Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Chwefror 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi cymeradwyo Rhaglen Gydweithredu Iwerddon/Cymru 2014-2020, sy’n cynnig buddsoddiad o €100 miliwn (€75m o arian Ewropeaidd).

Daw hyn wedi i WEFO ddatblygu’r rhaglen gyda phartneriaid yn Iwerddon a Chymru, gan gynnwys Cynulliad Rhanbarthol De Iwerddon ac Adran Diwygio a Gwariant Cyhoeddus Iwerddon, a thrafodaethau helaeth gyda’r Comisiwn Ewropeaidd.

Bydd y rhaglen newydd, sy’n cysylltu arfordir y Gorllewin  â De-ddwyrain Iwerddon , yn cynnig cyfleoedd mawr i randdeiliaid gydweithio ac yn helpu i gryfhau cysylltiadau economaidd ar ddwy ochr Môr Iwerddon.

Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar y meysydd buddsoddi canlynol:

Arloesi Trawsffiniol

  • Annog mwy o arloesi mewn BBaCh, gan gynnwys mentrau cymdeithasol;
  • Gwyddorau morol ac amgylcheddol (gan gynnwys ynni adnewyddadwy); bwyd a diod; a gwyddorau bywyd.


Y ffordd y mae Môr Iwerddon a  Chymunedau Arfordirol yn addasu i Newid yn yr Hinsawdd

  • Gwarchod a gwella’r amgylchedd morol ac arfordirol;
  • Comisiynu ymchwil, rhannu ymchwil ac arbenigedd cyfredol, monitro effeithiau a chynyddu capasiti a dealltwriaeth ynghylch addasu i newid yn yr hinsawdd, gan ganolbwyntio ar Fôr Iwerddon a chymunedau arfordirol y rhanbarth.

Adnoddau Diwylliannol a Naturiol, gyda chanolbwynt ar dwristiaeth

  • Manteisio ar gryfderau’r dreftadaeth naturiol a diwylliannol unigryw y mae Iwerddon a Chymru yn ei rhannu, ynghyd â’u cymeriad arfordirol a morol; 
  • Denu mwy o ymwelwyr i gymunedau arfordirol, a fydd yn ei dro yn sicrhau twf economaidd cynaliadwy.

O ystyried natur forol y ffin rhwng Iwerddon a Chymru, y manteision y gellir eu cael o Fôr Iwerddon fydd canolbwynt holl fuddsoddiadau’r rhaglen.

Bydd Rhaglen newydd Iwerddon/Cymru yn adeiladu ar lwyddiant buddsoddiadau blaenorol yr UE ar draws Iwerddon a Chymru, gan gynnwys prosiectau fel Menter Iontach Nua, sy’n helpu i wella sgiliau arloesol ac entrepreneuraidd arweinwyr mentrau cymdeithasol. Un fenter gymdeithasol o’r fath yw KIM Inspire. Mae’r fenter lwyddiannus hon, y byddaf yn ymweld â hi yn Nhreffynnon heddiw (19 Chwefror), yn cynnig cyrsiau, hyfforddiant, sesiynau galw i mewn a chyfleoedd gwirfoddoli i fenywod â phroblemau iechyd meddwl.  

Cynhelir digwyddiad lansio ar gyfer Rhaglen newydd Iwerddon/Cymru y mis nesaf (26 Mawrth) yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe. Rwy’n falch iawn y bydd y Gweinidog Diwygio a Gwariant Cyhoeddus, Mr Brendan Howlin, T.D, yn gallu ymuno â mi a rhanddeiliaid o Iwerddon a Chymru i ddathlu’r buddsoddiad newydd hwn gan yr UE.

Dywedodd y Gweinidog Howlin ynghylch cymeradwyo Rhaglen Iwerddon/Cymru:

“Rwy’n falch iawn bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi cymeradwyo Rhaglen newydd Iwerddon/Cymru. Bydd y rhaglen newydd hon o €100m yn buddsoddi mewn prosiectau sy’n cefnogi arloesi mewn technolegau, cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau, a bydd o fudd i gymunedau arfordirol.

“Bydd prosiectau cymwys hefyd yn mynd i’r afael â’r ffordd y mae Môr Iwerddon yn addasu i newid yn yr hinsawdd ac yn gwella’r dreftadaeth ddiwylliannol a naturiol y mae Iwerddon a Chymru yn ei rhannu, gan ddenu mwy o ymwelwyr i’r ddwy wlad.  

“Fel un o Weinidogion y rhanbarth, rwy’n falch y bydd pob prosiect y mae’r buddsoddiad newydd hwn yn eu cefnogi yn anelu at greu mwy o swyddi a thwf, yn cael effaith gymdeithasol fawr ac yn annog cydlyniant cymdeithasol ac economaidd ar draws ffin forol Iwerddon a Chymru.”

WEFO yw Awdurdod Rheoli’r rhaglen newydd, a bydd gwaith paratoadol ar y trefniadau cyflwyno, gan gynnwys cyfansoddiad Pwyllgor Monitro’r Rhaglen, yn cael ei gwblhau yn yr wythnosau nesaf.