Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'n bleser gennyf roi gwybod i'r Cynulliad bod y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, sy'n cael ei gadeirio gan yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, wedi cyhoeddi ei adroddiad "Cyfiawnder yng Nghymru dros bobl Cymru" heddiw. 

Mae cyhoeddi adroddiad y Comisiwn yn gam pwysig. Mae'n ganlyniad yr arolwg ehangaf a fu erioed ar yr heriau niferus a wynebir wrth ddarparu system gyfiawnder effeithiol ar gyfer Cymru. Nid yw'n debygol y cynhelir arolwg mor gynhwysfawr â hyn eto, gydag ystod mor eang o dystiolaeth.

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Arglwydd Thomas a holl aelodau'r Comisiwn am eu hymdrechion enfawr.

Mae'r adroddiad ar gael ar-lein yn Gymraeg a Saesneg yn https://llyw.cymru/adroddiad-comisiwn-ar-gyfiawnder-yng-nghymru a https://gov.wales/commission-justice-wales-report

Fy mwriad hefyd yw y bydd datganiad llafar ar yr adroddiad ar ôl y toriad sydd i ddod.