Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AC, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru yn Genedl Gwaith Teg lle mae’r holl weithwyr yn ennill bywoliaeth deg, yn cael eu cynrychioli’n effeithiol a’u lleisiau’n cael eu clywed. Gwlad lle maent yn gallu cael gwaith teg a diogel ac yn gallu camu ymlaen yn eu gyrfa mewn amgylchedd iach a chymhwysol, a’u hawliau’n cael eu parchu.

Mae sicrhau bod mwy o weithwyr yn gallu elwa ar y Cyflog Byw yn gam pwysig tuag at wireddu’r uchelgais hon. Mae’r Cyflog Byw ar gyfer Cymru yn cael ei gyfrifo’n annibynnol bob blwyddyn yn seiliedig ar gostau byw go iawn. Mae’r gyfradd fesul awr yn cael ei chyfrifo gan y Resolution Foundation a’i goruchwylio gan y Comisiwn Cyflog Byw, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael ynghylch safonau byw yn y DU. 

Mae’n bleser gennyf lansio’r Wythnos Cyflog Byw (11-15 Tachwedd) ar gyfer 2019 drwy gyhoeddi mai  £9.30 yr awr fydd y Cyflog Byw ar gyfer Cymru eleni – sef cynnydd o 30c ers y llynedd. Mae’r gyfradd fesul awr yn codi 3% i gydnabod chwyddiant a’r achosion mynych o dlodi mewn gwaith. Bydd hyn yn golygu y bydd miloedd o weithwyr yng Nghymru yn cael cynnydd pwysig yn eu cyflog.

Mae angen i ni sicrhau nawr bod mwy o sefydliadau a chyflogwyr yn ymuno ac yn cael eu hachredu fel cyflogwyr Cyflog Byw.

Fe wnes i’r cyhoeddiad am y Cyflog Byw yng Nghaerdydd – dinas lle mae’r cyngor yn gyflogwr Cyflog Byw achrededig ac yn gweithio gyda chwmnïau cyhoeddus a phreifat i’w hannog i wneud yr un fath.

Mae’r ddinas – sy’n ddinas Cyflog Byw – yn awyddus i weld nifer y gweithwyr sy’n derbyn y Cyflog Byw yn dyblu, gan roi hwb i deuluoedd sydd wedi’u llesteirio gan gyflogau isel a helpu busnesau i elwa ar weithlu sydd wedi ymgysylltu’n well.

Mae’r Comisiwn Gwaith Teg, a gafodd ei sefydlu gennym ni, wedi cynhyrchu diffiniad o waith teg sydd wedi ei gydnabod, a hefyd yr arferion gorau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth gwaith teg. Roedd yn argymell y dylai cyflogwyr ddefnyddio’r Cyflog Byw ar gyfer Cymru fel yr isafswm ar gyfer cyflog gofynnol yr holl oriau gwaith, ac y dylai cyflogwr fod wedi ennill achrediad fel Cyflogwr Cyflog Byw, neu fod yn gweithio tuag at hynny. 

Derbyniwyd argymhelliad y Comisiwn y dylem fabwysiadu a defnyddio ei ddiffiniad a’i ddisgrifiad o nodweddion gwaith teg ar draws Llywodraeth Cymru ac wrth inni hyrwyddo gwaith teg, gan gynnwys mewn perthynas â’r Contract Economaidd a’r Gronfa Dyfodol Economaidd. Rydym bellach yn gweithio gyda’n partneriaid cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill i weld sut y gallwn weithredu’r argymhelliad hwn ac argymhellion uchelgeisiol eraill. 

Bydd gan ddiffiniad a nodweddion gwaith teg le amlwg yn y Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi. Bydd yn ofynnol i bob sefydliad sy’n cael arian cyhoeddus gadw at y Cod – a bydd yn rhaid i’r holl sefydliadau sy’n ymuno â’r Cod ddangos sut y byddant yn gwneud hynny a pha ystyriaeth sydd wedi ei rhoi i dalu’r Cyflog Byw ar gyfer Cymru.

Byddaf yn ysgrifennu at holl gyrff cyhoeddus Cymru yn gofyn iddynt sicrhau achrediad Cyflog Byw. I nifer o sefydliadau bydd hon yn siwrnai – a bydd Llywodraeth Cymru gyda nhw bob cam o’r ffordd