Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ
Heddiw, rwy’n cyhoeddi pecyn buddsoddi cyfalaf sy’n werth cyfanswm o £617.5 miliwn i gefnogi ein blaenoriaethau yn y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. Wrth ddatblygu ein cynlluniau gwario, rydym wedi canolbwyntio’n ddyfal ar y ffyrdd y gallwn ymyrryd i gefnogi twf a chreu a chynnal swyddi. Mae hynny’n bwysicach nag erioed yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni.
Pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU y Cylch Gwariant ym mis Mehefin, pennwyd ein cyllideb gyfalaf ar gyfer 2015-16 am y tro cyntaf. Bydd y gyllideb honno 33% yn is na’r hyn oedd yn 2009-10, mewn termau real.
Mae Llywodraeth y DU yn cyfyngu fwyfwy ar y ffordd rydym yn defnyddio’r gyllideb hon. Yn 2015-16, caiff rhyw 12% o’n cyllideb gyfalaf ei neilltuo ar gyfer trafodion ariannol. Golyga hyn mai dim ond ar gyfer benthyciadau a buddsoddiadau ecwiti y gellir defnyddio’r gyfran honno, ac y bydd angen ad-dalu’r Trysorlys maes o law.
Mae Llywodraeth Cymru yn manteisio ar bob cyfle i fuddsoddi yn ein seilwaith er mwyn hybu’r economi. Felly, byddwn yn gwneud defnydd llawn o’n pŵer i wario cyfalaf er gwaethaf y cyfyngiad.
Y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru yw ein prif ddull o weithredu ein penderfyniadau buddsoddi strategol. Mae’r pecyn buddsoddi gwerth £617.5 miliwn i gefnogi ein blaenoriaethau buddsoddi, a gyhoeddir gennyf heddiw, yn cynnwys £342.5 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol a £275 miliwn o gyllid trafodion ariannol. Mae’r holl ddyraniadau hyn i’w gweld yn y tabl yn Atodiad 1.
Rydym wedi buddsoddi’n helaeth mewn tai, mewn trafnidiaeth ac mewn datblygu’r economi ers cyhoeddi’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru y llynedd, a hynny er mwyn hybu twf hirdymor a chreu neu gefnogi swyddi. Bydd y pecyn diweddaraf hwn yn dod â gwir fanteision i Gymru, drwy greu neu gefnogi dros 11,000 o swyddi yn ystod y ddwy flynedd nesaf.
Er enghraifft, yng Nghyllideb Ddrafft 2014-15 a gyhoeddwyd ddoe, sef 8 Hydref, rydym yn buddsoddi’r symiau ychwanegol a ganlyn:
- £175.5 miliwn er mwyn gwella rhwydweithiau trafnidiaeth a darparu amddiffynfeydd rhag llifogydd i ddiogelu seilwaith hanfodol, gan gynnwys Cam 1 cynllun newydd i greu system fetro yn y De-ddwyrain drwy well cysylltiadau bws a thrên.
- £170 miliwn mewn tai. Golyga hyn ein bod wedi creu gwerth dros £500 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol mewn amrywiaeth o fentrau tai ers 2012, gan gynnwys tai fforddiadwy, tai i’w rhentu’n breifat a thai ar gyfer perchen-feddianwyr. Rhoddodd hynny hwb aruthrol i’r diwydiant adeiladu ar adeg pan oedd angen mawr amdano. Cyllid ar gyfer Cymorth i Brynu Cymru yw rhan o’r buddsoddiad hwn. Dyma gynllun ecwiti a rennir newydd ar gyfer Cymru, i helpu pobl i brynu cartrefi sy’n cael eu hadeiladu o’r newydd. Mae’r Grant Tai Cymdeithasol hefyd yn cael cyllid pellach i ddarparu cartrefi i’r rheini sy’n gorfod symud o ganlyniad i doriadau Llywodraeth y DU i’r Budd-dal Tai.
