Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Tachwedd 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Dangosodd Gweithio Gyda’n Gilydd dros Gymru: Fframwaith Strategol ar gyfer Gweithlu’r Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru yn glir uchelgais Llywodraeth Cymru i roi gweithlu’r gwasanaeth cyhoeddus wrth wraidd darparu gwasanaethau cyhoeddus mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar y dinesydd.

Yng Nghymru, rydyn ni’n cydnabod mai’r gweithlu yw ased mwyaf y gwasanaeth cyhoeddus, a all fod yn sylfaen ar gyfer adeiladu a meithrin ein gweledigaeth o weithlu sy’n seiliedig ar werthoedd o ymddiriedaeth, ymroddiad a rhagoriaeth.

Yr allwedd i wireddu’r weledigaeth honno yw cytundeb teg i’n gweithlu gwasanaeth cyhoeddus. Bydd cytundeb o’r fath yn parchu hawliau a chyfrifoldebau staff a chyflogwyr, ynghyd â rôl allweddol yr Undebau Llafur o ran gwneud gwahaniaeth a chreu dyfodol llwyddiannus i Gymru. Mae angen i’n dinasyddion a’r gweithlu fel ei gilydd gyfrannu’n llawn at ddyfodol gwasanaethau er mwyn i’r gwasanaethau hyn fod cystal ag y gallant fod. Rydyn ni am sicrhau bod gan bob aelod o staff y cyfle i arwain a dylanwadu ar y ffordd y darperir gwasanaethau cyhoeddus.

Bydd gwireddu talent, creadigrwydd ac ymroddiad ein gweithlu gwasanaeth cyhoeddus yn bwysicach nag erioed wrth i ni barhau i wella’r gwasanaethau cyhoeddus, gan addasu hefyd i’r sefyllfa ariannol digynsail o anodd.

Wrth ddangos ein hymrwymiad i bob gweithiwr yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi’r cysyniad o Gyflog Byw fel ffordd o fynd i’r afael â rhai o’r materion sydd ynghlwm â chyflog isel a thlodi incwm.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gyflawni’r nodau hyn drwy bartneriaeth gymdeithasol. O dan arweiniad Cyngor Partneriaeth y Gweithlu (CPG), mae cyflogwyr y sector cyhoeddus a’r Undebau Llafur wedi cymryd camau mawr ymlaen o ran gweithio mewn partneriaeth a rheoli newid gyda’i gilydd. Hefyd mae arferion wedi’u sefydlu ar gyfer trafod a chytuno ar dâl, telerau ac amodau rhwng yr Undebau Llafur a chyflogwyr ar draws y sector cyhoeddus.

Fel y corff sy’n tynnu cyflogwyr y sector cyhoeddus a’r Undebau Llafur ynghyd yng Nghymru i ystyried materion gweithlu’r sector cyhoeddus, CPG yw’r fforwm lle gall ein partneriaid cymdeithasol ystyried y Cyflog Byw gyda’i gilydd yng nghyd-destun ehangach materion gweithlu strategol yn ei gyfanrwydd.

Yn dilyn trafodaethau gyda’r Undebau Llafur, rwyf i a’r Prif Weinidog wedi cytuno i gyfeirio’r Cyflog Byw yn y sector cyhoeddus at Gyngor Partneriaeth y Gweithlu, gyda’r bwriad o’i ymgorffori fel un o’r camau cadarnhaol y gall cyflogwyr eu cymryd i gefnogi gweithlu’r sector cyhoeddus.

Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i annog cyflogwyr yn y sector cyhoeddus, y trydydd sector a’r sector preifat i ystyried bod yn gyflogwyr Cyflog Byw.

Byddwch yn rhoi’r diweddaraf ar y gwaith hwn maes o law.