Neidio i'r prif gynnwy

Hannah Blythyn AS, Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 15 Gorffennaf 2020, cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru gynlluniau Llywodraeth Cymru i atgyfnerthu trefniadau partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru drwy gyhoeddi deddfwriaeth ddrafft ar bartneriaeth gymdeithasol yn ystod tymor y Senedd hon.

Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) drafft at ddibenion ymgynghori. Mae'r Bil drafft yn ceisio atgyfnerthu a ffurfioli trefniadau partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru drwy greu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog, gyda’r aelodau’n cynnwys arweinwyr cenedlaethol ar draws sectorau a chynrychiolwyr o’r undebau llafur, a thrwy osod dyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar ein cyrff cyhoeddus. 

Bydd y Bil drafft yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i bennu amcanion gwaith teg er mwyn sicrhau bod y ffordd yr ydym yn darparu cyflogaeth dda a diogel yn fwy tryloyw a chyson. Mae’r Bil hefyd yn cynnwys darpariaethau i osod dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus i sicrhau eu bod yn gyfrifol yn gymdeithasol wrth ymgymryd â chaffael cyhoeddus, gan ddefnyddio pŵer y pwrs cyhoeddus er budd cyffredinol pobl a chymunedau Cymru.

Nod cyffredinol y mesurau hyn yw gwella llesiant, bywydau a bywoliaeth pobl Cymru a gwella gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r Bil drafft yn rhan annatod o’n nod ehangach i leihau anghydraddoldeb a chreu Cymru decach a mwy cynhwysol gydag economi fywiog sy’n gwerthfawrogi a diogelu ein gweithlu.

Mae'r cynigion yn elfen allweddol o'n hymateb i ganfyddiadau'r Comisiwn Gwaith Teg, a wnaeth gyfres o argymhellion ym mis Mawrth ynghylch sut y dylai Llywodraeth Cymru annog arferion gwaith teg ledled Cymru. Mae cryfhau trefniadau partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru yn cyd-fynd ag argymhellion allweddol y Comisiwn.

Gellir gweld yr ymgynghoriad yn: https://llyw.cymru/bil-drafft-partneriaeth-gymdeithasol-chaffael-cyhoeddus-cymru. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymateb yw 23 Ebrill 2021.