Neidio i'r prif gynnwy

Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydym yng nghanol sefyllfa ddifrifol o ran iechyd cyhoeddus, ac mae’n effeithio ar fywydau pob un ohonom. Bydd sut yr ydym am ymateb yn penderfynu pa fath o wlad fydd gyda ni pan fydd pethau wedi gwella.

Mae gan awdurdodau lleol a chymunedau lleol ran ganolog i’w chwarae o ran sut rydym am ymateb i’r cyfnod anodd hwn. Mae fy nghyd-aelodau yn y Cabinet yn gwneud datganiadau ar ddau wasanaeth allweddol y mae awdurdodau lleol yn eu cynnig – gofal cymdeithasol ac addysg. Mae’r rhain yn wasanaethau hanfodol mewn cyfnod arferol, ac yn fwy byth felly yn y cyfnod anarferol hwn. Ond mae awdurdodau lleol hefyd yn gyfrifol am ystod llawer ehangach o wasanaethau perthnasol.  

Yn gyntaf, rwyf am gydnabod ymdrechion y rheini sy’n gweithio mewn awdurdodau lleol. Rydym yn ffodus i allu galw ar y llu o bobl ymroddedig sy’n gweithio yn ein cynghorau, yn ogystal ag mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill a’r trydydd sector. Ac mewn argyfwng yn fwy nag erioed. Mae cynghorau ledled Cymru yn sefydlu trefniadau wrth gefn i sicrhau y bydd y gwasanaethau rydym i gyd yn dibynnu arnynt yn parhau i gyflawni’r anghenion sylfaenol. Caiff newidiadau eu gwneud i wasanaethau wrth i’r galw am wasanaethau gynyddu yn sgil capasiti llai i gyflenwi wrth i weithwyr gael eu hynysu. Bydd angen i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau anodd ynghylch yr hyn sydd bwysicaf. Maent yn gweithio’n agos gyda’r trydydd sector, ac yn gwneud cynlluniau i sicrhau bod modd darparu gwasanaethau hanfodol i’r rheini sydd fwyaf bregus a bod modd cyflawni gofynion newydd. 

Mae COVID-19 yn galw am ymateb ar y cyd, ac fel y dywedais yn fy natganiad yr wythnos diwethaf, mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn cydweithio’n agos drwy drefniadau hirsefydlog ac effeithiol. Mae’r gwasanaethau cymdeithasol a’r gwasanaethau iechyd yn benodol yn cydgynllunio sut i ymateb wrth i anghenion ddatblygu ledled Cymru. 

Mae Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol hefyd yn cydweithio’n agos. Briffiwyd holl arweinwyr yr awdurdodau lleol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddechrau Mawrth, a chafodd yntau gyfle i glywed ac ystyried eu hymateb. 

Rwyf wedi gweithio’n agos gydag Arweinydd CLlLC, ac arweinwyr gwleidyddol a phroffesiynol awdurdodau lleol, i sicrhau ein bod i gyd yn deall yr heriau rydym yn eu hwynebu gyda’n gilydd, ynghyd â’r camau y mae angen inni eu cymryd gyda’n gilydd er mwyn eu goresgyn. Mae yna drefniadau cyfathrebu clir a rheolaidd hefyd â llywodraeth leol ynghylch gwasanaethau penodol. 

Mae Hannah Blythyn wedi bod mewn cysylltiad agos â’n tri Awdurdod Tân ac Achub, ac mae gan bob un ohonynt yr adnoddau a’r cynlluniau yn eu lle i ymateb yn y ffyrdd arferol. Bydd hynny’n golygu atal dros dro rywfaint o waith codi ymwybyddiaeth ac ymgysylltu nad yw’n hanfodol, ond fel arall rydym yn hyderus bod modd rheoli effeithiau’r sefyllfa ar y Gwasanaeth.  

Mae’n bosibl y bydd staff y gwasanaeth tân yn cefnogi cyrff y GIG yn ystod y cyfnod o’n blaenau. Byddwn yn trafod y manylion gyda’r Awdurdodau Tân ac Achub ac â’r GIG, yn ogystal â chydag undebau diffoddwyr tân sydd â phryderon dilys ynghylch iechyd a lles eu haelodau. Fodd bynnag, mae yna rai cyfleoedd addawol ac arloesol yma, a byddwn yn gwneud cyhoeddiadau pellach maes o law.

Mae swyddogion addysg uwch mewn cysylltiad rheolaidd gyda phob cyfarwyddwr addysg drwy delegynadleddau a gohebiaeth ysgrifenedig, gan sicrhau bod ganddynt y canllawiau diweddaraf ar gyfer lleoliadau addysgol. Yn ogystal, mae Cyfarwyddwr Addysg Llywodraeth Cymru nawr yn cadeirio telegynadleddau rheolaidd â rhanddeiliaid, ac eir ati i gynnwys awdurdodau lleol. Mae trafodaethau rheolaidd hefyd wedi’u sefydlu gyda chyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol ac ar y cyd â byrddau iechyd.

Mae gan Gynghorau Cymuned a Thref rôl allweddol hefyd, drwy ddefnyddio’u gwybodaeth a’u rhwydweithiau lleol a thynnu ar y gwaith hollbwysig maent yn ei wneud er mwyn rhoi gwybodaeth i’w cymunedau a’u cefnogi. Byddant yn gwybod am yr achosion bregus yn lleol neu’r grwpiau a’r unigolion sydd mewn categori risg, a byddant yn gallu eu cyfeirio at gymorth. Gallant hefyd dynnu sylw’r rhwydweithiau cymorth hynny at y rheini sydd angen cymorth.

Mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn galluogi cynghorau i ganolbwyntio eu hegni ar baratoi ar gyfer y feirws ac ymateb iddo. Byddwn yn eu grymuso i sicrhau bod ganddynt gymaint o gymorth rheng flaen â phosibl – gan helpu i gynnal gwasanaethau hanfodol fel casglu gwastraff drwy leihau dros dro neu gael gwared â gofynion sy’n gwneud synnwyr perffaith mewn cyfnod arferol, ond a allai fod yn rhwystr yn y cyfnod eithriadol hwn. 

Rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd Bil y Coronafeirws, y bydd y Senedd yn ei ystyried heddiw (24/03/2020), yn ein galluogi i ohirio cyfarfodydd cyffredinol blynyddol a chyfarfodydd eraill, ac yn ei gwneud yn bosibl cynnal cyfarfodydd hanfodol o bell. Rydym wedi gofyn am i’r rheoliadau hyn gwmpasu prif gynghorau, cynghorau tref a chymuned, Awdurdodau Tân ac Achub ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol. Bydd y Bil hefyd yn ei gwneud yn bosibl gohirio is-etholiadau lleol pan fo angen.

Byddwn yn addasu ein democratiaeth leol wrth i ni ymateb i’r amgylchiadau anghyffredin presennol. Byddwn yn caniatáu i benderfyniadau democrataidd gael eu gwneud o bell, a byddwn yn ehangu gallu’r awdurdodau lleol i ddirprwyo’r gwaith o wneud penderfyniadau, mewn modd cyfyngedig y gellir ei reoli. Bydd y trefniadau arolygu yn cael eu newid, fel eu bod yn gweddu i’r amgylchiadau presennol. Mae gofynion grantiau a chynlluniau eraill ynghyd â’r prosesau ar gyfer eu gweinyddu yn cael eu newid i fod yn fwy hyblyg, yn ôl yr amgylchiadau.

Rwy’n cymryd camau i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael eu hariannu a’u galluogi i weithredu mewn modd effeithiol mewn ymateb i’r amgylchiadau heriol hyn. Rwy’n sefydlu un ffrwd o gyllid brys ar gyfer awdurdodau lleol, iddynt allu ymdopi â’r pwysau a ddaw yn sgil COVID-19. Bydd hyn yn golygu y bydd awdurdodau lleol yn gallu ysgwyddo’r gost nid yn unig o ddarparu’r gwasanaethau hanfodol a gynigir eisoes, ond o fodloni gofynion y cyfrifoldebau ychwanegol sy’n cael eu gosod arnynt yn sgil y camau newydd a gymerir ar ôl i Lywodraeth y Deyrnas Unedig osod deddfwriaeth frys yr wythnos diwethaf. Bydd £30m ar gael gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â hyn yn y lle cyntaf. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth o hyd at £7m i gefnogi awdurdodau lleol i roi cymorth ariannol ar frys i deuluoedd disgyblion sy’n dibynnu ar brydau ysgol am ddim, ond nad ydynt yn gallu manteisio ar y ddarpariaeth honno gan fod yr ysgolion wedi cau.

O fewn y gronfa honno o £30m, mae cronfa o tua £10m i sicrhau bod awdurdodau lleol, mewn partneriaeth â’u partneriaid yn y trydydd sector, yn gallu sefydlu trefniadau ar frys, sy’n angenrheidiol er mwyn amddiffyn y rhai sy’n dioddef fwyaf o effaith digartrefedd, sef unigolion sy’n cysgu allan. Rhaid i’r trefniadau hyn alluogi pobl i adael y stryd, fel bod modd iddynt ddiogelu eu hunain ac eraill. Rwy’n gwybod bod gwasanaethau digartrefedd ledled y wlad wedi gweithredu’n gyflym ac yn gadarn i sicrhau cyfleusterau ychwanegol fel bod modd i unigolion sydd heb gartref fod yn ddiogel, bod ganddynt fynediad at gyfleusterau glanweithdra ac y gallant hunanynysu mewn ffordd ddiogel. Er y bydd angen i bob sefydliad cyfrifol addasu ei ymateb i fodloni'r cyd-destun lleol a'i anghenion, rwyf wedi nodi'n glir yn y canllawiau a gyhoeddwyd yr wythnos hon bod rhaid i'r ddarpariaeth ar gyfer rhai sy'n cysgu allan fod yn seiliedig ar yr arferion gorau. Rwy’n disgwyl i awdurdodau lleol sicrhau bod y rhai sydd wedi cael llety dros dro mewn gwestai, busnesau gwely a brecwast, llety myfyrwyr a sefydliadau tebyg yn cael y lefelau cywir o gymorth sydd ar gael iddynt, yn cael eu monitro am symptomau ac yn cael help i leihau lledaeniad y feirws. Rwyf hefyd wedi bod yn glir na ddylid cyfyngu ar y ddarpariaeth a gynigir i’r rhai nad oes ganddynt hawl i gael arian o gronfeydd cyhoeddus wrth ymateb i'r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn. 

Mae’r sefyllfa hon yn newid drwy’r amser. Yr wythnos hon, cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, bod camau anghyffredin iawn yn cael eu cymryd gennym fel cenedl er mwyn cadw pobl yn ddiogel ac er mwyn lleihau’r straen ar y GIG.

Rydym eisoes wedi gweld bod cynghorau lleol yn ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i’r heriau newydd, ac i’r rhai sy’n dod i’r amlwg, wrth iddynt ddarparu arweinyddiaeth yn lleol i’n cymunedau. Gwaith Llywodraeth Cymru, yn hyn o beth, yw darparu arweinyddiaeth genedlaethol a chefnogaeth, gan gefnogi’r ymroddiad a’r egni sydd wedi dod i’r amlwg ar lefel leol. Rwy’n benderfynol o roi’r arweiniad a’r gefnogaeth honno i chi.