Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae Defra wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar ddyfodol Bwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a Lloegr.

Cyhoeddodd David Haeth AS, Gweinidog Gwladol Llywodraeth y Deyrnas Unedig (DU) dros Amaethyddiaeth a Bwyd, ddatganiad ysgrifenedig yn cadarnhau bwriad Llywodraeth y DU i ddiddymu’r AWB yng Nghymru a Lloegr, gan lansio ymgynghoriad yng Nghymru a Lloegr ar y cynnig.  Yn ôl ffigurau DEFRA, bydd y penderfyniad yn effeithio ar ryw 12,500 o weithwyr yng Nghymru.  Yn eu plith y mae rhai o’r gweithwyr sy’n cael eu talu leiaf ac sydd fwyaf agored i niwed yng Nghymru.  Maent hefyd yn aml yn gweithio oriau hir ac anghymdeithasol o dan amodau anodd.  Hoffwn ddweud eto mor bwysig yn fy marn i yw’r amddiffyniad cynhwysfawr y mae’r AWB yn ei roi i’r bobl hyn.  Yn ogystal â diogelu lefelau cyflogau, mae’r Bwrdd yn amddiffyn eu hamodau gwaith, fel tâl goramser, gwyliau a salwch a’u hyfforddiant.  Y Bwrdd hefyd sy’n cynnig y fframwaith ar gyfer datrys anghydfodau rhwng gweithwyr a chyflogwyr.  Nid Llywodraeth Cymru yn unig sy’n credu hyn.  Mae rhanddeiliaid y maes hwn yma yng Nghymru gan gynnwys cynrychiolwyr y gweithwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru a’r Clybiau Ffermwyr Ifanc yn cydnabod gwaith pwysig y Bwrdd o ran osgoi anghydfodau a thrafodaethau hirfaith gyda gweithwyr am dâl ac amodau.  Yn eu barn nhw, mae’r Bwrdd yn lleihau costau ychwanegol i gyflogwyr.

Cafwyd trafodaeth yn y Cynulliad Cenedlaethol yn ddiweddar lle clywyd aelodau o’r holl bleidiau yn mynegi eu dymuniad yn y siambr i weld yr AWB yn parhau yng Nghymru.

Yn ogystal ag anghytuno â pholisi Llywodraeth Glymbleidiol y DU ynghylch y Bwrdd Cyflogau Amaethyddol, rwyf hefyd yn siomedig iawn ynghylch y ffordd y mae’n mynd ati i roi’r polisi ar waith, heb fawr o ystyriaeth i fuddiannau Cymru.  Pan gefais fy mhenodi i’m swydd y llynedd, gofynnodd Llywodraeth y DU imi am fy nghaniatâd i ddiddymu’r Bwrdd o dan y Ddeddf Cyrff Cyhoeddus.  Dywedais ar y pryd y carwn weld gwaith y Bwrdd yng Nghymru yn cael ei gadw.  Y ffordd hawsaf un i ganiatáu hynny fyddai i Lywodraeth y DU wneud gorchymyn o dan y Ddeddf Cyrff Cyhoeddus i ddiddymu’r Bwrdd yn Lloegr a rhoi’r hawl i Gymru wneud trefniadau gwahanol.  Gyda golwg ar hynny, cyflwynais gais i DEFRA am gael trosglwyddo swyddogaethau’r AWB i Weinidogion Cymru trwy gyfrwng y gorchymyn i ddiddymu’r Bwrdd o dan y Ddeddf Cyrff Cyhoeddus.  Rwyf wedi cael nifer o gyfarfodydd ers hynny â Gweinidogion y DU – cafwyd y diweddaraf prin wythnos yn ôl yn wir – i bwyso arnynt i ddilyn y trywydd hwn a fyddai’n caniatáu i’r ddwy lywodraeth ddilyn eu polisïau eu hunain.  Mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod y cais rhesymol ac ymarferol hwn.  Ac yn awr, mae DEFRA wedi ailadrodd ei bwriad i ddiddymu’r Bwrdd heb ystyried anghenion y gymuned amaethyddol yng Nghymru.  Mae DEFRA wedi dewis lansio ymgynghoriad ar y mater hwn ledled Cymru a Lloegr, a hynny heb ofyn barn Llywodraeth Cymru ar y mater. Yn wir, gwnaeth DEFRA ddewis peidio ag anfon copïau o’r dogfennau ymgynghori at fy swyddogion tan ddydd Gwener, 12 Hydref, ychydig ddyddiau yn unig cyn cyhoeddi’r ymgynghoriad.

Testun pryder mawr arall imi yw sylwi yn y ddogfen ymgynghori bod Llywodraeth y DU fel pa bai’n awgrymu y gallai ddilyn mecanwaith deddfwriaethol gwahanol i ddileu’r Bwrdd, heb ddibynnu ar y Ddeddf Cyrff Cyhoeddus.  Mae’r Ddeddf yn dweud bod angen caniatâd y Cynulliad Cenedlaethol i ddiddymu unrhyw gorff cyhoeddus y mae gennym gyfrifoldeb deddfwriaethol amdano.  Mae’r AWB yn gorff o’r fath gan fod ei swyddogaethau’n ymwneud â mater datganoledig: amaethyddiaeth.

Mae Llywodraeth y DU ar y mater hwn, i bob golwg, wedi mynd yn gwbl groes i’r ‘Agenda i Barchu’ y Llywodraethau datganoledig y mae’n haeru ei bod yn ei dilyn.  Er hynny, rwy’n awyddus i gael hyd i ffordd gyfeillgar ymlaen ac ateb sy’n ymarferol i’r ddwy Lywodraeth.  Ond os na wnaiff y trafodaethau rhyngom ddwyn ffrwyth, bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i ystyried opsiynau eraill i wneud yn siŵr bod swyddogaethau’r AWB yng Nghymru yn cael eu diogelu a’u cadw.