Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Medi 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Cyfarfod Llawn) ar 19 Medi 2012, cytunwyd ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhynglywodraethol diwygiedig rhwng Llywodraeth y DU, Gweinidogion yr Alban, Gweinidogion Cymru a Phwyllgor Gweithredol Gogledd Iwerddon.

 

Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth diwygiedig, a gyhoeddwyd ddiwethaf yn 2011, yn ailddatgan yr egwyddorion cydweithredu sy’n sylfaen i’r berthynas rhwng Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig. Rwyf wedi gosod testun llawn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gerbron y Cynulliad heddiw. Mae hefyd yn cael ei gyflwyno i’r tair gweinyddiaeth ddatganoledig arall.

Yn y cyfarfod, cytunwyd ar newidiadau i’r rhannau canlynol o’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth:

  • Cyfrifoldeb dros gadeirio cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Nodyn Esboniadol);
  • Cyfrinachedd a gohebiaeth: ymdrin â gwybodaeth yng nghyd-destun deddfwriaeth sy’n ymwneud â gwybodaeth (paragraffau 12 a 13);
  • Cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion i drafod anghydfodau: ymdrin â’r cyfryngau (paragraff A3.16);
  • Concordat ar Gyd-drefnu Materion Polisi mewn perthynas â’r Undeb Ewropeaidd: Atodiad Cyffredin (adran B4); a
  • Choncordat ar Gymorth Ariannol ar gyfer Diwydiant (adran C).