Ken Skates AC, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Yn y Cynllun Cyflogadwyedd, a gyhoeddwyd flwyddyn yn ôl, gwnaethom nodi ein huchelgais i helpu pobl ledled Cymru i gael gwaith, gan baratoi'r gweithlu ar gyfer heriau heddiw a'r hirdymor ar yr un pryd.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae amrywiaeth o gamau gweithredu wedi cael eu cymryd i gysoni a gwella ein dull o helpu pobl i gael swyddi cynaliadwy o ansawdd da ledled y wlad.
Mae'r gyfradd diweithdra a'r gyfradd anweithgarwch economaidd yn parhau i ddisgyn yng Nghymru. Mae'r gyfradd cyflogaeth yn uwch yng Nghymru erbyn hyn – a'r gyfradd anweithgarwch economaidd yn is – o gymharu â'r DU yn ei chyfanrwydd. Dyma'r tro cyntaf i hynny ddigwydd ers dechrau cofnodion mae modd eu cymharu, ac mae'n dangos bod ein dull gweithredu yn gweithio.
Mae cymorth cyflogadwyedd a sgiliau yn cael ei ddarparu drwy rwydwaith darparu eang sy'n cynnwys awdurdodau lleol, sefydliadau addysg bellach, cyflogwyr a'r trydydd sector. Rwyf yn ddiolchgar am y cyfraniad ar y cyd i'r cynnydd sylweddol sydd wedi’i wneud yng Nghymru, a hynny drwy gyfuniad o gyllid gan yr UE a gan Lywodraeth Cymru, ar draws y pedair prif thema yn y cynllun.
Paratoi ar gyfer newid radical yn y byd gwaith
Wrth i ni ddod yn nes at adael yr UE, mae'n bwysicach byth ein bod yn parhau i wneud cynnydd a gwneud yn siŵr ein bod wedi paratoi ar gyfer unrhyw fylchau a allai godi o ran cyflenwad sgiliau, neu effeithiau ar bobl a lleoedd. Mae cyfnod ansicr o'n blaen a bydd cymorth cyflogadwyedd hyblyg o safon uchel yn sicrhau ein bod wedi paratoi gorau gallwn ni i liniaru'r effaith, yn enwedig ar y sectorau gweithgynhyrchu uwch, modurol, peirianneg ac iechyd a gofal cymdeithasol.
Rydym yn defnyddio pob arf sydd ar gael i ni i helpu cyflogwyr a phobl sy'n ceisio gwaith i baratoi ar gyfer newidiadau posibl yn yr economi ar ôl i ni adael yr UE.
Mae Porth Brexit Busnes Cymru yn galluogi busnesau ledled Cymru i archwilio sut gallant baratoi orau ar gyfer y newidiadau i ddod. O ran unigolion, bydd cyngor ac arweiniad wedi'i ddarparu gan y gwasanaeth cynghori Cymru'n Gweithio, ynghyd â'r rhwydwaith cryf o bartneriaid cymorth cyflogadwyedd, yn sicrhau ein bod yn gallu ymateb yn gyflym gyda'r cymorth gorau posibl i'r rheini y mae ei angen arnynt. Ar ben hynny, mae gennym drefniadau cydweithio cryf ar waith rhwng asiantaethau cymorth mawr, y Ganolfan Byd Gwaith, awdurdodau lleol ac Undebau Llafur.
Hybu cyfrifoldeb cyflogwyr I uwchsgilio cyglogeion a staff cymorth, ac I ddarparu gwaith teg
Rydym yn cydnabod nad cymorth i unigolion yw'r unig beth sy'n gysylltiedig â chyflogadwyedd. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr i hybu ymddygiadau ymarfer gorau, cyflymu camau i gefnogi recriwtio, cadw cyflogeion, iechyd a lles yn y gweithle, a hyfforddiant yn y gwaith i helpu pobl i aros mewn gwaith.
