Jeremy Miles, AC, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit
Ers y refferendwm ar yr UE, mae Llywodraeth Cymru wedi'i harwain gan fwriad clir i ddiogelu dyfodol Cymru ym mha amgylchiadau bynnag y mae Brexit yn eu creu. Mae'n amlwg bellach bod y DU yn gadael yr UE ar 31 Ionawr, a bydd y DU yn dechrau trafodaethau cyn hir ar y berthynas yn y dyfodol rhwng y DU a’n partner economaidd agosaf a phwysicaf. Bydd Llywodraeth y DU yn seilio'i strategaeth negodi ar yr hyn a nodwyd yn y Datganiad Gwleidyddol.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno cyfres o safbwyntiau sy’n adlewyrchu buddiannau Cymru, a hynny mewn modd cyson iawn, gan ddefnyddio’r sylfaen dystiolaeth sydd ar gael. Heddiw rydym wedi cyhoeddi ‘Y Berthynas rhwng y DU a’r UE yn y Dyfodol: Blaenoriaethau Negodi i Gymru’, sy’n nodi’r blaenoriaethau negodi a fydd, yn ein barn ni, yn cynnig y ffordd orau o ddiogelu buddiannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru, drwy ddatblygu’r datganiad gwleidyddol i lywio’r modd y pennir strategaeth negodi’r DU.
O ystyried pwysigrwydd aruthrol marchnadoedd yr UE i’n heconomi - yn enwedig i sector gweithgynhyrchu, sector amaethyddiaeth a sector gwasanaethau Cymru - rhaid i’r DU roi blaenoriaeth i sicrhau bod y mynediad esmwyth at y marchnadoedd hynny yn parhau, cyn mynd ati i greu cytundebau masnach â gwledydd eraill. Er ein bod yn cydnabod y bydd ein perthynas â’r UE yn y dyfodol yn seiliedig ar Gytundeb Masnach Rydd, rhaid i’r DU gael y mynediad llawnaf i farchnadoedd heb dariffau yn yr UE, a rhaid i rwystrau masnach heblaw am dariffau gael eu lleihau gymaint â phosibl.
O ystyried hynny, byddwn yn parhau i herio dull y Llywodraeth y DU o fynd ati i negodi gan roi blaenoriaeth i ‘ryddid’ y DU i wyro oddi wrth safonau rheoleiddiol yr UE o flaen lles pobl Cymru. Byddai agwedd o’r fath yn ddiffygiol iawn a byddai’n debygol o arwain at golli swyddi a cholli buddsoddiadau yng Nghymru. Byddai hefyd yn tanseilio’r amddiffyniadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol sydd wedi deillio o 40 mlynedd o integreiddio a chydweithredu agos.
Yn ogystal, rydym yn galw ar y DU i geisio cael y bartneriaeth ddiogelwch agosaf sy’n bosibl â’r UE, ac i negodi er mwyn gallu parhau i gymryd rhan yn rhaglenni’r UE megis Erasmus+, Horizon Ewrop, Rhaglen Iwerddon-Cymru ac Ewrop Greadigol, sydd wedi helpu i sicrhau buddsoddiad sylweddol yn seilwaith economaidd, diwylliannol a chymdeithasol Cymru.
Rydym wedi mynd ati i ystyried yn fras y blaenoriaethau a amlinellwyd – a hynny am mai ymateb yr ydym i’r Datganiad Gwleidyddol, sydd wedi’i lunio ar ffurf fras beth bynnag. Rydym unwaith eto’n pwyso am i Lywodraeth Cymru a’r Llywodraethau Datganoledig eraill gael rhan yn y negodiadau, er mwyn gwarchod buddiannau holl ddinasyddion y DU a’n galluogi i nodi ein blaenoriaethau a mynd ar eu trywydd yn fanylach.
Fel rhan o’r cyhoeddiad hwn, rydym wedi cynhyrchu dadansoddiad economaidd wedi ddiweddaru ynglŷn â’r berthynas fasnach yn y dyfodol, a hwnnw wedi’i lunio gan Brif Economegydd Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd wedi cyhoeddi adroddiad annibynnol gan Arsyllfa Polisi Masnach y DU sy’n dadansoddi’r goblygiadau posibl i fasnach allanol Cymru o ganlyniad i’r protocol ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon fel y’i nodwyd yn y Cytundeb Ymadael.
Y Berthynas rhwng y DU a’r UE yn y Dyfodol: Blaenoriaethau Negodi i Gymru