Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ddoe, bûm yn nigwyddiad lansio Galwad am Dystiolaeth y Comisiwn Dŵr Annibynnol ym Manceinion. Mae'r ymgynghoriad hwn, sy'n agored tan 23 Ebrill, yn gyfle allweddol i ddylanwadu ar ddyfodol rheoleiddio dŵr yng Nghymru a Lloegr: Y Comisiwn Dŵr Annibynnol - galwad am dystiolaeth - GOV.UK

Mae dŵr yn adnodd gwerthfawr, a bydd y ffordd rydym yn ei reoli heddiw yn dylanwadu'n uniongyrchol ar ein hamgylchedd, yr economi ac ansawdd bywyd cenedlaethau'r dyfodol. Dyna pam y gwnaeth llywodraethau Cymru a'r DU ar y cyd lansio'r Comisiwn Dŵr Annibynnol i asesu'r sefyllfa bresennol o ran rheoleiddio dŵr. Mae’r Alwad am Dystiolaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth y mae’r Comisiwn wedi’i chasglu hyd yn hyn, ac mae'n amlinellu'r materion allweddol a'r meysydd ar gyfer newid posibl y mae angen eu harchwilio. 

Mae'n hanfodol bod y Comisiwn yn clywed gan gwmnïau dŵr, rheoleiddwyr, grwpiau defnyddwyr, sefydliadau amgylcheddol a'r cyhoedd ynglŷn â'r hyn sy'n gweithio a'r hyn y mae'n rhaid ei newid. Rhaid i gymunedau, busnesau a rheoleiddwyr Cymru chwarae rhan ganolog yn y broses hon i sicrhau bod y ffordd y mae'r sector dŵr yn cael ei reoleiddio yn y dyfodol yn adlewyrchu ein hanghenion, ein heriau a'n blaenoriaethau penodol. 
 
Dyma gyfle i roi eich barn ynghylch cryfhau atebolrwydd y sector, a sut y gallwn adfer iechyd ein hafonydd a'n llynnoedd a sicrhau system ddŵr wydn sy'n gallu wynebu heriau'r dyfodol, gan hybu twf economaidd gwyrdd. Rwy'n annog pawb i gymryd rhan cyn 23 Ebrill a gwneud i'w lleisiau gyfrif