Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Ar 14 Tachwedd, dywedais wrth Aelodau'r Senedd y byddwn yn gwneud cyhoeddiad ar y gwaith rydym wedi'i wneud i ddatblygu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).
Fel yr esboniais yn fy natganiad blaenorol, i gyrraedd y pwynt lle rydyn ni nawr, dwi wedi gwrando ar adborth ffermwyr, grwpiau amgylcheddol ac amrywiaeth eang o fuddiannau eraill ac wedi cydweithio â nhw drwy'r Ford Gron Crwn Gweinidogol.
Dwi'n hynod ddiolchgar am ymdrech aruthrol pawb sydd wedi cymryd rhan. Mae'n bleser imi heddiw allu cyhoeddi’r Amlinelliad hwn o'r Cynllun diwygiedig. Mae'n adlewyrchu'r gwaith mawr yr ydym wedi'i wneud trwy gydweithio gyda’r Ford Gron.
Er bod y gwaith rydym wedi’i wneud gyda’n gilydd yn sylweddol, nid hwn yw’r Cynllun terfynol. Mae’r Ford Gron wedi cytuno bod yr Amlinelliad o’r Cynllun sy’n cael ei gyhoeddi heddiw yn cael ei ddefnyddio nawr i gynnal asesiad effaith a dadansoddiad economaidd newydd dros y misoedd i ddod i fesur ei effeithiau ar ystod o agweddau amaethyddol, amgylcheddol a chymdeithasol.
Mae'r newidiadau sydd wedi'u gwneud yn mynd i'r afael ag anghenion ffermwyr Cymru. Yr un pryd, byddwn yn cyflawni amcanion Rheoli Tir yn Gynaliadwy sydd wedi'u nodi mewn deddfwriaeth, sy’n cynnwys cefnogi cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a’n hymrwymiadau o ran y newid yn yr hinsawdd a natur.
Rydym wedi cadw fframwaith yr haen Gyffredinol i bawb, gyda Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol ychwanegol i'r rheini sydd am wneud mwy.
Ar sail yr adborth, rydym wedi gwneud newidiadau arwyddocaol i'r rhan fwyaf o'r Gweithredoedd Cyffredinol i sicrhau eu bod yn briodol, yn ymarferol ac yn cydnabod yr arfer da ar ffermydd. Mae'r newidiadau hyn yn golygu ein bod wedi lleihau nifer y Gweithredoedd Cyffredinol o 17 i 12.
Newid pwysig yn y Cynllun yw ein bod wedi uno'r gweithredoedd Iechyd Anifeiliaid, Lles a Bioddiogelwch yn un Weithred Gyffredinol symlach fel bod eich trafodaethau gyda'ch milfeddyg yn canolbwyntio ar wella iechyd a lles anifeiliaid. Rydym hefyd wedi gwneud y gofyniad bod pob fferm yn darparu man golchi yn Weithred Opsiynol, gan gydnabod y gall fod angen lefel wahanol o fioddiogelwch ar bob fferm.
O ystyried pwysigrwydd y Cynllun o ran mynd i'r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur rydym wedi cadw'r gofyniad i ffermwyr reoli o leiaf 10% o'u fferm fel cynefin. Er mwyn helpu ffermwyr yn hyn o beth, rydym yn ystyried opsiynau ychwanegol i greu cynefin dros dro. Dylen nhw fod yn addas ar gyfer pob system ffermio a phob math o berchennog tir. Er enghraifft, yn fy marn i byddai'n afresymol i landlord wrthod gadael i denant ymuno â'r SFS am ei fod am gynnwys cynefin dros dro yn ei gylchdro cnydau.
Rydym am uno'r Weithred rheoli pyllau dŵr bywyd gwyllt â'r Weithred Gyffredinol ar gyfer cynnal cynefinoedd a bydd yn cyfrif at y 10% o gynefin. Rydym wedi newid creu pyllau dŵr tymhorol ychwanegol i fod yn Weithred Opsiynol.
Ar ôl ystyried llawer o dystiolaeth gan arbenigwyr a phapurau gwyddonol, cyhoeddwyd Crynodeb Gweithredol o ganfyddiadau'r Panel Adolygu Tystiolaeth Atafaelu Carbon (y Panel Carbon) yr un pryd â'r Amlinelliad o'r Cynllun. Mae'r Crynodeb yn sylfaen eang o dystiolaeth a gwyddoniaeth fydd yn llywio trafodaethau'r Ford Gron. Mae llawer o argymhellion y Panel ar y Gweithredoedd Cyffredinol eisoes wedi'u hymgorffori yn yr Amlinelliad o'r Cynllun a byddwn yn parhau i ddatblygu nifer o Weithredoedd Opsiynol sy’n ymwneud â dal a storio carbon i ffermwyr eu hystyried.
