Neidio i'r prif gynnwy

Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn fy natganiad ysgrifenedig ar 16 Hydref 2013, rhoddais hysbysiad ynghylch y darpariaethau yn y Bil Dŵr a fydd, o’u cyflwyno, yn newid swyddogaethau Gweinidogion Cymru. Ar 12 Rhagfyr, 2013, cyflwynodd Lywodraeth y Deyrnas Unedig welliant i’r Bil a fydd hefyd yn newid swyddogaethau Gweinidogion Cymru, a dyna yw testun y datganiad ategol hwn.

Gosodir y Datganiad Ysgrifenedig hwn o dan Reol Sefydlog 30 – Hysbysu mewn perthynas â Biliau Seneddol y Deyrnas Unedig. Mae’r gwelliant y cyfeirir ato, a gynigiwyd i’r Bil, yn newid swyddogaethau Gweinidogion Cymru ond nid yw’n ofynnol cael Gorchymyn Cydsyniad Deddfwriaethol ar ei gyfer o dan Reol Sefydlog 29.

Mae Llywodraeth y DU wedi datgan ei bwriad i ddiwygio’r diwydiant dŵr er mwyn iddo fod yn fwy arloesol ac ymatebol i gwsmeriaid ac ymdopi’n well â risgiau naturiol megis sychder neu lifogydd. Bydd y Bil yn cynnwys mesurau i ddelio ag argaeledd a fforddiadwyedd yswiriant llifogydd hefyd, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae’r gwelliant perthnasol, a gyflwynwyd ar 12 Rhagfyr:

  • Yn dileu’r ddyletswydd statudol i benderfynu ar anghydfodau o dan adran 101A(7) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 (“y Ddeddf”) oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac yn ei rhoi ar Weinidogion Cymru.
  • Yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru benodi person neu gorff i benderfynu ar anghydfodau ar eu rhan; ac
  • Yn gosod dyletswydd ar CNC i gynghori, pan fo angen, ymgymerwyr carthffosiaeth, perchenogion/meddianwyr a’r rhai sy’n penderfynu anghydfodau ynghylch eiddo yng Nghymru o dan adran 101(7).

Mae rhai eiddo yng Nghymru a Lloegr yn cael eu gwasanaethu gan systemau trin carthffosiaeth preifat nad ydynt wedi’u cysylltu â charthffos gyhoeddus. Mae dyletswydd ar ymgymerydd carthffosiaeth i ddarparu carthffos gyhoeddus at ddibenion carthffosiaeth ddomestig pan fo’r amodau a ragnodir yn adran 101A(2) o’r Ddeddf wedi’u bodloni.

Os yw eiddo yn cael ei wasanaethu gan systemau carthffosiaeth preifat nad ydynt wedi’u cysylltu â charthffos gyhoeddus, bydd y perchenogion neu’r meddianwyr yn cael gwneud cais i’r ymgymerwyr carthffosiaeth trwyddedig ar gyfer yr ardal leol gysylltu’r eiddo â’r garthffos gyhoeddus, o dan yr amodau a ragnodir yn adran 101A o’r Ddeddf.

Rhaid i’r ymgymerydd asesu’r sefyllfa a phenderfynu a yw o’r farn fod arno ddyletswydd i ddarparu carthffos gyhoeddus. Os yw'r partïon (h.y. yr ymgymerydd carthffosiaeth a’r perchennog neu’r meddiannydd) yn methu â chytuno ynghylch, inter alia, a oes dyletswydd yn bodoli neu ynghylch y terfyn amser ar gyfer cyflawni unrhyw ddyletswydd o’r fath (pan fo’r ddyletswydd wedi’i derbyn neu y pennwyd ei bod yn bodoli), bydd adran 101A yn darparu fframwaith ar gyfer penderfynu ar anghydfodau a gorfodi’r penderfyniad.  Yng Nghymru, Cyfoeth Naturiol Cymru sydd â’r cyfrifoldeb o benderfynu ar anghydfodau ar hyn o bryd.

Bydd y gwelliant hwn yn symleiddio’r broses o benderfynu ar anghydfodau. Bydd yn rhyddhau Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n arbenigwyr amgylcheddol, i gynnig eu cyngor amgylcheddol annibynnol er mwyn helpu i bennu a oes dyletswydd yn bodoli o dan Adran 101A ai peidio. Bydd meddianwyr neu berchenogion eiddo, ymgymerwyr, Gweinidogion Cymru neu’r person neu gorff a benodir ar eu rhan, yn gallu ceisio cyngor CNC. O ganlyniad, mae disgwyl y bydd llai o’r ceisiadau a wneir o dan adran 101A yn cael eu cyfeirio at Weinidogion Cymru fel anghydfodau iddynt benderfynu arnynt.

Cymhwysedd deddfwriaethol cyfyngedig yn unig sydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym maes carthffosiaeth, ac ystyrir ei bod yn briodol  cynnwys y ddarpariaeth hon yn y Bil Dŵr gan nad oedd modd ei gwneud drwy Ddeddf Cynulliad. Ar fy nghais i y gwnaed y gwelliant hwn, a bydd yn gymwys i Gymru yn unig.