Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Rwy’n cyhoeddi heddiw bod Peter Davies wedi’i benodi’n Gomisiynydd Dyfodol Cynaliadwy o 1 Ebrill 2011. Ar hyn o bryd Mr Davies yw ein Comisiynydd Datblygu Cynaliadwy ar gyfer Cymru, a bydd y penodiad hwnnw’n dod i ben ar 31 Mawrth 2011.
Yn dilyn penderfyniad Ysgrifennydd Gwladol y DU dros yr Amgylchedd i roi’r gorau i ariannu’r Comisiwn Datblygu Cynaliadwy, bydd y Comisiwn yn dod i ben yn ffurfiol ddiwedd mis Mawrth 2011. Rydym ni yng Nghymru wedi gwerthfawrogi gwaith y Comisiwn bob amser, ac mae wedi gwneud cyfraniad pwysig i’n hagenda datblygu cynaliadwy.
Fe gyhoeddais ar y pryd fy mod yn bwriadu parhau i ofyn am gyngor annibynnol ar ddatblygu cynaliadwy, gan ddefnyddio’r arferion gorau ym Mhrydain, Ewrop ac yn rhyngwladol i’n llywio wrth i ni ddatblygu ein polisïau.
Roeddwn hefyd yn cydnabod bod angen parhau i ymgysylltu a thrafod â holl sectorau a chymunedau Cymru er mwyn sicrhau ein bod yn gallu gwireddu ein gweledigaeth o Gymru gynaliadwy.
Er mwyn parhau â’n gwaith ym maes datblygu cynaliadwy, ac yn wir bwrw ati’n gyflymach, rwy’n credu ei bod yn hanfodol ein bod yn parhau i dderbyn cyngor annibynnol ar ein polisïau a’n rhaglenni. Bydd Mr Davies yn cynnig y cyngor annibynnol hwnnw.
Bydd Mr Davies hefyd yn cynnig arweiniad allanol ar ddatblygu cynaliadwy yng Nghymru er mwyn ysgogi a chefnogi camau a fydd yn rhoi egwyddorion datblygu cynaliadwy ar waith ym mhob rhan o gymdeithas Cymru.
Bydd Mr Davies yn parhau â’i waith o ddod â phartneriaid at ei gilydd i ymdrin â materion anodd a heriol sy’n ymwneud â datblygu cynaliadwy. Bydd hefyd yn cynghori Llywodraeth y Cynulliad ar y ffactorau sy’n ein rhwystro rhag gwneud Cymru’n genedl fwy cynaliadwy yn ogystal â chynnig ffyrdd o gael gwared ar y rhwystrau hynny.
Rwy’n gobeithio y byddwn yn parhau i gyd-drafod â phedair cenedl y DU, gan rannu’r arferion gorau, a bydd swydd Mr Davies yn hanfodol yn hyn o beth.
Mae’r penodiad hwn yn adlewyrchu pa mor bwysig yw’n dyletswydd Datblygu Cynaliadwy i ni, ac mae’n brawf o’n hymrwymiad i wneud popeth o fewn ein gallu i wneud Cymru yn genedl wirioneddol gynaliadwy.
Nid yw’r trefniadau terfynol wedi’u cadarnhau eto, ond rwy’n rhagweld y bydd Peter Davies yn derbyn cefnogaeth ar gyfer ei waith gan Cynnal Cymru, Fforwm Datblygu Cynaliadwy Cymru. Bydd penodiad Mr Davies fel Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy yn para o 1 Ebrill 2011 tan 28 Mehefin 2012.