Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Gorffennaf 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyflwynwyd Bil Archwilio Cyhoeddus (Cymru) heddiw.

Nod y Bil yw cryfhau a gwella’r trefniadau atebolrwydd a llywodraethu mewn perthynas ag Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, ond gan warchod annibyniaeth a gwrthrychedd yr Archwilydd Cyffredinol. Mae’r Bil yn creu cydbwysedd effeithiol rhwng sicrhau mwy o dryloywder wrth i’r Archwilydd Cyffredinol ddefnyddio adnoddau cyhoeddus, a sicrhau nad oes cyfyngiad ar annibyniaeth yr Archwilydd Cyffredinol wrth iddo gyflawni ei waith.

Bydd y Bil yn gwella’r modd y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn goruchwylio Archwilydd Cyffredinol Cymru ac yn cryfhau atebolrwydd a thryloywder swydd.  

Bydd prif ddarpariaethau’r Bil yn:

• parhau â swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru ac yn cynnal annibyniaeth y swydd honno (Adran 2 o’r Bil);

• ei gwneud yn glir bod swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru, er enghraifft, i gael eu harfer yn effeithlon a chost-effeithiol (Adran 8);

• rhagnodi bod yn rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru gyhoeddi cod ymarfer archwilio sy’n berthnasol i’w holl swyddogaethau archwilio ariannol a gwerth am arian (Adran 10);

• gwneud Archwilydd Cyffredinol Cymru yn archwilydd statudol ar gyfer cyrff llywodraeth leol yng Nghymru (Adran 11);

• creu corff corfforaethol newydd o’r enw Swyddfa Archwilio Cymru gydag amrywiaeth o swyddogaethau gan gynnwys cyflogi staff, dal cyllideb, darparu gwasanaethau, codi ffioedd, cynllunio ac adrodd (Adrannau 13 – 16, 19, 23 - 28);

• rhoi dyletswydd ar Swyddfa Archwilio Cymru i fonitro Archwilydd Cyffredinol Cymru, ynghyd â’r pŵer i’w gynghori, a darpariaethau eraill ynghylch y berthynas rhwng y ddau (Adran 17); a

• galluogi’r Cynulliad ei hun i benderfynu sut y caiff y swyddogaethau o  graffu ar Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, a’u goruchwylio, eu harfer (Adran 29).


Ceir pedair Atodlen i’r Bil:

• mae Atodlen 1 yn ymwneud â chorffori Swyddfa Archwilio Cymru;

• mae Atodlen 2 yn amlinellu’r berthynas rhwng Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru;

• mae Atodlen 3 yn ymdrin â darpariaethau Trosiannol, darpariaethau Atodol a darpariaethau Arbed;

• mae Atodlen 4 yn amlinellu’r diddymiadau a’r diwygiadau canlyniadol i’r ddeddfwriaeth sylfaenol er mwyn gweithredu’r Bil.  

Byddaf yn gwneud datganiad deddfwriaethol yn y cyfarfod llawn yfory er mwyn cyflwyno’r Bil.