Mae'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg wedi helpu 59 o gyflogwyr i hyfforddi unigolion yn y gwaith i wella lefelau sgiliau 4,000 o gyflogeion, i fynd i'r afael â phrinder sgiliau ac i wella gallu a chynhyrchiant y gweithlu.
Mae ein rhaglen Prentisiaeth flaenllaw yn parhau i godi proffil hyfforddiant 'yn y gwaith' yng Nghymru ac mae ar y trywydd iawn i greu 100,000 o gyfleoedd cyflogaeth yn dilyn prentisiaeth dros oes y Cynulliad presennol. Drwy gymell busnesau bach a chanolig i ddefnyddio prentisiaethau a rhoi blaenoriaeth i ehangu Prentisiaethau Uwch yn y pynciau STEM a phynciau technegol, rydym yn sicrhau ffocws ar sectorau twf i greu'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol i hybu ymarfer arloesol, i greu cynnyrch newydd ac i gynyddu cynhyrchiant.
I annog arallgyfeirio amaethyddol, mae cynllun peilot Prentisiaeth Coedwigaeth wedi cael ei sefydlu er mwyn creu prentisiaethau newydd ym meysydd coed a phren, peirianneg yn seiliedig ar y tir, a chadwraeth amgylcheddol.
Rydym wedi gweld cynnydd gwych o ran helpu unigolion i aros mewn gwaith. Mae'r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith wedi darparu ymyriadau therapiwtig i 4,200 o unigolion sydd â chyflyrau cyhyrysgerbydol a/neu gyflyrau iechyd meddwl, gan helpu bron i 3,000 i aros mewn gwaith a 1,200 arall i ddychwelyd i'r gwaith. Ym mis Tachwedd 2018, gwnaethom gyhoeddi £9.4 miliwn o gyllid ychwanegol a fydd yn ein galluogi i helpu hyd at 12,000 o bobl i aros yn y gwaith ac i gyflwyno gwasanaeth cymorth busnes newydd, a fydd yn darparu hyfforddiant ar bob elfen o iechyd a lles yn uniongyrchol i fusnesau bach a chanolig.
Mae 100 o gyflogwyr ychwanegol wedi cofrestru ar gyfer Gwobrau Cymru Iach ar Waith sy'n cefnogi cyflogwyr, unigolion ac ystod o weithwyr iechyd proffesiynol er mwyn galluogi pobl o oedran gweithio yng Nghymru i gadw’n heini ac yn iach fel eu bod yn gallu aros mewn gwaith neu ddychwelyd i’r gwaith ar ôl cyfnod o salwch.
Mae ein dull 'rhywbeth am rywbeth', fel y nodir yn ein Cynlluniau Gweithredu Economaidd, wedi darparu cyfle ardderchog i weithio gyda busnesau i gefnogi a hybu'r ymddygiadau sy'n gallu helpu pobl i gael gwaith, i aros mewn gwaith ac i ddatblygu yn y gwaith. Ym mis Mai 2018 gwnaethom lansio'r Contract Economaidd, canolbwynt y Cynllun, er mwyn cael y gwerth gorau am ein buddsoddiad. Ers hynny mae 158 o gyflogwyr wedi ymrwymo i Gontractau Economaidd, gan ddangos ymrwymiad i dwf, gwaith teg, hybu iechyd a lles yn y gweithle, a datblygu sgiliau'n barhaus yn y gweithle.
Rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio ein harfau caffael i wneud yn siŵr bod pobl a chymunedau yng Nghymru yn gallu elwa ar fuddsoddiad cyhoeddus sy'n sicrhau enillion i bwrs y wlad.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, adroddwyd bod amcanion Budd Cymunedol wedi arwain at greu 102 o gyfleoedd cyflogaeth, 505 o brentisiaethau a 55,111 o wythnosau hyfforddi.
Rwyf yn frwd dros integreiddio datblygiad economaidd, cyflogadwyedd a sgiliau yn well. Mae pob un o'r rhain yn alluogwyr allweddol ar gyfer cynyddu ffyniant yng Nghymru. Mae gan Busnes Cymru a Gyrfa Cymru rôl hollbwysig i'w chwarae yn darparu mynediad at gyngor, arweiniad a chymorth i gyflogwyr ffynnu, ac yn helpu unigolion i gael gwaith o ansawdd da.
