Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw rwy’n falch o gyhoeddi bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi cymeradwyo Rhaglenni Gweithredol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop 2014–2020 ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd (GCaC) a Dwyrain Cymru (DC).

Cymru yw’r rhanbarth cyntaf yn y DU ac un o’r rhanbarthau cyntaf yn y DU lle mae rhaglenni ERDF wedi cael eu cymeradwyo, sydd werth £1.1 biliwn o gronfeydd yr UE. Mae hyn yn garreg filltir arwyddocaol a fydd yn helpu i gyflawni nodau cyffredin yr UE a Llywodraeth Cymru ar gyfer twf economaidd a swyddi cynaliadwy.  

Cytunwyd ar y rhaglenni yn dilyn trafodaethau manwl dros y naw mis diwethaf gyda’r Comisiwn Ewropeaidd, a’r ffaith y mabwysiadwyd Cytundeb Partneriaeth y DU y mis diwethaf (29 Hydref), un o ofynion rheoleiddio’r Comisiwn Ewropeaidd. Yn y cyfamser cytunwyd ‘mewn egwyddor’ ar Raglenni Gweithredol Cronfa Gymdeithasol Ewrop ar gyfer Cymru, sef buddsoddiad o £804 miliwn o gronfeydd yr UE, a disgwylir cymeradwyaeth ffurfiol gan y Comisiwn yn yr wythnosau nesaf.

Bydd rhaglenni’r Gronfa Datblygu Rhanbarthol, sydd werth tua £960m ar gyfer GCaC a £162m ar gyfer DC, yn sicrhau cyfanswm buddsoddiad o oddeutu £1.8bn yng Nghymru, a fydd yn cynnwys:

 

  • cynnydd o 45% mewn cyllid ar gyfer ymchwil ac arloesi, gan ddod â chyllid yr UE i £310m;
  • hwb sylweddol mewn cyllid ar gyfer cystadleurwydd BBaCh, gan gynnwys cyllid busnes, werth cyfanswm o £198m o gronfeydd yr UE;
  • £439m ar gyfer cysylltedd a datblygu trefol, sy’n cynnwys cynnal a chadw a diogelu buddsoddiad cronfeydd yr UE o £252m mewn trafnidiaeth (gan gynnwys y posibilrwydd o gefnogi buddsoddiadau trawsffurfiol mewn trafnidiaeth gyhoeddus fel y Metro yn Rhanbarth Prifddinas Caerdydd, a gwelliannau eraill gan gynnwys yr A55 a’r A40);
  • cynnydd sylweddol (120%) mewn cyllid ar gyfer buddsoddiadau mewn ynni adnewyddadwy ac effeithlonrwydd ynni, gyda £154m ar gael o gronfeydd yr UE, a ffocws penodol ar ynni’r môr yng Ngorllewin Cymru.

 

Caiff Rhaglenni Gweithredol terfynol ERDF eu cyhoeddi’n fuan ar wefan WEFO (www.wefo.wales.gov.uk). Cyn i hynny ddigwydd, mae tabl yn dangos y dyraniadau ariannol y cytunwyd arnynt ar gyfer pob blaenoriaeth fuddsoddi ar gyfer rhaglenni ERDF ynghlwm fel atodiad i’r datganiad hwn.  

Heddiw, byddaf yn lansio rhaglenni ERDF mewn digwyddiad i bartneriaid Cymru yn Llanrwst, Conwy. Yn ystod fy amser yn y Gogledd, byddaf yn agor canolfan fusnes Bee and Station. Mae arian Ewropeaidd wedi helpu i droi hen westy oedd yn adfail yn ganolfan fenter, drwy gefnogaeth o £500,000 o raglen ERDF 2007–2013.

Bydd digwyddiad cronfeydd strwythurol hefyd yn cael ei gynnal ar gyfer partneriaid Cymru yng Nghaerdydd ar 26 Tachwedd.