Ken Skates, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Mae buddsoddi drwy'r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth yn galluogi Llywodraeth Cymru i fwrw ati i ddatblygu strategaeth dwristiaeth o safon, sy'n cael ei harwain gan gynnyrch, er mwyn helpu i roi rhesymau newydd i bobl ymweld â Chymru a darganfod beth sydd gennym i'w gynnig. Mae llawer o'r buddsoddi hwnnw yn digwydd ar lefel microfusnesau a busnesau bach ac mae'r canlyniadau yn gallu bod yn gadarnhaol iawn o safbwynt adfywio. Mae'r atyniadau Zipworld sydd wedi'u datblygu ym Methesda a Blaenau Ffestiniog yn enghreifftiau o hyn.
Yn ystod y flwyddyn 2014/2015 hyd yma, mae tua £2.3 miliwn wedi cael ei dalu i amryw o fusnesau twristiaeth. Defnyddiwyd y cyllid hwn i gefnogi prosiectau sy'n symbylu twf yn y farchnad, ac yn nifer y rheini sy'n aros neu'n ymweld, i wella perfformiad, swyddi a gwneud busnesau yn fwy proffidiol, ac i gynnig cynnyrch o safon. Dros y cyfnod hwn, mae'r buddsoddiad a wnaed wedi helpu hefyd i greu tua 226 o swyddi ac wedi diogelu 62 o swyddi eraill; cyfanswm o 288 o swyddi cyfwerth ag amser llawn.
Mae rhagor o gyllid wedi cael ei gynnig hefyd drwy Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth i gefnogi prosiectau strategol sy'n cydymffurfio â ‘Partneriaeth ar gyfer Twf’, y Strategaeth Dwristiaeth Genedlaethol. Bydd y Sector Twristiaeth yn parhau i gael cymorth yn y dyfodol, ac mae'n bosibl y bydd yna gyfleoedd i wella'r rhaglen hyd at 2020 drwy ffynonellau cyllid Ewropeaidd.
Yn y gorffennol, gwnaed y rhan fwyaf o fuddsoddiadau o dan y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth ar ffurf cyllid nad oes raid ei ad-dalu. Mewn achosion lle bu'n rhaid adennill cronfeydd drwy'r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth, gwnaed hynny drwy adfachu cronfeydd yn ystod cyfnod amodau'r cynnig. Er enghraifft, mae hyn yn digwydd pan fo busnes yn cael ei werthu neu os nad yw prosiect yn mynd rhagddo yn ôl y bwriad. Yn 2014, er enghraifft, cafodd cyfanswm o £162,524 ei adennill. Pan fo cronfeydd yn cael eu hadennill, maent yn cael eu bwydo yn ôl i mewn i'r cynllun.
Ar hyn o bryd, gall penderfyniadau cyllid fod ar ffurf cyllid ad-daladwy neu gyllid nad oes raid ei ad-dalu, a chaiff pob achos ei ystyried ar sail teilyngdod. Mewn achosion pan fo rhaid ad-dalu cronfeydd, caiff yr arian a dderbynnir ei fwydo'n ôl unwaith yn rhagor i'r cynllun neu'r gyllideb dan sylw. Yn 2015, hyd yma, talwyd £23,326 o gyllid ad-daladwy'r sector Twristiaeth yn ôl i Lywodraeth Cymru.
Mae'n ofynnol i bob busnes fodloni rhywfaint o ‘amodau'r cynnig’, fel creu a diogelu swyddi, a chyrraedd a chynnal yr ansawdd a fwriadwyd. Caiff perfformiad yn erbyn y meini prawf hyn ei adolygu adeg y talu; ond hefyd 'hanner ffordd' drwy gyfnod amodau'r prosiect (fel arfer ar ôl 18 mis) a hefyd ar 'ddiwedd' cyfnod amodau'r prosiect (fel arfer ar ôl 3 blynedd). Os bydd anghysondebau yn codi, caiff y rhain eu hystyried fesul achos.
Fel y nodwyd gennyf eisoes, yn ogystal â'r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhyddhau rhagor o gyllid cyfalaf i ddatblygiadau twristiaeth eithriadol, fel Syrffio Eryri, sydd ar fin agor yn Nolgarrog. Dyma dystiolaeth gadarn ein bod yn llwyddo i ddenu atyniadau arloesol a fydd yn helpu i wahaniaethu ymhellach rhwng Cymru a chyrchfannau eraill fel lleoliad unigryw i ymweld ag ef, a lleoliad sy'n gallu cystadlu ar lwyfan byd-eang.
I sicrhau ein bod yn parhau i symud yn ein blaenau, ar y cyd â'r Bwrdd Cynghori Twristiaeth, ac yn unol â'r Strategaeth Dwristiaeth, rydym yn ystyried y meini prawf sy'n diffinio prosiectau twristiaeth eithriadol o dan y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth. Byddwn hefyd yn sicrhau bod y prosesau mor hwylus â phosibl i fusnesau, ac yn arbennig lle ceir lefelau cymharol isel o fuddsoddiad mewn microfusnesau a busnesau bach twristiaeth, sy'n cynnig cyfle i dyfu'r economi dwristiaeth.