Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 12 Chwefror, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei dadansoddiad o beth fyddai goblygiadau perthynas newydd y DU â’r UE, fel y nodir yn y Cytundeb Masnach a Chydweithredu, cytundebau cysylltiedig a chyd-ddatganiadau. Mae dogfen Y Berthynas Newydd â’r UE - Beth mae’n ei olygu i Gymru yn amlinellu’r newidiadau ymarferol ac yn cynnwys gwybodaeth am y canllawiau a’r cymorth sydd ar gael ar gyfer pobl sy’n byw yng Nghymru, busnesau yng Nghymru a’n cymunedau.

Gan ystyried pa mor gymhleth ac eang yw’r newidiadau y mae angen i fusnesau yn arbennig fod yn ymwybodol ohonynt nawr, rydym heddiw wedi darparu manylion pellach wedi’u hanelu’n benodol at fusnesau yng Nghymru yn ein dogfen newydd Y Berthynas Newydd â’r UE - Beth mae’n ei olygu i Fusnesau yng Nghymru. Mae’r ddogfen hon yn adeiladu ar yr wybodaeth yn ein dogfen flaenorol, ac yn cyfeirio at wybodaeth bellach fydd ei hangen wrth i fusnesau yng Nghymru addasu i’r berthynas fasnachu newydd.