Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.
Ddoe fe gadeiriais i gyfarfod cyntaf Bwrdd Plismona Cymru.
Mae Bwrdd Plismona Cymru yn fforwm i drafod materion sy'n ymwneud â phlismona ar draws yr agweddau hynny ar y gwasanaeth sydd wedi'u datganoli a’r rhai sydd heb eu datganoli, ac i drafod sut y mae'r gwasanaeth yn gweithredu yng Nghymru. Mae'r Bwrdd hefyd yn rhoi cyfle gwerthfawr i bawb sy’n gyfrifol am blismona drafod a chytuno ar ddull gweithredu cydlynol, cyson a dealladwy o ran y materion penodol a chyffredin rydyn ni’n eu rheoli yng Nghymru.
Rwyf wedi bod yn cwrdd â Phrif Gwnstabliaid a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu pob un o bedwar llu heddlu Cymru yn rheolaidd ers i mi ddechrau yn y swydd. Fodd bynnag, mae creu Bwrdd Plismona Cymru yn rhoi’r cyfle inni gytuno ar y seiliau er mwyn inni allu canolbwyntio ar y materion sydd bwysicaf i Gymru ac ehangu aelodaeth y Bwrdd. Bydd y Bwrdd hwn yn awr yn rhoi ffocws clir ar gyfer datblygu polisi ac er mwyn deall sut y gallwn fanteisio i’r eithaf ar y cydweithio rhyngom mewn cyd-destun Cymreig.
Ymhlith yr aelodau y mae Prif Gwnstabliaid a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu holl Heddluoedd Cymru, yn ogystal â chynrychiolwyr o blith swyddogion ac Aelodau Cabinet Llywodraeth Cymru. Rydym yn estyn y gwahoddiad hefyd i’r Swyddfa Gartref, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, GIG Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Fel Cadeirydd Bwrdd Plismona Cymru, rwy'n edrych ymlaen at y cyfle i weithio ar draws y Llywodraeth i sicrhau ein bod yn cael effaith uniongyrchol a sylweddol ar y gallu i gyflenwi gwasanaethau plismona ledled Cymru.
Wrth i Gymru lunio ei hymateb ei hun i'r heriau sy'n wynebu'r DU, yn enwedig o ran trais difrifol, troseddu cyfundrefnol a llinellau cyffuriau, mae'n bwysig inni sicrhau bod y dulliau priodol yn cael eu nodi er mwyn galluogi dull cefnogol mwy cydgysylltiedig o weithredu sy'n ennyn trafodaeth eang ac sy’n sicrhau atebolrwydd priodol er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn.
Bydd y Bwrdd yn cyfarfod bob chwarter ac rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â’r holl bartneriaid er mwyn helpu i gyflawni dull penodol a gwahanol o weithredu ar gyfer plismona, gyda’r nod o gefnogi a diogelu pobl Cymru.
Byddaf yn rhoi gwybod i’r Aelodau am hynt y gwaith.