Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r datganiad ysgrifenedig hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am y datblygiadau diweddar mewn perthynas â Bil Cymwysterau Proffesiynol Llywodraeth y DU.

Ar 22 Chwefror cyflwynodd Llywodraeth y DU dau welliant i'r Bil Cymwysterau Proffesiynol yng Nghyfnod Adrodd yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae’r gwelliannau i’w gweld yn professional_rm_rep_0222.fm (parliament.uk).

Mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cynnal Cyfnod Adrodd Tŷ'r Cyffredin yn fuan. Yn anffodus, nid yw hyn yn rhoi cyfle i'r Senedd ystyried y gwelliannau cyn cwblhau'r Cyfnod Adrodd. Mae hyn hefyd yn golygu bod Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen â'r Bil heb sicrhau cydsyniad deddfwriaethol gan y Senedd, nac yn wir unrhyw un o'r Llywodraethau Datganoledig. Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac yn weithred sy'n torri confensiwn Sewel. Er bod y gwelliant ‘torri allan’ i’w groesawu, nid yw'r gwelliannau a gyflwynwyd yn mynd i'r afael yn llawn â'm pryderon.

Yn unol â Rheol Sefydlog 29, byddaf yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol pellach (Memorandwm Rhif 3) gerbron y Senedd.