Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
Ddydd Iau, 3 Medi, cyfarfu’r Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) o bell am y trydydd tro, ac am y pedwerydd tro yn unig eleni. Gellir dod o gyd i’r ohebiaeth yma:
https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/913670/Communique_for_JMC_EN__3_September_2020__1_.pdf
Dechreuodd y cyfarfod gyda diweddariad ar y negodiadau’r UE gan David Frost, Prif Negodwr y DU. Rhoddodd hyn gyfle imi bwyso ar Lywodraeth y DU ynglŷn â phwysigrwydd hanfodol sicrhau cytundeb gyda'r UE, ac i fynegi pryder nad yw’n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn awyddus i sicrhau cytundeb sy’n diogelu swyddi a busnesau. Pwysleisiais hefyd yr angen i ddod i benderfyniad cadarnhaol ynghylch parhau i gymryd rhan yn Rhaglenni’r UE, yn arbennig y rhaglenni a fydd yn olynu Horizon ac Erasmus Plus, a rhan y llywodraethau datganoledig yn y penderfyniadau hynny. Yn ogystal, pwysais ar Lywodraeth y DU am y ffaith ei bod yn ymddangos ei bod yn gwrthod cynnal fframwaith cymorth gwladwriaethol cadarn.
O safbwynt materion yn ymwneud â pharodrwydd, roedd cytundeb cyffredinol fod gwelliant wedi bod gyda Llywodraeth y DU yn dechrau rhannu gwybodaeth fwy manwl am ei rhagdybiaethau a’i chynlluniau wrth gefn. Tynnais sylw at yr angen am ragor o drafodaethau am y gadwyn gyflenwi ar gyfer nwyddau hanfodol fel bwyd, ac ar gymorth a chyngor i fusnesau, gan fynegi pryder am effeithiau cronnus posibl COVID-19 a diwedd y cyfnod pontio. Croesewais arwydd gan Lywodraeth y DU y bydd Gweinidogion o’r llywodraethau datganoledig yn cael eu gwahodd unwaith eto i drafodaethau Pwyllgor Cabinet y DU ar barodrwydd, fel oedd yn wir yr hydref y llynedd. Croesawais hefyd y ffaith y byddai cyfarfodydd pedairochrog yn parhau gyda Penny Morduant AS, y Tâl-feistr Cyffredinol ac y byddent yn canolbwyntio ar faterion yn ymwneud â pharodrwydd. Roeddwn yn glir fod y trefniadau hyn yn hir ddisgwyliedig a bod amser paratoi pwysig wedi ei golli yn gynharach eleni o ganlyniad i Lywodraeth y DU beidio gwneud hynny.
Cafodd y ddau Fframwaith Cyffredin cyntaf – ar Faeth a Sylweddau Peryglus – eu cymeradwyo gan y Pwyllgor a chytunwyd hefyd y gallant nawr symud ymlaen i’r cam craffu deddfwriaethol gan y pedwar deddfwrfa. Roedd cytundeb cyffredinol bod gwaith yn mynd rhagddo’n dda o ystyried yr amgylchiadau ac roedd cyd-ddealltwriaeth, pan na fyddai modd cwblhau gwaith ar y Fframweithiau cyn diwedd y cyfnod pontio, y byddai’r holl Lywodraethau yn eu hystyried eu hunain yn rhwym wrth Fframweithiau amlinellol, lle byddai craffu deddfwriaethol a chytundeb terfynol yn digwydd yn 2021.
Yn olaf, atgyfnerthais farn Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r effaith negyddol y byddai Bill y Farchnad Fewnol yn ei chael ar y setliadau datganoli – yn enwedig ym maes pwerau gwario – a’r Undeb. Pwysais am gael gweld drafft o’r Bil ar unwaith, heb dderbyn sicrwydd y byddai hyn yn digwydd. Mae hyn yn gwbl annerbyniol ar gyfer unrhyw ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â meysydd lle y mae cymhwysedd wedi ei ddatganoli, ac yn fwy truenus fyth o ystyried y potensial sydd gan y Bil hwn i danseilio’r setliad datganoli. Byddaf yn gwneud datganiad pellach ar hyn pan fyddwn wedi gweld y Bil ac wedi cael amser i’w ystyried.
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.