- £82 miliwn i helpu i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mwy effeithlon a diwastraff, a sicrhau eu bod yn addas ar gyfer y dyfodol ac y gellir eu fforddio yn y tymor hir. Mae hyn yn cynnwys ail gam a cham olaf Ysbyty Arch Noa i Blant. Rwyf hefyd yn darparu £19 miliwn o gyllid Buddsoddi i Arbed yn 2014-15, yn ychwanegol at y buddsoddiad cyfalaf rwy’n ei gyhoeddi, er mwyn helpu sefydliadau’r gwasanaeth cyhoeddus i newid i ddulliau mwy effeithlon a chost-effeithiol o ddarparu gwasanaethau.
- £54.5 miliwn i ddatblygu ein Hardaloedd Menter ac ar gyfer gweithgarwch ehangach i helpu byd busnes a thwf economaidd.
- £70 miliwn i ddatblygu’r diwydiant ynni yng Nghymru a chyfrannu at drechu tlodi drwy fuddsoddi mewn mesurau sy’n helpu cartrefi Cymru i ddefnyddio ynni yn fwy effeithlon.
Bydd dyraniadau pellach o £65.5 miliwn yn 2013-14 yn cefnogi’r blaenoriaethau hyn.
Rwyf hefyd wedi gwneud dyraniadau cyfalaf ychwanegol o ganlyniad i gytundeb y gyllideb rhwng Llywodraeth Lafur Cymru, Plaid Cymru a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys £15 miliwn ar gyfer y Gronfa Gofal Canolraddol, sef cronfa arloesol newydd i helpu pobl sydd angen gwasanaethau iechyd, tai a gofal cymdeithasol i fyw’n annibynnol, a £9.5 miliwn yn ychwanegol ar gyfer y Gronfa Technoleg Iechyd a Thelefeddygaeth, er mwyn darparu offer trin canser robotig a buddsoddi rhagor mewn telefeddygaeth.
Rydym yn parhau i ddatblygu amrywiaeth o fentrau cyllid blaengar ac i archwilio dulliau eraill o wneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd gennym. Y mis diwethaf, lansiodd y Gweinidog Tai ac Adfywio a minnau’r Grant Cyllid Tai newydd. Mewn cydweithrediad ag ugain o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig bydd y Grant yn darparu gwerth dros £130 miliwn o fuddsoddiad newydd mewn tai cymdeithasol yng Nghymru ac yn creu ffynhonnell gyllid newydd sbon ar gyfer y landlordiaid. Byddaf yn gwneud cyhoeddiadau pellach yn y Gyllideb Derfynol ar gyllid i symud y rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif yn ei blaen yn gyflymach. Hefyd mae Ymddiriedolaeth GIG Felindre yn awyddus i ddatblygu Canolfan Ganser newydd, yr amcangyfrifir y bydd yn costio rhyw £200 miliwn, er mwyn sicrhau bod cleifion y GIG yng Nghymru yn dal i gael y gofal a’r triniaethau canser gorau. Mae’r Ymddiriedolaeth yn gweithio gyda’i phartneriaid i ddod o hyd i gyfleoedd ariannu blaengar er mwyn denu’r buddsoddiad cyfalaf i hybu enw da Felindre fel Canolfan Ragoriaeth.
Byddwn hefyd yn manteisio ar bob cyfle i ddefnyddio cyllid Ewrop i fuddsoddi rhagor mewn seilwaith hanfodol sy’n cefnogi twf a swyddi yng Nghymru. Rwy’n darparu £10.3 miliwn o arian cyfalaf cyfatebol y flwyddyn hyd at 2020 ar gyfer cynlluniau adfywio lleol, yn unol â’r rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, er mwyn cefnogi Rhaglenni 2014-2020 newydd Cronfa Strwythurol Ewrop.
Mae’r dyraniadau a gyhoeddir gennyf heddiw, ynghyd â’r mentrau ariannu blaengar a buddsoddiad ein partneriaid yn y sector preifat, yn golygu ein bod wedi ymrwymo i fuddsoddi £2 biliwn yn ychwanegol yn economi a gwasanaethau cyhoeddus Cymru ers cyhoeddi’r Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru.