Jane Hutt AC, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
Heddiw rydym yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, ymgyrch flynyddol i godi ymwybyddiaeth, annog pobl i gofnodi troseddau casineb, ac ysbrydoli pobl i gydweithio i atal yr amarch hwn. Cymru gynhwysol yw gweledigaeth Llywodraeth Cymru lle gall pobl o bob cefndir ffynnu, a lle nad oes lle i senoffobia, hiliaeth na chulni. Rydym yn benderfynol o gael gwared ar droseddau casineb a sicrhau nad yw pobl yn dioddef yn dawel.
Thema Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2019 yw 'Gwell Cariad na Chasineb'. Mae hon yn neges berthnasol i'w hystyried yng nghyd-destun y ffaith ein bod ar fin ymadael â'r UE a'r drafodaeth gynyddol gynhennus ym maes gwleidyddiaeth ac yn y cyfryngau. Mae ymddygiad hiliol neithiwr yn y gêm bel-droed gymhwyso Ewropeaidd ym Mwlgaria yn enghraifft arall o agweddau atgas, ac rydym yn ei gondemnio'n llwyr.
Ers Refferendwm yr UE, gwelwyd cynnydd nodedig yn yr adroddiadau sy'n ymwneud â throseddau casineb. Mae'r cynnydd hwn wedi'i weld yn nifer y troseddau casineb a gofnodwyd gan heddluoedd a Chanolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, ac yn nifer yr adroddiadau anecdotaidd lle mae unigolion yn dweud nad ydynt wedi rhoi gwybod amdanynt am nad oedd ganddynt ffydd y byddai erlyniad yn dilyn.
Ar 15 Hydref, cyhoeddodd y Swyddfa Gartref Ystadegau Troseddau Casineb Cymru a Lloegr ar gyfer 2018/2019. Mae'r ystadegau yn dangos cynnydd o 17% yn y troseddau casineb a gofnodwyd ledled Cymru o gymharu â 2017/2018. Mae hyn yn cymharu â chynnydd cyffredinol o 10% ar draws Cymru a Lloegr. Cofnodwyd 3,932 o droseddau casineb ar draws pedair ardal yr Heddlu yng Nghymru, ac o'r troseddau hyn:
- roedd 2,676 (68%) ohonynt yn droseddau casineb a oedd yn ymwneud â hiliaeth;
- roedd 751 (19%) ohonynt yn droseddau casineb a oedd yn ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol;
- roedd 206 (5%) ohonynt yn droseddau casineb a oedd yn ymwneud â chrefydd;
- roedd 443 (11%) ohonynt yn droseddau casineb a oedd yn ymwneud ag anabledd;
- roedd 120 (3%) ohonynt yn droseddau casineb a oedd yn ymwneud â phobl drawsryweddol.
Mae'r ystadegau yn adlewyrchu'r gwaith caled sy'n cael ei wneud ledled Cymru gan heddluoedd, y Trydydd Sector a Chanolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth (sy'n cael ei rhedeg gan Gymorth i Ddioddefwyr Cymru) er mwyn cynyddu hyder dioddefwyr a'u hannog i roi gwybod am y digwyddiadau hyn. Fodd bynnag, mae'r ystadegau hefyd yn tynnu sylw at yr angen i awdurdodau cyhoeddus gydymdrechu, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i gywiro canfyddiadau negyddol o gymunedau lleiafrifol, mynd i'r afael â throseddu casineb, a chefnogi dioddefwyr.
Rydym yn cydnabod y gallai ansicrwydd Brexit heb gytundeb waethygu'r tensiynau o fewn ein cymunedau ymhellach. Rydym wedi cymryd camau i liniaru'r risg hon cyn gynted â phosibl drwy ddefnyddio Cronfa Bontio Ewropeaidd Llywodraeth Cymru ac ysgogi ein rhwydweithiau presennol i fynd i'r afael â throseddau casineb a hyrwyddo cydlyniant cymunedol yn y ffyrdd canlynol:
- Mae Canolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a Chymorth yn darparu gwasanaeth eirioli a chymorth annibynnol i ddioddefwyr troseddau casineb yng Nghymru. Ehangwyd y gwasanaeth hwn ym mis Ebrill 2019 drwy £360,000 ychwanegol i sicrhau bod gan y Ganolfan y capasiti mwy i gefnogi dioddefwyr troseddau casineb tan fis Mawrth 2021.
