Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) (y “Bil”) ei gyflwyno gan George Eustice AS yn Nhŷ'r Cyffredin ar 9 Ionawr 2020. Mae'r Bil i'w weld yma:

https://services.parliament.uk/Bills/2019-20/directpaymentstofarmerslegislativecontinuity.html

Bydd y Bil yn rhoi'r sail gyfreithiol ar gyfer parhau i dalu Taliadau Uniongyrchol i ffermwyr trwy sicrhau bod y cynllun yn parhau ym mhob rhan o'r DU ym mlwyddyn hawlio 2020, gan roi'r sefydlogrwydd mawr ei angen i ffermwyr Cymru. Mae'r Bil yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â materion datganoledig a byddaf yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.