Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AC, Y Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mawrth 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig wedi cael eu gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol heddiw.

Diben y Bil yw rhoi amrediad gwell o fecanweithiau i awdurdodau lleol i'w defnyddio wrth gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau lleol yn eu hardal. Bydd y Bil yn rhoi trefniadau newydd ar waith ar gyfer rhannu gwybodaeth. 

Bydd y Bil yn diwygio'r trefniadau presennol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a masnachfreinio, a bydd yn dileu'r cyfyngiad sy'n atal awdurdodau lleol rhag rhedeg gwasanaethau bysiau. Bydd y darpariaethau diwygiedig hyn yn rhoi ffyrdd mwy effeithiol i awdurdodau lleol o gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau ar gyfer pobl a chymunedau Cymru.

Bydd y darpariaethau ar gyfer rhannu gwybodaeth yn galluogi casglu data mewn perthynas â materion fel llwybrau, amserlenni, opsiynau ar gyfer tocynnau a gwybodaeth fyw. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei gwneud ar gael i'r cyhoedd, ac ymhlith pethau eraill bydd yn caniatáu i deithwyr a theithwyr posibl reoli eu teithiau'n well o ddechrau i ben y daith. Bydd y darpariaethau ar gyfer rhannu gwybodaeth hefyd yn galluogi awdurdodau lleol i gasglu gwybodaeth am wasanaethau cofrestredig y mae gweithredwyr yn bwriadu eu tynnu'n ôl neu eu hamrywio, fel y gallen nhw ystyried a gwneud trefniadau i ddarparu gwasanaethau yn eu lle pan fydd hynny'n briodol.

Byddwn i’n gwneud datganiad llafar ar y Bil i’r Cynulliad Cenedlaethol yfory.