Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy'n falch o lansio'r Cynllun Cyflenwi Cenedlaethol ar gyfer Cydlyniant Cymunedol heddiw mewn digwyddiad i randdeiliaid yn Neuadd y Ddinas Abertawe, ar yr un pryd â'r prosiect 'Lleisiau'n Cael eu Clywed' gan Gyngor Cydraddoldeb Rhanbarthol Bae Abertawe, i fynd i'r afael â throseddau casineb.

Bydd y Cynllun Cyflenwi Cenedlaethol yn weithredol rhwng 2014- 2016 ac mae'n cefnogi ymrwymiad allweddol yn y Rhaglen Lywodraethu i greu cymunedau mwy cynhwysol a chydlynus.  Roeddwn yn falch o gyhoeddi yn ddiweddar gyllid ychwanegol i ymestyn yr 8 swydd Cydgysylltydd Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol ledled Cymru am 2 flynedd, ii weithredu'r Cynllun Cyflenwi Cenedlaethol.  Mae'r swyddi hyn o fewn awdurdodau lleol i gydfynd ag ag ardaloedd ôl troed rhanbarthol, a byddant yn helpu i sefydlu trefniadau mwy cadarn ar gyfer cydweithio i ddatblygu'r Cynllun Cyflenwi Cenedlaethol.  

Mae'r Cydgysylltwyr yn gyfrifol am ddatblygu rhaglen waith a fydd, yn ogystal â gwella cydlyniant cymunedol, o fudd i gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol mewn sawl ffordd, gan gynnwys trechu tlodi, gwella diogelwch cymunedol a hyrwyddo cydraddoldeb.  Mae cysylltiad cryf hefyd â chyfrifoldeb statudol awdurdodau cyhoeddus penodol i ystyried yr angen i 'feithrin perthynas dda', fel a bennir o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.  

Caiff y Cynllun Cyflenwi Cenedlaethol ei gyflawni yn erbyn y canlyniad lefel uchel bod: 'Cymunedau ledled Cymru yn fwy diogel, cynhwysol a chadarn'.  Mae 7 maes o ganlyniadau sy'n sylfaen i'r Cynllun Cyflenwi Cenedlaethol.  Sef: mynd i'r afael â throseddau a digwyddiadau casineb; mynd i'r afael â chaethwasiaeth fodern; cysylltu ar draws cymunedau Sipsiwn a Theithwyr; mudwyr; bod yn rhan o Glystyrau Cymunedau yn Gyntaf; prif ffrydio cydlyniant cymundedol a monitro tensiwn.  Mae meysydd y canlyniadau yn adlewyrchu ymrwymiadau Llywodraeth Cymru sydd â blaenoriaeth uchel.  

Mae cysylltu â chymunedau yn sylfaenol i sbarduno cyflawni ar draws y meysydd o ganlyniadau.  Bydd swyddi'r Cydgysylltwyr yn chwarae rhan hollbwysig i alluogi'r ymgysylltiadl a'r cydweithio hwn.  Byddant hefyd yn chwarae rhan bwysig i sicrhau bod egwyddorion cydlyniant cymunedol yn cael eu prif ffrydio yng ngwaith awdurdodau lleol ac yn cynnal y broses o gyflenwi'r Cynlluniau Integredig Sengl a'r Cynlluniau Cydraddoldeb Strategol, ble y bo gan Gydgysylltwyr swyddogaeth ddylanwadol.   Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno bod nifer o heriau i'n cymunedau yn ystod y cyfnod economaidd anodd hwn, a bydd y Cydgysylltwyr yn chwarae rôI werthfawr i ateb yr heriau hyn a lliniaru eu heffaith negyddol. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi gwaith y Cydgysylltwyr ledled  Cymru i gyflawni'r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol.  Byddaf yn derbyn adroddiad cynnydd ddwywaith y flwyddyn, a hefyd rwyf wedi ymrwymo i gyhoeddi adroddiad blynyddol ar gyflawni drwy Gymru gyfan.  Byddai hyn yn sicrhau y gellir mesur y cynnydd ac y bydd yn sicrhau mwy o gysondeb wrth gyflawni a rhannu arfer da ledled Cymru.