Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
Ar 4 Tachwedd 2014, cyflwynais Ddatganiad Llafar ar 'Wythnos Ymwybyddiaeth Trosedd Casineb a Darparu yn y Dyfodol'. Yn dilyn hynny, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am y gweithgareddau a gynhaliwyd yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2014 a'r effaith a gawsant. Byddaf hefyd yn rhoi sylw i'r cynlluniau sydd ar y gweill ar gyfer 2015.
Rwyf wedi cyhoeddi Adroddiad Cryno ar Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2014. Mae'r adroddiad yn dangos hyd a lled y gwaith a'r amrywiaeth o weithgareddau a gynhaliwyd ledled Cymru. Cyflawnwyd hyn drwy glustnodi swm bach o arian i'r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru ac mae'n dangos yn glir bod modd arloesi drwy weithio mewn partneriaeth. Yn ystod y mis y cynhaliwyd Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, gwelwyd cynnydd yn nifer y bobl a wnaeth gysylltu â'r Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb yng Nghymru i roi gwybod am droseddau casineb.
Mae'r Adroddiad Cryno yn nodi’r gwaith a wnaed ar draws Llywodraeth Cymru i lunio nifer o daflenni briffio, astudiaethau achos a chlipiau ar-lein yn seiliedig ar y nodweddion sy'n cael eu hamddiffyn. Cyfeirir at nifer o adnoddau ar-lein yn yr adroddiad. Mae sefydliadau'r Trydydd Sector yn parhau i gyfrannu'n sylweddol at godi ymwybyddiaeth, er enghraifft, gwnaeth sefydliadau a ariennir drwy ein Grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant gyfrannu at yr wythnos. Un o’r sefydliadau hynny oedd Stonewall Cymru, gwnaeth y sefydliad hwnnw lansio llyfryn i ddioddefwyr yn ystod yr wythnos a bu Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn cwrdd â rhanddeiliaid i benderfynu ar gamau, mewn cydweithrediad â Chymorth i Ddefnyddwyr Cymru, i godi ymwybyddiaeth am droseddau casineb.
Mae'r Adroddiad Cryno yn rhoi sylw i'r amrywiaeth o weithgareddau a gynhaliwyd, gan gynnwys:
- Lansiodd Heddlu Dyfed Powys daflen wybodaeth ar Droseddau Cyfeillio yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb. Hefyd, rhoddwyd hyfforddiant i Swyddogion Cymorth Troseddau Casineb.
- Cynhaliwyd dros 25 o ddigwyddiadau yn ardal Heddlu Gwent, roedd y rhain yn cynnwys ymweld â cholegau lleol, sioeau teithiol gan ddefnyddio gorsafoedd symudol a sesiynau gwybodaeth ar gyfer grwpiau cymunedol. Arweiniodd hyn at gynhadledd o'r enw 'Smashing the Barrier' a drefnwyd gan Pobl yn Gyntaf Torfaen. Nod y gynhadledd honno oedd edrych ar y rhwystrau y mae pobl anabl yn eu hwynebu wrth roi gwybod am droseddau a sut y gellir gwella’r drefn o gymorth gan Drydydd Parti.
- Gwnaeth Heddlu Gogledd Cymru eitem ddwyieithog ar gyfer y gorsafoedd radio lleol ac fe'i darlledwyd yn ystod yr wythnos. Lluniwyd poster, fe'i hargraffwyd ac fe'i ddosbarthwyd ledled y rhanbarth mewn adeiladau cyhoeddus, swyddfeydd ac ar drafnidiaeth gyhoeddus er mwyn gwella'r ymwybyddiaeth o droseddau casineb ar sail anabledd.
- Ar draws ardal Heddlu De Cymru cynhaliodd pob Uned Rheoli Sylfaenol ddigwyddiadau i godi ymwybyddiaeth ac ymarferion ymgysylltu â'r gymuned. Yn ogystal, gwnaethpwyd defnydd helaeth o'r cyfryngau cymdeithasol. Roedd hynny’n cynnwys sioeau teithiol mewn canolfannau siopa, a sesiynau ymwybyddiaeth mewn Colegau a Phrifysgolion lleol. Bu Swyddogion yr Heddlu hefyd yn ymweld â sefydliadau cymunedol er mwyn codi ymwybyddiaeth a gwella'r ffyrdd o ymgysylltu â'r sefydliadau hynny.
Bwriadaf adeiladu ar lwyddiant yr wythnos yn 2015. Maes o law, byddaf yn ysgrifennu at y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu i gynnig mwy o gyllid ar gyfer Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2015. Bydd hynny’n galluogi’r Comisiynwyr i ymgysylltu â'r gymuned. Byddaf hefyd yn cynnal cynhadledd genedlaethol ar Seiberdroseddu a Bwlio mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd. Bydd y gynhadledd honno yn canolbwyntio ar ddod o hyd i atebion. Bydd hefyd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau bod gan bobl mwy o ddealltwriaeth am gasineb ar-lein. Mae hwn yn fater difrifol a dywed rhanddeiliaid wrthyf ei fod yn destun pryder sylweddol ymhlith ein cymunedau.