- Yn ogystal, ym mis Mawrth, cyhoeddais 'Grant Cymunedau Lleiafrifol i fynd i’r afael â Throseddau Casineb' – a oedd yn gyllid grant untro i gefnogi sefydliadau cymunedol sy'n cydweithio'n agos â chymunedau lleiafrifoedd ethnig a chymunedau ffydd sydd mewn perygl o ddioddef troseddau casineb. Cafodd y Grant ei ddatblygu yn dilyn trafodaethau â Fforwm Hil Cymru. Rwy newydd gymeradwyo £330,000 o gyllid ar gyfer Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Gogledd Cymru, Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, Bawso, Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig Cymru, Race Council Cymru, Race Equality First, a Women Connect First. Bydd y sefydliadau hynny'n rhoi amrywiaeth o brosiectau ar waith dros y 18 mis nesaf, gan gynnwys gwella dealltwriaeth o droseddau casineb a magu hyder o ran sut i adrodd amdanynt, gweithio i herio agweddau negyddol mewn ysgolion a cholegau, edrych ar ffyrdd o weithio gyda chyflawnwyr gan ddefnyddio dulliau cyfiawnder adferol, ac ymgymryd â mentrau ymgysylltu â'r gymuned.
- Ar hyn o bryd, rydym yn datblygu ymgyrch genedlaethol i geisio lleihau mynychder a nifer yr achosion o droseddau casineb yng Nghymru, a fydd yn cael ei lansio yn 2020. Rydym yn casglu safbwyntiau rhanddeiliaid, aelodau o'r cyhoedd, a dioddefwyr troseddau casineb ar hyn o bryd er mwyn iddynt fynd yn sail i'r gwaith o ddatblygu'r ymgyrch a'i hamcanion. Bydd yr ymgyrch honno'n ein helpu i hyrwyddo negeseuon cadarnhaol drwy gydol y flwyddyn.
- Rydym yn ehangu ein Rhaglen Cydlyniant Cymunedol, sydd wedi derbyn £1.5 miliwn o gyllid ychwanegol o'r Gronfa Bontio Ewropeaidd hyd at fis Mawrth 2021. Mae'r cyllid hwn yn cefnogi timau bach ym mhob rhanbarth o Gymru i sicrhau bod mwy o gydweithio â chymunedau lleol a gwasanaethau cyhoeddus, ac i ymateb i'r holl densiynau a allai godi wrth i'r Deyrnas Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae'r ffaith ein bod yn ariannu'r Rhaglen wedi sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid allweddol i feithrin cydlyniant, gan helpu i fynd i'r afael â throseddau casineb a gwrthsefyll y bygythiad o eithafiaeth. Mae wedi bod yn hanfodol bod capasiti'r rhaglen hon sydd wedi'i hen sefydlu yn cael ei gryfhau yn ystod y cyfnod ansicr hwn i Gymru.
Ochr yn ochr â'r prosiectau hyn, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynnal Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru ar gyfer Troseddau Casineb er mwyn sicrhau bod fforwm effeithiol ar gyfer rhanddeiliaid allweddol sy'n gweithio i fynd i'r afael â throseddau casineb ledled Cymru.
Ers wythnos ymwybyddiaeth o droseddau casineb y llynedd, bu nifer o achosion terfysgol proffil uchel ledled y byd, a oedd yn amlwg yn deillio o gasineb tuag at gymunedau ethnig, ffydd neu bobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol. Rydym am roi sicrwydd i bawb o gefndiroedd amrywiol, sy'n byw yng Nghymru, ein bod yn sefyll ynghyd â nhw i wrthwynebu unrhyw weithredoedd o'r fath sy'n rhai ffiaidd a llawn casineb. Yn dilyn yr ymosodiadau yn Christchurch ym mis Mawrth, ysgrifennais at Imams i fynegi'r farn honno ac rwy wedi ysgrifennu at Rabbis yn dilyn yr ymosodiad ar Synagog yn yr Almaen yr wythnos diwethaf. Mae gweithredoedd o'r fath yn gwbl groes i'n gwerthoedd yng Nghymru, a byddwn yn eu condemnio'n gadarn os byddant yn digwydd.
Mae gan Gymru hanes hir o groesawu cymunedau amrywiol a llewyrchus, ac ar y cyfan mae'r cymunedau hynny'n byw yn gytûn. Ond ni ellir cymryd hynny'n ganiataol. Eleni, rydym wedi coffáu 100 mlynedd ers terfysgoedd hil 1919. Mae hynny'n amserol o ran ein hatgoffa bod anoddefgarwch a rhagfarnau'n bodoli o hyd yn ein cymunedau, a bod rhaid inni fynd i'r afael â hynny dros y misoedd nesaf.