Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau 

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Medi 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Hydref 2012, cafodd grŵp adolygu annibynnol, o dan gadeiryddiaeth Dr Elin Jones, ei sefydlu gan fy rhagflaenydd. Gorchwyl y grŵp oedd ymchwilio i ddatblygiad y Cwricwlwm Cymreig yn y dyfodol, yn ogystal ag ystyried y dull o addysgu hanes Cymru a’r adnoddau sydd ar gael i gefnogi’r addysgu hwnnw. Cafodd y grŵp ei sefydlu i ymateb i’r newidiadau sylweddol i’r cwricwlwm ers cyhoeddi, yn 2003,  ganllawiau Awdurdod Cymwysterau, Addysgu ac Asesu Cymru, Datblygu’r Cwricwlwm Cymreig, ac fel ymateb hefyd i’r cynnydd a fu mewn diddordeb yn hanes Cymru dros y ddegawd ddiwethaf.

Mae’r adroddiad Y Cwricwlwm Cymreig, hanes a stori Cymru, a gyhoeddir heddiw, yn datblygu ar yr adroddiad interim a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2013 ac mae’n adlewyrchu canfyddiadau’r ymgynghoriad a gynhaliwyd gan y grŵp wedi hynny. Rwy’n croesawu’r adroddiad hwn, sy’n gwneud amryw o argymhellion pwysig, yn fawr. Byddaf yn awr yn cymryd amser i ystyried cynnwys yr adroddiad, yng nghyd-destun yr adolygiad ehangach o’r Cwricwlwm Cenedlaethol ac asesu a hefyd, lle bo hynny’n briodol, yng nghyd-destun y gwaith sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd i ymateb i’r adolygiad o gymwysterau a gyhoeddwyd yn gynharach eleni. Byddaf yn ymateb yn llawn gyda hyn i bob un o’r argymhellion hynny.  

Yn y cyfamser, hoffwn ddiolch i Dr Elin Jones a’r Aelodau canlynol o’r grŵp adolygu am eu gwaith i gynhyrchu’r adroddiad a’r argymhellion:

  • (Dirprwy Gadeirydd) Paul Nolan, Ymgynghorydd Hanes;
  • Yr Athro Angela John; 
  • Dr Sian Rhiannon Williams, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd;
  • Dr Hugh Griffiths, Ysgol Bro Myrddin;
  • Nia Williams, Cydlynydd Addysg, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru; 
  • Frank Olding, Swyddog Treftadaeth Blaenau Gwent;
  • Dr Stephanie Ward, Prifysgol Caerdydd;
  • David Stacey, Ysgol Gyfun yr Olchfa;
  • Dr Martin Johnes, Prifysgol Abertawe;
  • William Rogers, Ysgol Queen Street, Blaenau Gwent;
  • Nicola Thomas, Ysgol Cornist Park; 
  • Nia Huw, Ysgol Gynradd Llangeitho; 
  • John Dilwyn Williams, Archifau Gwynedd.

http://learning.wales.gov.uk/resources/the-cwricwlwm-cymreig-final-report/?skip=1&lang=cy&kjh