Mick Antoniw AS, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Heddiw, mae’r Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) a’r Memorandwm Esboniadol yn cael eu gosod gerbron y Senedd.
Mae’r Bil yn darparu i’r Senedd gael 96 o Aelodau, gyda chwe Aelod yn cael eu hethol fesul etholaeth, gan ddefnyddio’r dull d’Hondt. Yn hytrach na bod y mwyafrif o’r Aelodau yn cael eu hethol drwy’r system y cyntaf i’r felin, bydd pob Aelod o’r Senedd yn cael ei ethol gan ddefnyddio rhestrau cyfrannol caeedig.
Mae’n darparu ar gyfer creu 16 o etholaethau’r Senedd ar gyfer etholiad 2026, drwy baru’r 32 o etholaethau newydd Senedd y DU yng Nghymru mewn adolygiad annibynnol. Mae hefyd yn darparu ar gyfer cynnal adolygiad ffiniau llawn cyn etholiad dilynol y Senedd i greu 16 o etholaethau newydd yng Nghymru o etholiad 2030 ymlaen ac adolygiadau cyfnodol wedi hynny.
Er mwyn cyflawni hyn, mae’r Bil yn darparu’r swyddogaethau angenrheidiol i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru allu paru etholaethau newydd Senedd y DU yng Nghymru, a chynnal adolygiadau rheolaidd o ffiniau etholaethau newydd y Senedd wedi hynny. Mae hefyd yn darparu ar gyfer ailenwi’r Comisiwn yn Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.
Law yn llaw â’r cynnydd cyffredinol ym maint y Senedd, ac yn unol ag argymhelliad Pwyllgor Busnes y Senedd, mae’r Bil yn galluogi’r Senedd i ethol Dirprwy Lywydd ychwanegol. Mae hefyd yn cynyddu’r terfyn deddfwriaethol o ran nifer y Gweinidogion Cymru y caniateir eu penodi, o 12 i 17. Mae hefyd yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru gynyddu’r terfyn hwn ymhellach i 18 neu 19 gyda chymeradwyaeth y Senedd.
Argymhellodd y Pwyllgor Diben Arbennig hefyd y dylid rhoi ystyriaeth bellach, ar sail drawsbleidiol, i archwilio dichonoldeb a heriau deddfwriaethol sy’n gysylltiedig â galluogi etholiad ar sail rhannu swydd. Mewn ymateb i hyn, mae’r Bil yn darparu llwybr i’r Senedd nesaf ystyried ymhellach oblygiadau ymarferol a deddfwriaethol rhannu swyddi.
Mae’r Bil yn darparu ar gyfer sicrhau bod y cylch etholiadol ar gyfer etholiadau’r Senedd yn dychwelyd i bedair blynedd o 2026 ymlaen.
Mae’r Bil hefyd yn gwneud darpariaeth i anghymhwyso unrhyw berson nad yw wedi’i gofrestru ar y gofrestr o etholwyr llywodraeth leol mewn cyfeiriad yng Nghymru rhag sefyll fel ymgeisydd i’w ethol i’r Senedd, a rhag bod yn Aelod o’r Senedd.
Yn olaf, mae’r Bil yn darparu ar gyfer mecanwaith adolygu i ystyried ei weithrediad a’i effaith.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu amcangyfrifon cost manwl sy’n nodi goblygiadau ariannol rhagamcanol y ddeddfwriaeth hon dros gyfnod o wyth mlynedd.
Edrychaf ymlaen at waith craffu’r Aelodau ar y Bil, ac at glywed barn rhanddeiliaid, partneriaid cyflawni, a’r cyhoedd yn ystod y broses ddeddfwriaethol.