Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
Yr wythnos hon, caiff Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2024 ei lansio, yr ymgyrch flynyddol sy'n dod â phartneriaid at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth o effaith troseddau casineb, pwysigrwydd rhoi gwybod am ddigwyddiadau, a'r gefnogaeth sydd ar gael.
Ar 10 Hydref 2024, cyhoeddwyd Ystadegau Troseddau Casineb Cenedlaethol 2023/2024 Cymru a Lloegr gan y Swyddfa Gartref. Mae'r ystadegau yn dangos gostyngiad o 2% yn y troseddau casineb a gofnodwyd ledled Cymru o gymharu â 2022-23.
Cofnodwyd 5,929 o droseddau casineb gan y pedwar heddlu yng Nghymru, ac o'r rhain:
- roedd 3,632 (61%) yn droseddau casineb a oedd yn ymwneud â hiliaeth;
- roedd 1,139 (19%) yn droseddau casineb a oedd yn ymwneud â chyfeiriadedd rhywiol;
- roedd 752 (13%) yn droseddau casineb a oedd yn ymwneud ag anabledd;
- roedd 346 (6%) yn droseddau casineb a oedd yn ymwneud â chrefydd;
- roedd 306 (5%) yn droseddau casineb a oedd yn ymwneud â phobl drawsryweddol.
Mae'n anodd dehongli ystadegau troseddau casineb gan ein bod yn gwybod nad yw llawer o ddioddefwyr yn adrodd yn swyddogol beth sydd wedi digwydd iddynt. Gallai gostyngiad o 2% yn y troseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru olygu bod mwy o achosion yn mynd heb eu hadrodd, neu gallai olygu bod llai o droseddau casineb yn cael eu cyflawni. Beth bynnag, mae'n amlwg bod llawer i'w wneud o hyd i sicrhau nad ydym yn rhoi lle i gasineb yng Nghymru.
Rydym yn pryderu am gynnydd o 21% mewn troseddau casineb crefyddol yng Nghymru, o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, ac mae'r cynnydd hwn yn cyd-fynd â digwyddiadau o bwys yn y Dwyrain Canol. Mae hanesion am droseddau casineb sy’n targedu cymunedau Iddewig a Mwslimaidd yng Nghymru yn destun pryder eithriadol inni. Rydym yn annog aelodau o’r cymunedau hyn i roi gwybod yn swyddogol am unrhyw achosion o gasineb. Gellir gwneud hyn drwy gysylltu â’r heddlu neu Ganolfan Gymorth Casineb Cymru sy’n cael ei rhedeg gan Gymorth i Ddioddefwyr.
Mae'r ystadegau hyn yn berthnasol i 1 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024, ac felly maent yn ymwneud â'r cyfnod cyn yr anhrefn treisgar a effeithiodd ar y DU dros yr haf yn dilyn yr ymosodiad enbyd yn Southport. Er na welsom y lefel hon o anhrefn yng Nghymru, roedd yr ofn a achoswyd gan y naratif hiliol a oedd ynghlwm wrth y digwyddiadau hyn yn eglur. Gwnaeth sefydliadau partner ymdrech i rannu gwybodaeth yn gyflym a sicrhau bod cymunedau'n cael eu diogelu. Aethom ati i ymgysylltu â chymunedau yr effeithiwyd arnynt, i roi tawelwch meddwl iddynt ar adegau o densiynau cymunedol uwch. Mae'r euogfarnau sydd wedi'u dyfarnu yn dilyn yr aflonyddwch wedi dangos gwerth adrodd yn swyddogol am droseddau casineb, a chanlyniadau difrifol iawn targedu pobl oherwydd pwy ydyn nhw, boed ar-lein neu wyneb yn wyneb.
Rydym yn parhau i ariannu Canolfan Gymorth Casineb Cymru, dan arweiniad Cymorth i Ddioddefwyr, i helpu pawb sy'n dioddef yn sgil troseddau casineb ledled Cymru mewn ffordd bwrpasol, a phledio eu hachos. Mae'r gwasanaeth yn cefnogi plant a phobl ifanc, oedolion a theuluoedd wrth iddynt ddod dros eu profiadau, ac yn eu grymuso i symud ymlaen y tu hwnt i gasineb. Mae'r gwasanaeth hwn yn darparu cymorth sy'n canolbwyntio ar y dioddefwr, 24/7 dros y ffôn, drwy e-bost, drwy ei gyfeirio i'r lle iawn ar y we, a thrwy sgwrsio byw. Mae'r gwasanaeth yn cael ei adolygu'n barhaus gan ei Fforwm Eiriolaeth Profiad Bywyd (LEAF), gan sicrhau bod lleisiau dioddefwyr yn ganolog wrth lywio'r gwasanaeth yn ôl anghenion y rhai sydd angen cymorth.
Unwaith eto eleni, mae Cymorth i Ddioddefwyr wedi creu calendr o ddigwyddiadau i nodi'r wythnos, gan gydweithio â'r heddlu, awdurdodau lleol, a'r trydydd sector, gan gynnwys eu digwyddiad 'Y bobl y tu ôl i'r ffigurau'.
Rydym wedi parhau i ariannu gweithgarwch drwy ymgyrch Mae Casineb yn Brifo Cymru eleni, yn fwyaf diweddar ym mis Awst, pan gyflawnwyd bwrlwm o weithgarwch mewn rhannau o Gymru, a effeithiwyd yn flaenorol gan droseddau casineb. Mae’r ymgyrch hon yn parhau i fod yn ffordd bwysig ac effeithiol o sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael i ddioddefwyr troseddau casineb.
Mae casineb a chamwybodaeth ar-lein yn parhau i fod yn broblem sylweddol, fel yr amlygwyd yn ystod yr anhrefn diweddar ledled y DU. Mae'n hanfodol bod cwmnïau cyfryngau cymdeithasol a thechnoleg yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ddiogelu eu defnyddwyr rhag niwed ar-lein, fel cynnwys atgas a chamarweiniol. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gydag Ofcom yn rhinwedd ei swydd newydd fel rheoleiddwyr diogelwch ar-lein yn y DU.
Mae Llywodraeth Cymru yn teimlo'n falch o gael cefnogi Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb. Byddwn yn parhau i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol casineb ac, wrth inni sefyll yn erbyn casineb, byddwn yn parhau i gefnogi'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio ganddo. Rydym yn annog cymunedau ledled Cymru i uno yn erbyn y rhai sy'n ceisio ein rhannu ac i'n helpu i barhau i ddangos bod Cymru yn gymuned o gymunedau cydlynol.