Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ystod tymor y gaeaf y mae’r bygythiad o COVID-19 ar ei fwyaf i unigolion a gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Wrth i’r DU symud o gyfnod ymateb brys i bandemig i gyfnod adfer ar ôl pandemig, byddwn yn canolbwyntio fwyfwy ar ddiogelu’r bobl hynny mewn cymdeithas sy’n parhau i fod â risg uwch o gael COVID-19 yn ddifrifol.

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn bwyllgor annibynnol sy’n rhoi cyngor arbenigol, ac mae’n cynghori adrannau iechyd y Deyrnas Unedig ar imiwneiddio, gan wneud argymhellion am ddiogelwch brechlynnau ac amserlenni brechu.

Fel rhan o’i adolygiad diweddaraf o’r rhaglen frechu rhag COVID-19, mae’r Cyd-bwyllgor heddiw wedi cyhoeddi datganiad yn cynnwys ei gyngor terfynol ar gam nesaf y rhaglen, y mae disgwyl iddo ddechrau yn hydref 2022.

Prif nod cyflwyno’r rhaglen hon yw hybu imiwnedd ymhlith y rheini sydd â risg uwch pe baent yn cael COVID-19 a sicrhau mwy o amddiffyniad yn erbyn salwch difrifol; yn benodol, derbyniadau i’r ysbyty neu farwolaeth, dros dymor y gaeaf 2022-23. Er mwyn cyflawni hyn, ystyrir bod rhaglen frechu wedi’i chynllunio a’i thargedu yn fwy priodol na strategaeth frechu gyffredinol, ymatebol.

Mae’r Cyd-bwyllgor yn argymell y dylid cynnig un dos o frechlyn COVID-19 i’r bobl ganlynol:

  • Preswylwyr a staff cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng-flaen
  • Pob oedolyn 50 oed a hŷn
  • Pobl rhwng 5 a 49 oed sydd mewn grŵp risg uchel, fel y nodir yn y Llyfr Gwyrdd
  • Pobl rhwng 5 a 49 oed sydd yn gyswllt cartref i bobl sydd ag imiwnedd isel, fel y diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd;
  • Pobl 16-49 oed sy’n ofalwyr.

Mae’r cyngor terfynol rywfaint yn wahanol i’r cyngor interim a gyhoeddwyd fis Mai, ac mae bellach yn cynnwys pobl rhwng 50 a 64 oed ac yn cadarnhau diffiniadau ar gyfer y rheini sydd mewn grwpiau risg glinigol ac yn ychwanegu pobl sy’n gysylltiadau cartref i bobl sydd ag imiwnedd isel, a gofalwyr.

Rwyf wedi derbyn y cyngor hwn, ynghyd â’m cyd weinidogion yn y DU ac, yn amodol ar gyflenwadau, mae GIG Cymru yn barod i ddechrau rhoi’r rhaglen hon ar waith o 1 Medi ymlaen.

Byddaf hefyd yn cyhoeddi strategaeth integredig yn fuan ar gyfer Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol a fydd y amlinellu sut rydym y bwriadu helpu i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael y brechlyn COVID-19 a’r brechlyn ffliw er mwyn amddiffyn unigolion, cymunedau a’r system iechyd a gofal yng Nghymru.

Rwy’n hynod o ddiolchgar unwaith eto i’r GIG ac i bawb sy’n rhan o’r rhaglen frechu am eu gwaith caled parhaus.

Rydym yn gweld cynnydd yn nifer yr achosion o’r coronafeirws ledled Cymru ar hyn o bryd, yn sgil yr is-deip BC.5 o’r amrywiolyn omicron. Mae hyn wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sydd angen triniaeth ar gyfer COVID-19 yn yr ysbyty.

Rydym wedi ymestyn y cyfnod y bydd profion llif unffordd ar gael am ddim i bobl sydd â symptomau hyd at ddiwedd mis Gorffennaf. Byddwn yn annog pawb i ddilyn y camau syml hyn i ddiogelu eu hunain, ac i ddiogelu Cymru:

  • Cael y brechlyn
  • Golchi dwylo’n dda ac yn rheolaidd
  • Aros gartref a chael cyn lleied o gyswllt â phosibl ag eraill os ydych chi’n sâl
  • Gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau prysur a chaeedig dan do
  • Cwrdd ag eraill yn yr awyr agored lle bynnag y bo’n bosibl
  • Pan fyddwch dan do, cynyddu lefel yr awyru a gadael awyr iach i mewn.