Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru
Yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Cyfarfod llawn) ar y 16 Hydref 2013, cytunwyd ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhynglywodraethol diwygiedig rhwng Llywodraeth y DU, Gweinidogion yr Alban, Gweinidogion Cymru a Phwyllgor Gweithredol Gogledd Iwerddon.
Mae’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth diwygiedig a gyhoeddwyd ddiwethaf ym Medi 2012, yn cadarnhau’r egwyddorion cydweithredu sy’n sail i’r berthynas rhwng Llywodraeth y DU a'r Gweinyddiaethau Datganoledig. Heddiw, rwyf wedi gosod geiriad llawn y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gerbron y Cynulliad. Mae’r tair gweinyddiaeth arall yn gwneud eu trefniadau eu hunain i dynnu sylw eu priod ddeddfwrfeydd at y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.
Yn y cyfarfod, cytunwyd i ddiwygio pob un o bedair adran y Concordat ar Gydgysylltu Materion Polisi'r Undeb Ewropeaidd; yr Alban (adran B1); Cymru (adran B2); Gogledd Iwerddon (adran B3); a’r Atodiad Cyffredin (adran B4). Mae’r diwygiadau hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd y berthynas waith a phrofiad y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig ac yn ffurfioli’r arferion da sy’n digwydd yn barod o ran presenoldeb a chynrychioli buddiannau’r DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig yng Nghyngor yr Undeb Ewropeaidd.