O hyn ymlaen, bydd y ddau sefydliad yn gweithio'n agosach gyda'i gilydd wrth gyflenwi gwasanaethau allweddol er mwyn cysylltu cyflogwyr sy'n recriwtio ag unigolion sy'n ceisio gwaith yn well. Gyda'i gilydd byddant yn cefnogi gweithlu medrus y dyfodol yn seiliedig ar anghenion disgwyliedig cyflogwyr.
Mae Busnes Cymru wedi bod yn mynd ati'n rhagweithiol i gefnogi unigolion sy'n ystyried dechrau busnes newydd. Gan gydweithio â phartneriaid, mae wedi helpu i greu 1,042 o fentrau newydd ledled Cymru yn ystod 2018 ac mae'n canolbwyntio ar annog rhagor o ferched i ddechrau, cynnal neu dyfu eu busnes a gwireddu eu potensial.
Mae pedair Canolfan Fenter newydd wedi cael eu sefydlu ledled Cymru i ddarparu lle i entrepreneuriaid hwyluso'r gwaith o rwydweithio a mentora rhwng unigolion a busnesau, er mwyn meithrin arloesedd.
Mae busnesau bach a chanolig newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli wedi cael cymorth i dyfu mewn ffyrdd cynaliadwy a chyfrifol, gan helpu i greu 6,116 o swyddi newydd yn 2018.
Ymateb I fylchau mewn sgiliau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol
Yn yr hinsawdd economaidd bresennol mae'r hawl i ddysgu gydol oes, a'r hyblygrwydd i gael hyfforddiant ac ennill cymwysterau newydd wrth weithio, yn bwysicach nag erioed. Bydd dau gynllun peilot Cyfrif Dysgu Proffesiynol rhanbarthol yn dechrau fis Medi 2019 er mwyn helpu oedolion cyflogedig sy'n ennill llai na'r incwm canolrifol yng Nghymru i ddysgu sgiliau lefel uwch, i newid gyrfa neu i symud i lefel uwch.
Rydym yn mynd i'r afael â materion yn y gweithlu mewn sectorau cyflogau isel, sy'n brin o gyfleoedd datblygu yn aml. Rydym yn cryfhau'r economi sylfaenol i helpu i feithrin gwytnwch ym mhob cwr o Gymru.
Rydym wedi ymrwymo i gynyddu gallu a lefelau sgiliau'r gweithlu gofal plant, chwarae a blynyddoedd cynnar drwy gyfres newydd o gymwysterau gofal plant, a hynny i gefnogi llwybrau gyrfa i lefelau uwch a phontio i sectorau cysylltiedig fel iechyd ac addysg. O fis Ebrill 2019 ymlaen, bydd darparwyr gofal dydd cofrestredig yn cael esemptiad rhag cyfraddau busnes er mwyn cefnogi twf yn y sector.
Rydym wedi lansio ymgyrch recriwtio a chadw o'r enw 'Gofalwn.Cymru' i hybu gyrfaoedd gwerth chweil yn y sectorau gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant er mwyn helpu pobl i fyw bywyd llawn a gweithgar.
Rydym yn dal wedi ymrwymo i gymryd camau i gael gwared ar y bwlch cymwysterau rhwng Cymru a gweddill y DU. Mae prosiectau wedi'u hariannu gan yr UE wedi helpu dros 73,000 o bobl i ennill cymhwyster wrth baratoi ar gyfer gwaith neu yn y gwaith.
Darparu dull personol ar gyfer cymorth cyflogadwyedd
Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran gwneud yn siŵr bod gennym gymorth pwrpasol o wahanol lefelau ar gael i'r rheini â'r angen mwyaf, a hynny'n seiliedig ar anghenion unigol.
