Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ddydd Iau, 29 Hydref, cyfarfu’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) am y pedwerydd tro eleni. Gellir dod o hyd i’r ohebiaeth ar-lein (dolen allanol).  

Dechreuodd y cyfarfod gyda diweddariad ar faterion yn ymwneud â pharodrwydd. Roedd cytundeb cyffredinol fod y sefyllfa wedi gwella, gyda Llywodraeth y DU yn dechrau rhannu gwybodaeth fwy manwl am ei rhagdybiaethau a’i chynlluniau wrth gefn. Er hynny, tynnais sylw at y ffaith nad ydym wedi gweld y rhestr lawn o brosiectau parodrwydd eto. Gofynnais hefyd am wybodaeth am faterion yn ymwneud â rheoli ffiniau ym mhorthladdoedd Cymru, ac am gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer mesurau i ysgogi’r economi ac i roi cymorth i sectorau a fyddai mewn perygl yn arbennig pe na bai’n llwyddo i sicrhau cytundeb masnach, yn ogystal â goblygiadau cyrraedd diwedd y cyfnod pontio heb gytundeb masnach ar gyfer cyflenwi bwyd a throsglwyddo data. Addawyd y byddai rhagor o drafodaethau yn cael eu cynnal ar y materion hyn.

Cafwyd diweddariad hefyd ar negodiadau’r UE. Rhoddodd hyn gyfle imi bwyso ar Lywodraeth y DU i ymgysylltu â ni i drafod unrhyw gyfaddawdu posibl yng nghamau olaf y negodiadau. Pwysais hefyd am wybodaeth am faterion penodol, gan gynnwys rhwystrau technegol i fasnach a rheolau tarddiad, trefniadau cilyddol ar gyfer cydnabod cymwysterau proffesiynol a gwasanaethau, yn arbennig gwasanaethau sy’n gysylltiedig â nwyddau. Pwysleisiais unwaith eto pa mor hanfodol ydoedd i Lywodraeth y DU, yn ogystal â’r UE, ddangos digon o hyblygrwydd er mwyn sicrhau cytundeb.

Yn olaf, trafodwyd Bil y Farchnad Fewnol. Pwysleisiais unwaith eto ein gwrthwynebiad cryf i sawl rhan o’r Bil a’n parodrwydd i ymgysylltu â’r Llywodraeth, fel yr oeddem yn ei wneud â’r arglwyddi, i drafod diwygiadau i’r Bil a allai ei wneud yn dderbyniol.

Nid oes dyddiad wedi’i gynnig ar hyn o bryd ar gyfer cyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) ond byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am unrhyw ddatblygiadau.