Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roeddem wedi bwriadu cynnal ein digwyddiad blynyddol, Cynhadledd yr Hinsawdd Cymru Gyfan, yr wythnos nesaf, gan ddod â channoedd o ddinasyddion o gyrff cyhoeddus, busnesau a chymunedau at ei gilydd, a phob un ohonynt yn benderfynol o gyflymu ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd.

Nid oes modd i ni gynnal digwyddiad o'r fath yr wythnos nesaf oherwydd yr angen i gymryd camau pendant i atal lledaeniad feirws COVID-19. Ar hyn o bryd, rydym yn gofyn i bobl yng Nghymru aros gartref, cymaint ag y bo hynny'n rhesymol ymarferol, tan 9 Tachwedd er mwyn cadw Cymru'n ddiogel.

Mae'r pandemig wedi ein gorfodi i newid ein cynlluniau ar gyfer y gynhadledd. Fodd bynnag, erys ein hymrwymiad yn ddigyfnewid. Yn hytrach na digwyddiad undydd, byddwn yn cynnal wythnos lawn o ddigwyddiadau rhithwir a fydd ar agor i bawb, ac rydym yn gobeithio y bydd cynifer â 1,000 o bobl yn cymryd rhan.

Mae'r digwyddiadau yn rhan allweddol o'n dull o greu cynllun ar gyfer Cymru gyfan y bydd gan bob corff cyhoeddus, cymuned a busnes yng Nghymru ran i'w chwarae ynddo. Rhaid i'r cynllun alluogi newidiadau trawsnewidiol i'n heconomi a'n cymdeithas, na allant ddibynnu ar arian na grym y gyfraith, nac ar weithredoedd unigol yn unig i'w gwireddu. Dim ond drwy weithio gyda'n gilydd y gallwn gyflawni hyn, a hynny ar draws pob cymuned yng Nghymru, pob cenedl yn y DU ac Ewrop a thrwy gydweithio â chenhedloedd ar draws y byd.

Yr hyn sy'n ein hysgogi yw'r angen i ddiogelu llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn erbyn y bygythiad presennol a chynyddol sy'n gysylltiedig â newid hinsawdd a'r defnydd anghynaliadwy o adnoddau naturiol sy'n ei achosi.

Mae hon yn her uniongyrchol, ac yn her sy'n mynnu ymateb creadigol. Rydym yn dod â phobl at ei gilydd ar gyfer Wythnos yr Hinsawdd Cymru gyda'r nod o greu Cymru carbon isel yn wyneb yr her hon, er mwyn atgyfnerthu cadernid ein cymunedau, ein heconomi a'n hamgylchedd.

Gallwn greu gweithleoedd mwy gwyrdd mewn partneriaeth gymdeithasol rhwng undebau llafur, busnesau a'r llywodraeth, er mwyn cefnogi mwy o weithwyr i fynd ati'n rhagweithiol i ddatblygu prosesau a sgiliau sy'n lleihau'r effeithiau ar yr amgylchedd ac yn helpu i greu diwydiannau a swyddi newydd.

Gallwn greu Fforest Genedlaethol ar draws Cymru, gan gefnogi rheolwyr tir a chymunedau Cymru i fanteisio i'r eithaf ar ein fforestydd, ein mewndiroedd a'n moroedd fel storfeydd carbon.

Gallwn greu systemau ynni di-garbon i wasanaethu ein cartrefi, ein diwydiant a'n systemau trafnidiaeth, gyda mwy o'r capasiti sydd ei angen arnom yn cael ei feithrin a'i gynhyrchu gan fusnesau, cyrff cyhoeddus a chymunedau yng Nghymru.

Gallwn greu'r system ffermio a bwyd fwyaf cyfeillgar i'r hinsawdd yn y byd, drwy gyfuno technolegau newydd â dulliau traddodiadol, dwysedd isel.

Mae enghreifftiau eithriadol o'r rhain, ynghyd â llawer o ddulliau eraill o greu Cymru carbon isel eisoes ar y gweill, a hynny ym meysydd tai, ailgylchu, gwyddorau amgylcheddol, trafnidiaeth a chysylltedd. Mae llawer mwy sydd angen i ni ei wneud gyda'n gilydd er mwyn cyflymu'r gweithgarwch hwn, ac i weithio er mwyn sicrhau bod y costau a’r buddiannau sy'n gysylltiedig â'r newidiadau hyn yn cael eu rhannu'n gyfartal.

Nod digwyddiadau Wythnos yr Hinsawdd Cymru yw annog cydweithredu i greu'r elfennau sydd eu hangen ar gyfer Cynllun Cyflawni Carbon Isel Cymru. Rhaid i'r cynllun nodi sut y byddwn yn cyrraedd, neu’n rhagori ar, y targedau lleihau allyriannau ar gyfer 2021 a 2025 a argymhellwyd gan ein cynghorwyr statudol annibynnol, Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd. Er mwyn i'r cynllun lwyddo, credwn fod yn rhaid iddo fod yn gynllun i Gymru gyfan, wedi'i ddylunio a'i gyflawni, nid gan y llywodraeth yn gweithredu ar ei phen ei hun neu mewn cydweithrediad cul, ond drwy dynnu ar egni a syniadau pob corff cyhoeddus, busnes a chymuned.

Bydd cyhoeddi Cynllun Cyflawni Carbon Isel Cymru ymhen 12 mis yn cyd-fynd â COP 26, sef uwchgynhadledd hinsawdd fyd-eang y Cenhedloedd Unedig sy'n cael ei chynnal yn Glasgow. Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i ddyfeisgarwch a phenderfyniad Cymru gynnig ysbrydoliaeth i gynyddu uchelgeisiau ar gyfer gweithredu ar lefel fyd-eang. Ar hyn o bryd mae'r trywydd o allyriannau byd-eang yn awgrymu bod angen ymdrech frys fwy unedig er mwyn osgoi effeithiau gwaethaf newid hinsawdd. Gallai effeithiau'r cynhesu byd-eang a allai ddeillio o'r gyfradd bresennol o allyriannau byd-eang fygwth llawer o ecosystemau naturiol y byd, yn ogystal â bygwth bywydau a bywoliaeth pobl yng Nghymru a ledled y byd. Mae llawer o'r effeithiau mwyaf difrifol yn amlygu eu hunain yn y cymunedau hynny, sydd o bosib wedi gwneud y cyfraniad lleiaf i’r broblem.

Credwn fod Cymru mewn sefyllfa dda i chwarae rôl arwyddocaol yn fyd-eang drwy gyflymu ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd. Gallwn gyflawni hyn drwy ddefnyddio'r cyfoeth o asedau sydd gennym yma yng Nghymru, gan gynnwys ein treftadaeth naturiol, ein diwydiant a'n dyfeisgarwch. Byddwn yn gwneud hynny ag ymrwymiad a rennir i gyfiawnder cymdeithasol, ysgwydd yn ysgwydd ag eraill ledled y byd.

Gobeithiwn y bydd Wythnos yr Hinsawdd Cymru, sydd ar-lein ac yn agored i bawb, yn gyfle i gynnwys mwy o bobl yn agosach yn ein hymdrech ar y cyd i greu Cymru carbon isel.