Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae uchelgais Llywodraeth Cymru i ddatblygu gweithlu gofal plant a chwarae medrus yn sector y mae pobl yn dewis dilyn gyrfa ynddo wedi'i nodi yn ein cynllun 10 mlynedd ar gyfer y gweithlu Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar.  Mae'r cynllun hefyd yn cydnabod bod y sector gofal plant yng Nghymru yn hollbwysig o ran ei gwneud yn bosibl i rieni weithio a hyfforddi ac mae'n allweddol i ddatblygiad cymdeithasol ac economaidd Cymru. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod amrywiaeth o opsiynau gofal plant o ansawdd uchel ar gael i deuluoedd a phlant. 

Mae gwarchodwyr plant yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o wireddu'r ymrwymiad hwn drwy gynnig gofal plant proffesiynol, o ansawdd uchel, mewn awyrgylch gartrefol a chefnogi dysgu a datblygu plant o wahanol oedrannau, gan weithio'n agos gyda rhieni i ymateb i wahanol anghenion. 

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer y gwarchodwyr plant cofrestredig wedi gostwng yn sydyn. Mewn ymateb, fe wnaethom gomisiynu Adolygiad Annibynnol i ddeall y rhesymau tu cefn i hyn a beth y gellid ei wneud i gefnogi cynnal nifer y gwarchodwyr plant yng Nghymru a'i dyfu. Gwnaeth yr adolygiad nifer o argymhellion gyda'r nod o fynd i'r afael â'r heriau sy'n gwthio rhai gwarchodwyr plant allan o'r sector ac  yn rhwystro eraill rhag ymuno ag ef. 

Mae Wythnos Genedlaethol Gwarchod Plant yn rhoi cyfle i ni ddathlu a rhoi llwyfan i warchod plant a'i bwysigrwydd yn y sector gofal plant yng Nghymru. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ni roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y gwaith rydym yn ei wneud, gyda phartneriaid, i ymateb i argymhellion yr adolygiad annibynnol. 

Bydd adolygiad yn cael ei gynnal o'r broses ymgeisio ar-lein ar gyfer gwarchod plant i ymgeiswyr newydd er mwyn sicrhau proses esmwyth. Er mwyn helpu gwarchodwyr plant newydd i gael gafael ar gyfoeth o wybodaeth allweddol, bydd adnodd un stop yn cael ei ddatblygu i weithredu fel pwynt canolog iddynt gael gwybodaeth am ba gyngor, cefnogaeth a chyllid sydd ar gael i'w helpu i ymuno â'r sector.

Er mwyn cefnogi gwarchodwyr plant i redeg eu lleoliadau, bydd canllawiau'n cael eu datblygu i'w helpu i ddeall a drafftio'r polisïau sydd eu hangen arnynt i leihau eu baich gweinyddol. Bydd canllawiau hefyd yn cael eu datblygu sy'n mynegi beth i'w ddisgwyl pan gynhelir arolygiad, er mwyn lleddfu pryderon gwarchodwyr plant amdanynt. 

Bydd y Llythyr Egluro Polisi Cynllunio a Gofal Plant yng Nghymru  yn cael ei ddiweddaru a'i ailgyhoeddi i helpu gyda cheisiadau cynllunio a fyddai'n galluogi gwarchodwyr plant i ehangu eu darpariaeth. Bydd gwaith hefyd yn mynd rhagddo i godi ymwybyddiaeth o'r cymorth busnes sydd ar gael i warchodwyr plant. 

Bydd awdurdodau lleol (gan weithio gyda PACEY Cymru) yn cael eu hannog i hwyluso cyfarfodydd clwstwr neu rwydweithio ar gyfer gwarchodwyr plant newydd a rhai sydd wedi'u hen sefydlu. Yn ogystal byddwn yn ymgysylltu â gwarchodwyr plant i sicrhau bod  hyfforddiant yn cael ei gyflwyno yn y dull mwyaf addas i'w hanghenion. 

Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn parhau i gasglu data ar faint sy'n cofrestru'n warchodwyr plant bob blwyddyn a faint sy'n canslo'u cofrestriadau er mwyn gweld a yw'r camau rydym yn eu cymryd yn dwyn ffrwyth.   

Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo ar nifer o'r camau gweithredu. Byddaf yn monitro'r gwaith hwn yn ofalus ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am gynnydd.

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r holl bartneriaid sy'n gweithio gyda ni i gyflawni'r camau hyn i gefnogi cynnal a chynyddu nifer y gwarchodwyr plant yng Nghymru.