Drwy'r rhwydwaith presennol o raglenni wedi'u hariannu gan yr UE, mae dros 62,000 o bobl hyd yma wedi cael cymorth i gynyddu eu sgiliau cyflogadwyedd, eu hyfforddiant neu eu parodrwydd ar gyfer gwaith, mae dros 13,000 wedi cael eu helpu i gael gwaith ac mae dros 8,000 o bobl ifanc wedi cael eu helpu i gael addysg neu hyfforddiant.
O ran unigolion sy'n gwella ar ôl camddefnyddio sylweddau neu gyflyrau iechyd meddwl, mae'r Gwasanaeth Di-waith wedi gweithio gyda 8,500 o bobl agored i niwed yng Nghymru i ddod o hyd i gyflogaeth neu eu hannog i ddychwelyd i addysg a hyfforddiant.
I fynd ati'n well i helpu pobl â chyflyrau iechyd meddwl i gael gwaith, mis diwethaf cawsom £1.5 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU i brofi'r defnydd ymarferol o Gymorth a Lleoliad Unigol (IPS) yng ngogledd Cymru – dull newydd lle mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gweithio mewn partneriaeth ag arbenigwyr cyflogaeth.
Mae gennym allgymorth wedi'i deilwra a'i wreiddio'n llawn yn y gymuned ar gyfer y rheini sydd bellaf o'r farchnad lafur, gyda dros 29,500 o unigolion wedi cymryd rhan a bron i 10,000 wedi'u helpu i gael gwaith. Mae £12 miliwn o gyllid ychwanegol Cymunedau am Waith a Mwy yn ategu'r Rhaglenni Cymunedau am Waith a Cyflogaeth Gofal Plant i ddarparu mentora a chymorth dwys i oresgyn y rhwystrau cymhleth i gyflogaeth.
Dros y chwe mis diwethaf, rydym wedi cyhoeddi £4.5 miliwn ychwanegol i brosiectau er mwyn helpu dros 1,800 o bobl i gael gwaith neu i gynyddu eu sgiliau cyflogadwyedd. Bydd y prosiect 'Synnwyr Gwaith' yn darparu mentora arbenigol drwy iaith arwyddion i helpu'r rheini sydd wedi colli eu clyw ac sydd â chyflyrau cysylltiedig i gael gwaith. Rydym yn hyderus y byddwn yn gallu parhau â rhaglen gymorth gynhwysfawr ar ôl gadael yr UE.
Wrth i ni gaffael Rhaglen Cyflogadwyedd newydd Cymorth Gwaith Cymru, byddwn yn ymestyn ReAct, Twf Swyddi Cymru, Mynediad, Hyfforddeiaethau a'r Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd i ddarparu parhad o'r cymorth cyflogadwyedd a sgiliau yn ystod cyfnod ansicr.
Bydd y gyfres o raglenni cyflogadwyedd yn parhau i roi'r sgiliau, yr hyfforddiant paratoi ar gyfer gwaith, y cymwysterau a'r profiad gwaith sydd eu hangen ar bobl ifanc ac oedolion i ddatblygu tuag at waith ac yn y gwaith.
Mae gofal plant hygyrch o safon uchel yn hollbwysig er mwyn galluogi rhieni a gofalwyr i gael gwaith a hyfforddiant ac aros mewn gwaith a hyfforddiant. Mae cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud o ran cyflwyno'r 30 awr o ofal plant di-dâl i rieni plant 3 a 4 oed sy'n gweithio. Bydd buddsoddiad ychwanegol mewn 115 o leoliadau gofal plant newydd neu rai wedi'u hailddatblygu yn cynyddu gallu'r sector i ateb y galw ledled Cymru.
