y grwpiau wedi bod ar adolygu'r holl Weithredoedd Cyffredinol a Rheolau allweddol y Cynllun, gan ystyried adborth a gafwyd o’r ymgynghoriad diweddaraf. Mae’r Panel Atafaelu Carbon yn archwilio tystiolaeth ar Weithredoedd ychwanegol ac amgen i atafaelu carbon fel rhan o’r Haen Gyffredinol a byddant yn adrodd am eu canfyddiadau i’r Ford Gron Weinidogol.

Mae'r gwaith hwn wedi'i seilio ar strwythur y Cynllun fel y nodwyd yn yr ymgynghoriad. Dylai’r strwythur hwn gefnogi gwytnwch holl ffermwyr Cymru trwy ddull fferm gyfan integredig a Thaliad Sylfaenol Cyffredinol, yn seiliedig ar gwblhau cyfres o Weithredoedd Cyffredinol. Bydd y rhai sy'n dymuno gwneud mwy na hynny gyda gweithredoedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ychwanegol yn cael cyfle i wneud hynny trwy ddewis Gweithredodd Dewisol a Chydweithredol ychwanegol (a derbyn cymorth ariannol ychwanegol). Unwaith y bydd y Gweithredoedd Cyffredinol a Rheolau’r Cynllun wedi eu mireinio byddwn yn gwneud gwaith modelu pellach ac yn cynnal Asesiad Effaith Integredig diwygiedig, cyn i Weinidogion wneud unrhyw benderfyniadau terfynol y flwyddyn nesaf. 

Bydd y Grwpiau yn parhau i gefnogi'r broses gan gynnwys datblygu elfennau eraill megis methodoleg talu, Gweithredoedd Dewisol a Chydweithredol a’r fframwaith rheoli.

Gyda chefnogaeth y Ford Gron, rydym eisoes wedi cyhoeddi'r ymateb i'r ymgynghoriad a'r safbwynt diwygiedig ar dalu am ardaloedd sy'n Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) o fewn y Taliad Sylfaenol Cyffredinol. Mae datblygu'r cynnig SoDdGA yn enghraifft dda o sut rydym yn gweithio'n effeithiol fel grŵp i ddatblygu safbwynt diwygiedig. 

Nid wyf yn bwriadu rhoi sylwebaeth gyson ar sut mae'r gwaith yn datblygu, ond rwy'n disgwyl dychwelyd i'r Senedd yn ddiweddarach eleni gyda diweddariad manylach. Hoffwn ddiolch i'r holl randdeiliaid am eu hamser yn cyfrannu at y broses dros yr Haf, a dros y misoedd nesaf.