O ran plannu coed a chreu perthi (gwrychoedd), rydym wedi gwrando'n astud ar yr ystod o safbwyntiau a fynegwyd, gan gynnwys gan y Panel Carbon. Rydym wedi datblygu cynnig gyda'r Ford Gron a fydd yn ein barn ni yn gwireddu'n hamcanion carbon a natur yn well. Y bwriad yw cydweithio â ffermwyr i wneud y gorau o'r cyfleoedd i blannu a rheoli rhagor o goed a pherthi mewn ffordd fydd o fantais i fusnes y fferm, er enghraifft trwy ddarparu cysgod ar gyfer da byw a chnydau, diogelu pridd a lleihau dŵr ffo.
Rydym wedi cael gwared ar y ffigur penodol ar gyfer gorchudd coed ar lefel y fferm. Yn ei le rydym am osod targed ar lefel y cynllun cyfan. Byddwn yn cytuno ar y targed hwnnw ar ôl trafod â'r Ford Gron. Byddwn yn creu Gweithred Gyffredinol ar gyfer cynllun cyfle i blannu coed a chreu perthi. Byddwn yn sefydlu mecanwaith lywodraethu, a fydd yn cynnwys y diwydiant ffermio a rhanddeiliaid amgylcheddol, i weithio ar y cyd i gyrraedd y targedau hyn.
Bydd ffermwyr a fydd yn gwneud cais i ymuno â'r Cynllun yn cael penderfynu lle byddan nhw am ychwanegu rhagor o goed/perthi ar eu fferm, a faint, a chael cyllid i'w helpu i wneud hynny drwy Haen Opsiynol y Cynllun. Rydym yn cynnig y bydd ffermwyr yn llunio cynllun cyfle ar gyfer eu fferm yn y flwyddyn gyntaf ar ôl ymuno â'r Cynllun a bydd angen iddynt ddangos faint y maent wedi'i wneud i roi'r cynllun ar waith erbyn diwedd blwyddyn 2030 y Cynllun. Rydym am wneud hon yn broses syml fel na fydd angen help coedwigwr proffesiynol ar ffermwyr, ond byddwn yn sicrhau bod cyngor arbenigol ar gael i helpu ffermwyr i benderfynu ble orau i blannu. Rydym am fod yn hyblyg iawn a rhoi cymorth ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau gan gynnwys plannu coetir, lleiniau cysgodi, coetir pori (neu amaethgoedwigaeth fel y'i gelwir hefyd), perllannau, coed unigol a pherthi/gwrychoedd newydd.
Yn unol ag argymhellion y Panel Carbon, byddwn yn sicrhau bod Gweithredoedd Opsiynol ar gael ar gyfer storio carbon mewn ffyrdd eraill.
Rydym wedi symleiddio'r Gweithredoedd a'r ffordd y byddwn yn eu gweinyddu er mwyn gallu eu rhedeg mor effeithlon â phosibl trwy RPW Ar-lein a rhoi cyfleoedd i ffermwyr presennol, newydd ac ifanc.
Rydym wedi esbonio yn Amlinelliad y Cynllun sut rydym yn cynnig cyfri'r Taliad Cyffredinol. Yn ogystal ag ystyried y costau y bydd ffermwyr yn eu hysgwyddo a'r incwm y byddan nhw'n ei golli, rydym yn cadarnhau ein bod am gynnwys gwerth cymdeithasol yn y taliad hwn. Bydd hyn yn cynrychioli'r manteision ehangach i gymdeithas y gall diwydiant amaethyddol cynaliadwy eu cynnig. Byddwn yn cyhoeddi'r cyfraddau talu gyda'r Cynllun terfynol.
Mae newidiadau eraill yn cynnwys ystyried Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a hawliau tir comin yn y Taliad Cyffredinol. Bydd rhagor o gymorth ar gyfer y ddau ar gael hefyd ar ffurf Gweithredoedd Opsiynol a Chydweithredol.
Bydd y Ford Gron Gweinidogol a'r Gweithgor Swyddogion yn parhau i adolygu manylion y Gweithredoedd, Gofynion y Cynllun a'r prosesau gweinyddol yn y misoedd i ddod.
Rwy'n bwriadu penderfynu ar y Cynllun terfynol yr haf nesaf, ar sail rhagor o drafod yn y Ford Gron Gweinidogol a’r dystiolaeth gan gynnwys y dadansoddiad economaidd a'r asesiad o'r effeithiau. Dyma fydd y cyfle cyntaf gawn ni i roi manylion y cyfraddau talu.
Rwy'n parhau'n ymrwymedig i wrando ar ein rhanddeiliaid ac i weithio gyda nhw i sicrhau bod y Cynllun terfynol a ddarparwn yn 2026 yn Gynllun a fydd yn helpu i sicrhau bod busnesau ffermio yn gadarn yn economaidd, bod bwyd yn cael ei gynhyrchu mewn ffordd gynaliadwy, a'n bod yn cyflawni'n amcanion ar gyfer yr hinsawdd a natur a'n cymunedau gwledig er budd cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Credaf y bydd y newidiadau a ddisgrifir heddiw yn Amlinelliad y Cynllun yn sicrhau bod y Cynllun ar gael i bob ffermwr sy'n dymuno cymryd rhan ac yn cryfhau cyfraniad y Cynllun i'n hymrwymiadau o blaid yr hinsawdd a natur.