Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon, a Thwristiaeth
Mae datblygu Strategaeth Ddiwylliant i Gymru yn un o'r ymrwymiadau allweddol yn y Rhaglen Lywodraethu a'r Cytundeb Cydweithio o fewn fy mhortffolio, a hoffwn ddiolch i'r Aelod Dynodedig am ei gwaith adeiladol a’i chefnogaeth wrth i'r strategaeth ddatblygu.
Ar ôl cynnal ymarfer ymgysylltu eang yn 2023, a oedd yn cynnwys cyfleoedd i drafod gyda mwy na 400 o randdeiliaid y sector a chynrychiolwyr cymunedol, datblygwyd strategaeth ddrafft a oedd yn amlinellu'r weledigaeth a'r uchelgais hirdymor. Aed ati wedyn i brofi'r strategaeth honno gyda phartneriaid cymdeithasol a nifer cyfyngedig o bartneriaid cyflawni.
Mae grŵp llywio annibynnol, ac arno gynrychiolwyr o'r sector, gan gynnwys ymarferwyr llawr gwlad a llawrydd, wedi bod yn craffu ar y gwaith o ddatblygu'r strategaeth. Cyfarfûm â'r Aelod Dynodedig a chyd-gadeiryddion Grŵp Llywio'r strategaeth ddiwylliant yn dilyn cyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr. Gwnaethom gydnabod y penderfyniadau anodd yr ydym wedi gorfod eu gwneud yn y Llywodraeth a'r heriau y mae'r gyllideb yn eu golygu i'r sector diwylliant yng Nghymru ond gan ailddatgan fy ymrwymiad y bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu strategaeth newydd eleni.
Roeddem yn cytuno dylem oedi a myfyrio, a rhoi amser inni ddeall yn iawn effaith cynigion y gyllideb ar y sector, a thros y ddau fis diwethaf, rydym wedi mireinio a symleiddio’r Strategaeth ddrafft. Rwy'n falch o gadarnhau bod y Grŵp Llywio, yr Aelod Dynodedig a chydweithwyr yn y Cabinet yn cytuno â mi bod y Strategaeth bellach yn barod i'w chyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, ac rydym yn paratoi ar gyfer hynny ar hyn o bryd. Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei lansio ym mis Mai ac yn para am wyth wythnos.
Byddwn i’n annog pawb sydd â diddordeb yn nyfodol diwylliant yng Nghymru i ddarllen y Strategaeth a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Rwy'n credu'n gryf mai dyma'r Strategaeth gywir ar gyfer yr hinsawdd ariannol bresennol. Mae’n rhoi cyfeiriad strategol i’n sectorau diwylliant ac yn nodi’n glir ein huchelgeisiau tymor hir ynghyd â’r blaenoriaethau hyblyg ac addasadwy y byddwn yn canolbwyntio arnynt i’w cyflawni.