Yn ddiweddar, gwnaethom gwblhau ymgynghoriad ar 'Gweithredu ar anabledd: hawl i fyw’n annibynnol'. Roedd hwn yn cynnig amrywiaeth o gamau i gau'r bwlch cyflogaeth anabledd, ac ym mis Rhagfyr 2018 cyhoeddom 'Gynllun Gweithredu ar Brentisiaethau Cynhwysol' i ehangu'r mynediad i bobl ag anableddau ac anawsterau dysgu. Rwyf yn benderfynol o weld gwelliannau yn y gyfradd cyflogaeth i bobl anabl yng Nghymru a byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â'r sector Anabledd er mwyn llunio camau gweithredu priodol ar y cyd, a hynny i gefnogi cyflogwyr i recriwtio pobl anabl a helpu pobl â chyflyrau iechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio i gael gwaith.
Byddwn yn parhau i gydweithio â'r Adran Gwaith a Phensiynau i gynyddu'r niferoedd sy'n manteisio ar ei chynllun 'Mynediad i Waith' ac i godi ymwybyddiaeth ymysg cyflogwyr a phobl anabl.
Mae prosiectau wedi'u hariannu gan yr UE ledled Cymru wedi helpu dros 3,400 o gyflogeion anabl a chyflogeion â chyflyrau iechyd sy’n effeithio ar eu gallu i weithio i aros mewn gwaith. Ers mis Medi 2018 mae £8 miliwn o gyllid ychwanegol wedi cael ei gyhoeddi i gefnogi dros 5,300 o bobl anabl neu bobl â chyflyrau iechyd i aros mewn gwaith, neu i fynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n achosi tangyflogaeth.
O ran pobl ifanc, mae ein Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid yn parhau i gael effaith wirioneddol. Ers ei lansio, mae'r ganran o blant Blwyddyn 11 sy'n gadael yr ysgol ac yn peidio â mynd ymlaen i addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yng Nghymru wedi gostwng dros 50%.
O fis Ebrill 2019 ymlaen, bydd y Grant Cymorth Ieuenctid yn elwa ar hwb buddsoddiad gwerth £6.6 miliwn i nodi a chefnogi pobl ifanc sydd â phroblemau â'u lles a'u hiechyd meddwl/emosiynol, a'r rheini sydd mewn perygl o ddigartrefedd. Bydd unigolion hyd at 21 oed yn gallu cael gostyngiadau teithio er mwyn cael gwared ar drafnidiaeth fel rhwystr i addysg, hyfforddiant a gwaith.
Yn olaf, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol wrth ddatblygu 'Cymru'n Gweithio', gwasanaeth cyngor cyflogadwyedd newydd i Gymru a fydd yn lansio ar 1 Mai. Bydd y gwasanaeth cenedlaethol newydd, a gyflenwir gan Gyrfa Cymru, yn ei gwneud hi'n haws i bobl gael gafael ar gyngor a chymorth proffesiynol, asesiadau seiliedig ar anghenion ac atgyfeiriad at gymorth priodol i gael swydd. Bydd yn cuddio cymhlethdod ein model cyflenwi presennol i bobl ifanc ac oedolion er mwyn ei gwneud hi'n haws iddynt gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt.
Ar yr adeg ansicr hon i economi Cymru, bydd yn ddull o sicrhau cymorth cyflogadwyedd mwy syml i unigolion ledled y wlad.
Ein huchelgais yw darparu cymorth cyflogadwyedd dan un faner, 'Cymru'n Gweithio', gan helpu pobl i newid eu hanes drwy gymorth datblygu gyrfa proffesiynol, atgyfeirio personol a chymorth pwrpasol i fodloni eu hanghenion.
Cyflogaeth yw'r ffordd fwyaf cynaliadwy allan o dlodi. Rwyf yn falch o'r cynnydd rydym wedi'i wneud ond mae angen i ni barhau i wella a datblygu ein dull gweithredu er mwyn ymateb i heriau'r dyfodol. Rwyf yn galw ar ein holl bartneriaid i weithio gyda ni i greu gwell canlyniadau i unigolion.
Gwobr hynny fydd cenedl uchelgeisiol a ffyniannus sydd â'r gefnogaeth a'r grym i ddatblygu tuag at waith o ansawdd da, sicrhau'r gwaith hwn ac aros ynddo.