Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn bwyllgor cynghori arbenigol annibynnol. Mae’n rhoi cyngor i adrannau iechyd y Deyrnas Unedig ar imiwneiddio, gan wneud argymhellion am amserlenni brechu a diogelwch brechlynnau.
Fel rhan o’i adolygiad diweddaraf o raglen frechu COVID-19, mae’r JCVI heddiw wedi cyhoeddi datganiad yn cynnwys ei gyngor terfynol ar bwy sy’n gymwys yn rhaglen frechiadau atgyfnerthu’r hydref yn erbyn COVID-19 yn 2023. Fel erioed, prif nod rhaglen frechu COVID-19 yw hybu imiwnedd ymhlith y rheini sydd â risg uwch pe baent yn cael COVID-19 a sicrhau mwy o amddiffyniad rhag salwch difrifol, mynd i’r ysbyty a marwolaeth.
Ar gyfer hydref 2023, mae’r JCVI yn argymell cynnig un dos o frechlyn COVID-19 i’r bobl ganlynol:
- Preswylwyr cartrefi gofal i oedolion hŷn
- Pob oedolyn 65 oed a hŷn
- Pobl rhwng 6 mis a 64 oed sydd mewn grŵp risg clinigol, fel y’i diffinnir yn nhablau 3 a 4 o bennod COVID-19 y Llyfr Gwyrdd
- Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
- Pobl rhwng 12 a 64 oed sydd yn gyswllt cartref, fel y’i diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd, i bobl sydd ag imiwnedd isel
- Pobl rhwng 16 a 64 oed sy’n ofalwyr, fel y’u diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd, a staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
Mae’r cyngor hwn rywfaint yn wahanol i gyngor rhaglen yr hydref 2022, gan fod y trothwy oedran ar gyfer oedolion nad ydynt mewn grŵp risg clinigol nac yn gyswllt cartref i bobl sydd ag imiwnedd isel, wedi cynyddu i 65 oed. O ystyried y gyfran uchel o oedolion hŷn sydd â mwy nag un cyflwr iechyd a’r nifer uwch sy’n cael y brechlyn drwy raglenni cyffredinol sy’n seiliedig ar oedran, mae’r JCVI yn ystyried, tra mae’r adferiad o’r pandemig yn mynd drwy gyfnod pontio, ei bod yn gosteffeithiol ac yn briodol cynnig brechiad i bob oedolyn 65 oed a hŷn. Mae hyn yn golygu bod y trothwy oedran ar gyfer pigiad atgyfnerthu’r hydref yn erbyn COVID-19 yn cyd-fynd â’r cymhwystra ar gyfer brechiad ffliw yn 2023.
Mae’r JCVI hefyd yn cynghori y dylai prif gwrs brechu COVID-19 newid i un dos o frechlyn COVID-19. Bydd cymhwystra ar gyfer cael cynnig brechiad sylfaenol yr un fath ag ar gyfer pigiad atgyfnerthu’r hydref 2023, gan fod y cynnig cyffredinol yn dod i ben ar 30 Mehefin.
Ochr yn ochr â’m gweinidogion cyfatebol yng ngweddill y DU, rwyf wedi derbyn y cyngor hwn. Disgwylir rhagor o gyngor ar y cynhyrchion brechu a ffefrir ar gyfer yr hydref gan y JCVI yn fuan. Mae gwaith cynllunio eisoes ar y gweill gan sefydliadau’r GIG i baratoi ar gyfer rhaglen frechu’r hydref.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.