Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Tha
Heddiw, cyhoeddais y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Effeithlonrwydd ac Arbedion Ynni, sy’n amlinellu sut yr ydym eisoes wedi cyflawni llawer o’r ymrwymiadau a wnaed yn y Chwyldro Carbon Isel, y Strategaeth Tlodi Tanwydd, y Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd ac Adnewyddu’r Economi: Cyfeiriad Newydd. Hyd yma, rydym wedi:
- Gwella perfformiad 6,000 o aelwydydd o ran effeithlonrwydd ynni drwy’r cynllun arbed
- Datblygu Cynllun Tlodi Tanwydd newydd i Gymru Gyfan, a fydd yn dod yn weithredol ym mis Ebrill, ac a fydd yn rhoi cymorth i hyd at 15,000 o bobl y flwyddyn
- Galluogi 4,700 o ddeiliaid tai i brynu boeleri newydd yn lle hen foeleri aneffeithlon, drwy’r cynllun sgrapio boeleri
- Cyflwyno’r Cod Cartrefi Cynaliadwy, sy’n disgwyl i bob tŷ newydd yng Nghymru gyflawni safonau Lefel 3 y Cod a safonnau ynni uwch
- Sefydlu Rhaglen Grant y Newid yn yr Hinsawdd i gefnogi grwpiau sydd am fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd
• Sefydlu Ynni’r Fro i gefnogi’r gwaith o gynhyrchu ynni ar raddfa gymunedol - Ariannu’r Ymddiriedolaeth Garbon i gefnogi busnesau yng Nghymru i dorri ar allyriadau carbon ac elwa ar botensial technolegau carbon isel
- Rhoi cymorth ariannol i fusnesau bach a chanolig i’w helpu i gael eu hachredu ar gyfer gosod systemau ynni adnewyddadwy, o dan y Cynllun Ardystio Microgynhyrchu
- Defnyddio ein prosiectau, er enghraifft arbed a’r Cynllun Tlodi Tanwydd newydd, i greu cyfleoedd hyfforddi a swyddi yn lleol
- Buddsoddi mwy na £5 miliwn ym mhrosiectau’r sector cyhoeddus i leihau carbon
Bydd y camau hyn, ynghyd â chamau eraill yn y Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Effeithlonrwydd ac Arbedion Ynni yn helpu i:
- Leihau tlodi tanwydd a helpu i wireddu ein Strategaeth Tlodi Tanwydd
- Cwtogi ar allyriadau nwyon tŷ gwydr, a helpu i wireddu ein Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd
- Creu swyddi a chyfleoedd busnes yn un o’r chwe sector a nodwyd yn Adnewyddu’r Economi: Cyfeiriad Newydd, a chefnogi’r gwaith o wireddu ein Strategaeth Swyddi Gwyrdd
- Gwella perfformiad ynni adeiladau yng Nghymru, gan godi ansawdd ein hadeiladau a lleihau costau ynni
- Adfywio cymunedau yng Nghymru, drwy wella gwneuthuriad adeiladau ac, yn bwysicach oll, drwy greu swyddi a chyfleoedd busnes a fydd yn datblygu cymunedau mwy cydlynol a chynaliadwyCyflawni ein polisi ynni yn fwy cyffredinol, gan ategu cynnwys Cymru: Chwyldro Carbon Isel
- Galluogi pobl, sefydliadau a busnesau i dorri ar yr ynni y maent yn ei ddefnyddio, ac i ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon, gan ennyn eu diddordeb mewn gwneud hynny
- Cefnogi dosbarthu adnoddau mewn modd sy’n fwy teg ac yn fwy cyfiawn yn gymdeithasol